Nifer o gartrefi Gofal i Oedolion sydd wedi hysbysu am achos COVID-19 a gadarnhawyd ymhlith staff neu breswylwyr, yn ôl dyddiad hysbysiad
Er mwyn gwella’r argaeledd amserol o ddata yn ymwneud â coronafeirws (COVID-19) mewn cartrefi gofal i oedolion mae Llywodraeth Cymru ac Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC) wedi cytuno i gyhoeddi cyfrifiadau dros dro o’r nifer o gartrefi gofal i oedolion sydd wedi rhoi gwybod am un neu fwy o achosion COVID-19. Mae data’r achosion o COVID-19 yn ymwneud â phreswylwyr a staff sy’n gweithio yn y cartref. Wedi'i archifo - heb ei ddiweddaru'n bellach.
None
|
Metadata
- Gwybodaeth lefel uchel
- Gwybodaeth cryno
- Dolenni'r we
- Gwybodaeth ansawdd ystadegol
- Allweddeiriau
- Data agored
Teitl
Nifer o gartrefi Gofal i Oedolion sydd wedi hysbysu am achos COVID-19 a gadarnhawyd ymhlith staff neu breswylwyr, yn ôl Awdurdod Lleol a dyddiad hysbysiadDiweddariad diwethaf
27 Mehefin 2023Diweddariad nesaf
Wedi'i archifo - heb ei ddiweddaru'n bellach.Sefydliad cyhoeddi
Llywodraeth CymruFfynhonnell 1
Arolygiaeth Gofal CymruCyswllt ebost
kas.covid19@llyw.cymruDynodiad
Gwybodaeth reolaetholLefel isaf o ddadelfennu daearyddol
Awdurdodau lleolCwmpas daearyddol
CymruCwmpas ieithyddol
Saesneg a ChymraegTrwyddedu data
Gallwch ddefnyddio ac ailddefnyddio'r data hwn am ddim mewn unrhyw fformat neu gyfrwng, dan delerau'r Drwydded Llywodraeth Agored - gweler http://www.nationalarchives.gov.uk/doc/open-government-licence-cymraegDisgrifiad cyffredinol
Er mwyn gwella’r argaeledd amserol o ddata yn ymwneud â coronafeirws (COVID-19) mewn cartrefi gofal i oedolion mae Llywodraeth Cymru ac Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC) wedi cytuno i gyhoeddi cyfrifiadau dros dro o’r nifer o gartrefi gofal i oedolion sydd wedi rhoi gwybod am un neu fwy o achosion COVID-19. Mae data’r achosion o COVID-19 yn ymwneud â phreswylwyr a staff sy’n gweithio yn y cartref.Casgliad data a dull cyfrifo
Datganiad dyddiol gan Wasanaeth Gwybodeg GIG Cymru (NWIS) ar lefel awdurdodau lleol. Caiff data eu casglu’n ddyddiol ar ffurflen ar-lein sy’n cael ei datblygu a’i chynnal gan Arolygiaeth Gofal Cymru. Caiff data eu dilysu yn erbyn datganiadau blaenorol a bydd ymholiad ynghylch cywirdeb unrhyw newidiadau sylweddol. Caiff data eu cyflwyno drwy ffeil CSV a'u trosglwyddo i gronfa ddata SQL. Mae data’n cynnwys yr holl hysbysiadau hyd at hanner nos bob dydd.O 21 Mai 2021, mae Arolygiaeth Gofal Cymru wedi newid y diwrnod y maent yn cyflenwi data i Lywodraeth Cymru ar nifer y cartrefi i oedolion sy’n rhoi gwybod am un neu ragor o achosion o COVID-19 sydd wedi’u cadarnhau. Erbyn hyn, darperir y data’n wythnosol ar ddydd Mercher, yn hytrach na dydd Iau, oherwydd diweddariad ym mhrosesau mewnol AGC. O’r blaen roeddem yn cyhoeddi adroddiad ar nifer yr achosion o COVID-19 yn ystod y 7 neu 20 diwrnod diwethaf yn seiliedig ar ddata dydd Iau, ond o hyn ymlaen byddwn yn cyfeirio at ddata dydd Mercher.
