Hysbysiadau am farwolaethau preswylwyr cartrefi gofal i oedolion yn ôl lleoliad y farwolaeth a’r diwrnod hysbysu
Er mwyn sicrhau bod data sy'n ymwneud â’r coronafeirws (COVID-19) mewn cartrefi gofal i oedolion ar gael yn gynt, mae Llywodraeth Cymru ac Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC) wedi cytuno i gyhoeddi niferoedd dros dro ar gyfer cartrefi gofal i oedolion sydd wedi rhoi gwybod am un neu fwy o achosion COVID-19 (achosion sydd wedi’u cadarnhau a rhai a amheuir). Gallai lleoliad y farwolaeth fod yn y cartref gofal, yn yr ysbyty neu mewn lleoliad arall. Wedi'i archifo - heb ei ddiweddaru'n bellach.
None
|
Metadata
- Gwybodaeth lefel uchel
- Gwybodaeth cryno
- Gwybodaeth ansawdd ystadegol
- Allweddeiriau
- Dolenni'r we
- Data agored
Teitl
Nifer yr hysbysiadau am farwolaethau preswylwyr cartrefi gofal i oedolion sy'n ymwneud â COVID-19 (achosion sydd wedi’u cadarnhau a rhai a amheuir), sy'n digwydd mewn cartrefi gofal, yn ôl awdurdod lleol a’r diwrnod pan roddwyd gwybod am yr achosDiweddariad diwethaf
27 Mehefin 2023Diweddariad nesaf
Wedi'i archifo - heb ei ddiweddaru'n bellach.Sefydliad cyhoeddi
Llywodraeth CymruFfynhonnell 1
Arolygiaeth Gofal CymruCyswllt ebost
kas.covid19@llyw.cymruDynodiad
Gwybodaeth reolaetholLefel isaf o ddadelfennu daearyddol
Awdurdodau lleolCwmpas daearyddol
CymruCwmpas ieithyddol
Saesneg a ChymraegTrwyddedu data
Gallwch ddefnyddio ac ailddefnyddio'r data hwn am ddim mewn unrhyw fformat neu gyfrwng, dan delerau'r Drwydded Llywodraeth Agored - gweler http://www.nationalarchives.gov.uk/doc/open-government-licence-cymraegDisgrifiad cyffredinol
Er mwyn sicrhau bod data sy'n ymwneud â’r coronafeirws (COVID-19) mewn cartrefi gofal i oedolion ar gael yn gynt, mae Llywodraeth Cymru ac Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC) wedi cytuno i gyhoeddi niferoedd dros dro ar gyfer cartrefi gofal i oedolion sydd wedi rhoi gwybod am un neu fwy o achosion COVID-19 (achosion sydd wedi’u cadarnhau a rhai a amheuir). Gallai lleoliad y farwolaeth fod yn y cartref gofal, yn yr ysbyty neu mewn lleoliad arall.Nid yw'r data yn seiliedig ar brofion a gadarnhawyd yn y labordy, ac nid oes modd eu cymharu yn uniongyrchol gyda data Iechyd Cyhoeddus Cymru (ICC). Yn eu dangosfwrdd gwyliadwriaeth gyflym, mae ICC yn cynnwys rhai hysbysiadau a dderbyniwyd o gartrefi gofal gyda phrawf positif am COVID-19 sydd wedi’i gadarnhau gan labordy. Ni all y data hyn cael eu hadio at ei gilydd. Mae Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi’r data hyn i sicrhau bod mynediad i ddata AGC yn dryloyw ac i roi syniad amserol o'r tueddiadau ar gyfer holl farwolaethau preswylwyr cartrefi gofal yng Nghymru, yn sgil COVID-19 neu fel arall.
Casgliad data a dull cyfrifo
Datganiad dyddiol gan Wasanaeth Gwybodeg GIG Cymru (NWIS) ar lefel awdurdodau lleol. Caiff data eu casglu’n ddyddiol ar ffurflen ar-lein sy’n cael ei datblygu a’i chynnal gan Arolygiaeth Gofal Cymru. Caiff data eu dilysu yn erbyn datganiadau blaenorol a bydd ymholiad ynghylch cywirdeb unrhyw newidiadau sylweddol. Caiff data eu cyflwyno drwy ffeil CSV a'u trosglwyddo i gronfa ddata SQL. Mae data’n cynnwys yr holl hysbysiadau hyd at hanner nos bob dydd.Amlder cyhoeddi
PythefnosolCyfnodau data dan sylw
1 Ionawr 2018 ymlaen.Gwybodaeth am ddiwygiadau
Gall data hanesyddol gael eu diwygio ar unrhyw adeg, oherwydd bod modd i AGC ailgyflwyno datganiad ar unrhyw adeg, ac felly gall fod yn wahanol i'r hyn a gyhoeddwyd o'r blaen.Ansawdd ystadegol
O ran achosion o COVID-19 a ‘Gadarnhawyd’, o 29 Ebrill 2020 ymlaen, mae’r nifer wedi’i ddarparu i AGC gan ddarparwr y cartref gofal fel ateb i’r cwestiwn: ‘A oedd y farwolaeth o ganlyniad i achos o COVID-19 a gadarnhawyd?’Cyn y dyddiad hwn, ni ofynnwyd y cwestiwn hwn i ddarparwr y cartref gofal, felly ‘Cadarnhawyd’ ar gyfer y rhain oedd lle roedd arolygwyr AGC wedi adolygu’r data testun rhydd a ddarparwyd gan ddarparwr y cartref gofal (ar gyfer y cwestiynau ‘achos marwolaeth person, os yw’n hysbys ac wedi’i gadarnhau gan ymarferydd meddygol’ a ‘chrynodeb o’r amgylchiadau a arweiniodd at farwolaeth y person a’r holl ffactorau a gyfrannodd at y farwolaeth’) ac wedi penderfynu ei fod yn ymwneud ag achos a gadarnhawyd.
