Nifer y cysylltiadau a nifer cyfartalog y cysylltiadau fesul plentyn sy'n derbyn gwasanaethau Dechrau'n Deg, yn ôl grŵp staff a yn ôl awdurdod lleol
Mae nifer y cysylltiadau wyneb yn wyneb yn cynnwys rhai a ddigwyddodd yn rhithiol (ar-lein neu dros y ffôn) yn ystod pandemig Covid-19.
None
|
Metadata
- Gwybodaeth lefel uchel
- Gwybodaeth cryno
- Dolenni'r we
- Gwybodaeth ansawdd ystadegol
- Allweddeiriau
- Data agored
Teitl
Dangosyddion dethol rhaglen Dechrau'n Deg fesul awdurdod lleol - nifer cyfartalog y cysylltiadau fesul plentyn sy'n derbyn gwasanaethauDiweddariad diwethaf
12 Tachwedd 2024Diweddariad nesaf
Hydref 2025 (dros dro)Sefydliad cyhoeddi
Llywodraeth CymruFfynhonnell 1
Ffurflenni Monitro Data Dechrau’n Deg Llywodraeth CymruCyswllt ebost
ystadegau.iechyd@llyw.cymruDynodiad
Gwybodaeth reolaetholLefel isaf o ddadelfennu daearyddol
Awdurdodau lleolCwmpas daearyddol
Awdurdodau lleolCwmpas ieithyddol
Saesneg a ChymraegTrwyddedu data
Gallwch ddefnyddio ac ailddefnyddio'r data hwn am ddim mewn unrhyw fformat neu gyfrwng, dan delerau'r Drwydded Llywodraeth Agored - gweler http://www.nationalarchives.gov.uk/doc/open-government-licence-cymraegDisgrifiad cyffredinol
Rhaglen gan Lywodraeth Cymru ar gyfer y blynyddoedd cynnar yw Dechrau'n Deg a ddarperir gan awdurdodau lleol yng Nghymru. Nod y rhaglen yw gwella canlyniadau i deuluoedd sydd â phlant o dan 4 oed yn rhai o ardaloedd mwyaf difreintiedig Cymru.Casgliad data a dull cyfrifo
Mae'r tîm iechyd ehangach yn cael ei ddiffinio fel y staff hynny sydd â chofrestriad iechyd neu ofal cymdeithasol proffesiynol, a ariennir gan raglen Dechrau'n Deg. Bydd yn cynnwys staff sydd yn:• rheolwyr iechyd heb achosion penodol
• deietegwyr
• bydwragedd
• seicolegwyr clinigol
• seicolegwyr addysg
• therapyddion iaith a lleferydd
• gweithwyr cymdeithasol
• nyrsys cymunedol (gyda chymhwyster priodol)
• therapyddion galwedigaethol
• unrhyw weithwyr proffesiynol arall ym meysydd iechyd neu ofal
Mae'r diffiniad o 'staff eraill' yn cynnwys unrhyw staff heb eu cofrestru. Mae hyn fel arfer yn golygu'r rhai nad ydynt wedi cymhwyso'n llawn a'r rhai sy'n cynorthwyo gweithwyr iechyd proffesiynol sydd wedi cymhwyso'n llawn wrth ddarparu gwasanaethau.
