Plant sy’n cael gwasanaethau Dechrau’n Deg, yn ôl awdurdod lleol
None
|
Metadata
- Gwybodaeth lefel uchel
- Gwybodaeth cryno
- Gwybodaeth ansawdd ystadegol
- Dolenni'r we
- Allweddeiriau
- Data agored
Teitl
Plant sy’n cael gwasanaethau Dechrau’n Deg, yn ôl awdurdod lleolDiweddariad diwethaf
12 Tachwedd 2024Diweddariad nesaf
Hydref 2025 (dros dro)Sefydliad cyhoeddi
Llywodraeth CymruFfynhonnell 1
Ffurflenni Monitro Data Dechrau’n Deg Llywodraeth CymruCyswllt ebost
ystadegau.iechyd@llyw.cymruDynodiad
Gwybodaeth reolaetholLefel isaf o ddadelfennu daearyddol
Awdurdodau lleolCwmpas daearyddol
Awdurdodau lleolCwmpas ieithyddol
Saesneg a ChymraegTrwyddedu data
Gallwch ddefnyddio ac ailddefnyddio'r data hwn am ddim mewn unrhyw fformat neu gyfrwng, dan delerau'r Drwydded Llywodraeth Agored - gweler http://www.nationalarchives.gov.uk/doc/open-government-licence-cymraegDisgrifiad cyffredinol
Rhaglen gan Lywodraeth Cymru ar gyfer y blynyddoedd cynnar yw Dechrau'n Deg a ddarperir gan awdurdodau lleol yng Nghymru. Nod y rhaglen yw gwella canlyniadau i deuluoedd sydd â phlant o dan 4 oed yn rhai o ardaloedd mwyaf difreintiedig Cymru.Amlder cyhoeddi
BlynyddolCyfnodau data dan sylw
2013-2014 ymlaenDefnyddwyr, defnydd a chyd-destun
Diben y datganiad ystadegol hwn yw darparu tystiolaeth ar gyfer datblygu polisi; caniatáu i awdurdodau lleol fonitro a meincnodi eu darpariaeth gwasanaeth yn erbyn awdurdodau lleol eraill yng Nghymru; a rhoi gwybod i’r cyhoedd am ddarpariaeth y rhaglen Dechrau’n Deg.Ansawdd ystadegol
Effeithiwyd ar ddata o 2020-21 a 2021-22 yn sgil y pandemig COVID-19. Mewn blynyddoedd cyn y pandemig, yn gyffredinol dim ond cysylltiadau wyneb yn wyneb gafodd eu cofnodi fel cysylltiadau Dechrau'n Deg. Nododd canllawiau Llywodraeth Cymru a gyhoeddwyd ym mis Mehefin 2021 y dylid, fel rheol gyffredinol, cofnodi unrhyw weithgaredd wedi'i dargedu drwy wahanol ddulliau yn ystod y pandemig (hy cysylltiadau rhithiol drwy Skype neu Whatsapp) yn yr un modd ag y cofnodir cysylltiadau wyneb yn wyneb o'r blaen. Roedd y canllawiau hefyd yn dweud y dylai awdurdodau lleol arfer eu barn broffesiynol wrth benderfynu a oedd cyswllt rhithiol yn ddigon ystyrlon i gael ei gofnodi.Mae awdurdodau lleol wedi rhoi adborth ychwanegol ar sut effeithiwyd ar wasanaethau yn 2021-22, ac roedd y rhain yn cynnwys:
• roedd rhai rhaglenni rhianta a rhaglenni iaith, lleferydd a chyfathrebu naill ai ddim yn cael eu rhedeg neu ddim yn gallu cael eu cwblhau
• roedd gan rai sesiynau gofal plant bresenoldeb isel oherwydd pryder parhaus rhieni ynghylch COVID-19
• dewisodd rhai rhieni beidio â manteisio ar ofal plant y byddent o bosibl wedi’i dderbyn cyn y pandemig
• byddai rhai staff Dechrau’n Deg wedi bod yn hunanynysu, yn eu gwarchod eu hunain neu’n sâl, gan effeithio ar y gwasanaeth a oedd yn cael ei gynnig
• mae’n bosibl bod rhai cysylltiadau a gofnodwyd fel cysylltiadau wyneb yn wyneb wedi digwydd dros y ffôn neu’n rhithiol.
Mae angen ystyried y ffactorau hyn wrth ddefnyddio data ar gyfer 2021-22. Cafodd y pandemig hefyd effaith ar wasanaethau yn 2022-23. Er na welwyd yn 2022-23 y cyfyngiadau a'r addasiadau gorfodol o ran darparu gwasanaethau a oedd ar waith yn 2021-22, mae’n bosibl y bu rhywfaint o aflonyddwch o hyd oherwydd achosion lleol o'r feirws. At hynny, cadwyd rhywfaint o ddarpariaeth rithwir cyrsiau magu plant, lleferydd, iaith a chyfathrebu a gwasanaethau ymwelwyr fel rhan o waith cyflawni rhaglenni ar gyfer 2022-23, naill ai oherwydd dewis personol neu oherwydd yr ystyriwyd bod honno’n ffordd effeithiol o gyrraedd rhai teuluoedd gan ddibynnu ar amgylchiadau unigol. Mae angen gofal felly wrth gymharu data 2022-23 gyda ffigurau cyn y pandemig.
.
Ymweliadau Iechyd yn Rhondda Cynon Taf
Mae Rhondda Cynon Taf yn treialu model newydd ar gyfer ymweliadau iechyd, sy’n golygu bod data 2020-21, 2021-22 a 2022-23 yn cael eu casglu ar sail wahanol i flynyddoedd blaenorol. Mae hyn olygu y gallai unrhyw wahaniaethau rhwng blynyddoedd blaenorol ac unrhyw wahaniaethau gydag ardaloedd awdurdodau lleol eraill fod oherwydd y model darpariaeth gwasanaethau gwahanol. Byddai’n ddoeth felly bod yn ofalus wrth gymharu data Rhondda Cynon Taf â data blynyddoedd blaenorol, ac wrth gymharu â data awdurdodau lleol eraill yn 2022-23.
Cyhoeddir adroddiad ansawdd llawn ochr yn ochr â'r datganiad ystadegol hwn a gellir ei gyrchu trwy'r dolenni.
Dolenni'r we
https://www.llyw.cymru/dechraun-deg' target='newtab'>https://www.llyw.cymru/dechraun-deghttps://www.llyw.cymru/dechraun-deg' target='newtab'>https://www.llyw.cymru/dechraun-deg