Rhwng 8 Ebrill a 21 Mai 2021, bu newid ym mha mor aml y mae AGC yn cyflenwi data i Lywodraeth Cymru ar nifer y cartrefi i oedolion sy’n rhoi gwybod am un neu fwy o achosion o COVID-19 a gadarnhawyd. Yn lle eu darparu yn ddyddiol, roedd y data’n cael eu darparu’n wythnosol ar ddydd Iau. Y rheswm dros wneud y newid hwn oedd oherwydd mai ychydig iawn o newid sydd yn y data o ddydd i ddydd. Roedd hyn yn galluogi AGC i ryddhau peth o’r capasiti arolygu a chynyddu eu harolygiadau o wasanaethau. Dim ond ar y data am hysbysiadau o achosion yr effeithiodd y newid hwn. O’r blaen roedd Llywodraeth Cymru yn adrodd ar nifer yr achosion COVID-19 yn y 7 neu 20 diwrnod diwethaf yn seiliedig ar ddata ar y dydd Gwener, ond o 9 Ebrill ymlaen roedd Llywodraeth Cymru yn cyfeirio at y data ar y dydd Iau.
Amlder cyhoeddi
PythefnosolCyfnodau data dan sylw
16 Rhagfyr 2020 ymlaen.Gwybodaeth am ddiwygiadau
Gall data hanesyddol gael eu diwygio ar unrhyw adeg, oherwydd bod modd i AGC ailgyflwyno datganiad ar unrhyw adeg, ac felly gall fod yn wahanol i'r hyn a gyhoeddwyd o'r blaen.Dolenni'r we
https://llyw.cymru/hysbysiadau-i-arolygiaeth-gofal-cymru-yn-ymwneud-covid-19-mewn-cartrefi-gofal-oedolionhttps://arolygiaethgofal.cymru/data-ar-hysbysiadau-marwolaeth-syn-ymwneud-covid-19
The others the welsh version likely available for blog, would need to reuse Eng one for UK dashboard most likely
Ansawdd ystadegol
O ran achosion o COVID-19 a ‘Gadarnhawyd’, o 29 Ebrill ymlaen, mae’r nifer wedi’i ddarparu i AGC gan ddarparwr y cartref gofal fel ateb i’r cwestiwn: ‘A oedd y farwolaeth o ganlyniad i achos o COVID-19 a gadarnhawyd?’Cyn y dyddiad hwn, ni ofynnwyd y cwestiwn hwn i ddarparwr y cartref gofal, felly ‘Cadarnhawyd’ ar gyfer y rhain oedd lle roedd arolygwyr AGC wedi adolygu’r data testun rhydd a ddarparwyd gan ddarparwr y cartref gofal (ar gyfer y cwestiynau ‘achos marwolaeth person, os yw’n hysbys ac wedi’i gadarnhau gan ymarferydd meddygol’ a ‘chrynodeb o’r amgylchiadau a arweiniodd at farwolaeth y person a’r holl ffactorau a gyfrannodd at y farwolaeth’) ac wedi penderfynu ei fod yn ymwneud ag achos a gadarnhawyd.
Yn y ddwy sefyllfa, mae AGC yn dibynnu ar ddarparwr y cartref gofal i roi gwybod iddynt yn briodol am achos a gadarnhawyd.
Yn dilyn canllawiau Llywodraeth Cymru a gyhoeddwyd ar 17 Rhagfyr 2020, gellir datgan fod brigiad o achosion COVID-19 ar ben pan fydd 20 diwrnod wedi pasio ers i’r unigolyn olaf a effeithiwyd gael prawf positif neu ddangos symptomau. Mae’n rhaid i dimau amlddisgyblaethol ystyried amgylchiadau penodol cartrefi unigol, gan gynnwys y prosesau Atal a Rheoli Heintiau a roddwyd ar waith. Yn unol â’r canllawiau hyn, mae AGC wedi diwygio eu hadroddiad o hysbysiadau dyddiol i newid y mesur 28 diwrnod blaenorol yn fesur 20 diwrnod.