Amlder cyhoeddi
BlynyddolCyfnodau data dan sylw
2012-2013 ymlaenDefnyddwyr, defnydd a chyd-destun
Diben y datganiad ystadegol hwn yw darparu tystiolaeth ar gyfer datblygu polisi; caniatáu i awdurdodau lleol fonitro a meincnodi eu darpariaeth gwasanaeth yn erbyn awdurdodau lleol eraill yng Nghymru; a rhoi gwybod i’r cyhoedd am ddarpariaeth y rhaglen Dechrau’n Deg.Dolenni'r we
https://www.llyw.cymru/dechraun-deg' target='newtab'>https://www.llyw.cymru/dechraun-deghttps://www.llyw.cymru/dechraun-deg' target='newtab'>https://www.llyw.cymru/dechraun-deg
Ansawdd ystadegol
Effeithiwyd ar ddata o 2020-21 a 2021-22 yn sgil y pandemig COVID-19. Mewn blynyddoedd cyn y pandemig, yn gyffredinol dim ond cysylltiadau wyneb yn wyneb gafodd eu cofnodi fel cysylltiadau Dechrau'n Deg. Nododd canllawiau Llywodraeth Cymru a gyhoeddwyd ym mis Mehefin 2021 y dylid, fel rheol gyffredinol, cofnodi unrhyw weithgaredd wedi'i dargedu drwy wahanol ddulliau yn ystod y pandemig (hy cysylltiadau rhithiol drwy Skype neu Whatsapp) yn yr un modd ag y cofnodir cysylltiadau wyneb yn wyneb o'r blaen. Roedd y canllawiau hefyd yn dweud y dylai awdurdodau lleol arfer eu barn broffesiynol wrth benderfynu a oedd cyswllt rhithiol yn ddigon ystyrlon i gael ei gofnodi.Mae awdurdodau lleol wedi rhoi adborth ychwanegol ar sut effeithiwyd ar wasanaethau yn 2021-22, ac roedd y rhain yn cynnwys:
• roedd rhai rhaglenni rhianta a rhaglenni iaith, lleferydd a chyfathrebu naill ai ddim yn cael eu rhedeg neu ddim yn gallu cael eu cwblhau
• roedd gan rai sesiynau gofal plant bresenoldeb isel oherwydd pryder parhaus rhieni ynghylch COVID-19
• dewisodd rhai rhieni beidio â manteisio ar ofal plant y byddent o bosibl wedi’i dderbyn cyn y pandemig
• byddai rhai staff Dechrau’n Deg wedi bod yn hunanynysu, yn eu gwarchod eu hunain neu’n sâl, gan effeithio ar y gwasanaeth a oedd yn cael ei gynnig
• mae’n bosibl bod rhai cysylltiadau a gofnodwyd fel cysylltiadau wyneb yn wyneb wedi digwydd dros y ffôn neu’n rhithiol.
Mae angen ystyried y ffactorau hyn wrth ddefnyddio data ar gyfer 2021-22. Cafodd y pandemig hefyd effaith ar wasanaethau yn 2022-23. Er na welwyd yn 2022-23 y cyfyngiadau a'r addasiadau gorfodol o ran darparu gwasanaethau a oedd ar waith yn 2021-22, mae’n bosibl y bu rhywfaint o aflonyddwch o hyd oherwydd achosion lleol o'r feirws. At hynny, cadwyd rhywfaint o ddarpariaeth rithwir cyrsiau magu plant, lleferydd, iaith a chyfathrebu a gwasanaethau ymwelwyr fel rhan o waith cyflawni rhaglenni ar gyfer 2022-23, naill ai oherwydd dewis personol neu oherwydd yr ystyriwyd bod honno’n ffordd effeithiol o gyrraedd rhai teuluoedd gan ddibynnu ar amgylchiadau unigol. Mae angen gofal felly wrth gymharu data 2022-23 gyda ffigurau cyn y pandemig.
.
Ymweliadau Iechyd yn Rhondda Cynon Taf
Mae Rhondda Cynon Taf yn treialu model newydd ar gyfer ymweliadau iechyd, sy’n golygu bod data 2020-21, 2021-22 a 2022-23 yn cael eu casglu ar sail wahanol i flynyddoedd blaenorol. Mae hyn olygu y gallai unrhyw wahaniaethau rhwng blynyddoedd blaenorol ac unrhyw wahaniaethau gydag ardaloedd awdurdodau lleol eraill fod oherwydd y model darpariaeth gwasanaethau gwahanol. Byddai’n ddoeth felly bod yn ofalus wrth gymharu data Rhondda Cynon Taf â data blynyddoedd blaenorol, ac wrth gymharu â data awdurdodau lleol eraill yn 2022-23.
Cyhoeddir adroddiad ansawdd llawn ochr yn ochr â'r datganiad ystadegol hwn a gellir ei gyrchu trwy'r dolenni.