Yn y ddwy sefyllfa, mae AGC yn dibynnu ar ddarparwr y cartref gofal i roi gwybod iddynt yn briodol am achos a gadarnhawyd.
Mae’n ofynnol i gartrefi gofal roi gwybod i AGC am leoliad ac achosion marwolaethau. Cyn 29 Ebrill 2020 roedd hyn drwy flwch testun rhydd ac roedd AGC yn defnyddio chwiliadau â llaw ar y data i gynhyrchu crynodebau yn ôl categori. Ers 29 Ebrill 2020 diwygiwyd y ffurflen i gynnwys categorïau blwch ticio gorfodol ar gyfer achosion a gadarnhawyd/posibl o COVID-19, ac i gynnwys lleoliad (ysbyty, cartref gofal, hosbis, ambiwlans, arall). O ganlyniad, newidiodd y fethodoleg a ddefnyddir i gynhyrchu’r ffigurau o 29 Ebrill 2020 ymlaen.
Mae’r marwolaethau sy’n gysylltiedig â COVID-19 yn y siart yn cynnwys achosion sydd wedi’u cadarnhau ac achosion posibl o COVID-19. Ehangwyd y polisi profi mewn cartrefi gofal ar 16 Mai 2020 i gynnwys profion a gynigir i bob aelod o staff a phob preswyliwr sy’n symptomatig ac asymptomatig ac nad ydynt erioed wedi profi'n bositif am COVID-19, hyd yn oed lle nad oedd y cartref wedi rhoi gwybod am achosion posibl neu achosion wedi eu cadarnhau. Gallai profion mwy eang fod wedi arwain at rai marwolaethau'n cael eu cofnodi fel marwolaethau nad ydynt yn rhai COVID-19 pan fyddant o'r blaen efallai wedi cael eu cofnodi fel rhai a amheuir o fod yn farwolaeth COVID-19.
Oherwydd y patrymau gwaith, mae tueddu i fod llai o hysbysiadau o achosion COVID-19 farwolaethau yn ystod y penwythnosau o’i gymharu â dydd Llun i ddydd Gwener. Yn aml mae mwy o hysbysiadau ar ddydd Llun.
O 26 Hydref 2021, cafodd nifer yr hysbysiadau o farwolaethau ymysg preswylwyr cartrefi gofal i oedolion ei ddiwygio i adlewyrchu canfyddiadau trefniadau sicrhau ansawdd parhaus AGC. Diwygiodd AGC gategorïau achos marwolaeth rhai preswylwyr, ac arweiniiodd hynny at ostyngiad o 15 yn yr hysbysiadau o farwolaethau lle yr oedd amheuaeth o COVID-19 a chynnydd o 15 yn y marwolaethau nad oedd yn gysylltiedig â COVID-19 rhwng Mawrth ac Ebrill 2020. Dynodir ffigurau sydd wedi’u diwygio gydag ‘(r)’ ar StatsCymru.
I sicrhau bod cyfrifiadau dros dro o farwolaethau mewn cartrefi gofal, sy’n seiliedig ar hysbysiadau gan ddarparwyr cartrefi gofal, yn cael eu hadrodd yn gywir, cynhaliodd AGC adolygiad manwl o’r data. Canfuwyd bod rhai darparwyr ar ambell achlysur wedi darparu hysbysiad dyblyg o’r un farwolaeth, naill ai oherwydd gwall gan y darparwr neu wrth geisio diweddaru hysbysiadau blaenorol. O 12 Hydref 2021, cafodd y dyblygiadau hyn eu dileu o’r ffigurau cyhoeddedig. Mae’r broses hon wedi arwain at ostyngiad yn nifer y marwolaethau ymysg preswylwyr cartrefi gofal i oedolion, a chartrefi gofal i oedolion a phlant (gostyngiad o 92 o farwolaethau nad oedd yn gysylltiedig â COVID-19 a 13 o farwolaethau cysylltiedig â COVID-19 rhwng 1 Ionawr 2019 a 1 Hydref 2021).
Er mwyn sicrhau bod cyfrifon dros dro o farwolaethau mewn cartrefi gofal yn cael eu hadrodd yn gywir, yn seiliedig ar hysbysiadau gan ddarparwyr cartrefi gofal, cynhaliodd AGC adolygiad manwl o’r data. Canfuwyd bod rhai darparwyr, ar rai achlysuron, wedi adrodd am hysbysiadau dyblyg o’r un farwolaeth, naill ai drwy gamgymeriad darparwr neu mewn ymgais i roi diweddariadau i hysbysiadau blaenorol. O 27 Gorffennaf 2022, tynnwyd y ffigurau dyblyg hyn o'r ffigurau a gyhoeddwyd. Arweiniodd y broses hon at ostyngiad yn nifer y marwolaethau ymhlith preswylwyr mewn cartrefi gofal i oedolion, a chartrefi gofal oedolion a phlant.
Gall dyblygiadau yn ddigwydd o hyd gan ei bod yn bosibl y gallai darparwyr barhau i adrodd am hysbysiadau lluosog o’r un farwolaeth, fodd bynnag, mae AGC yn sicrhau ansawdd yn rheolaidd i leihau’r effaith y gallai hyn ei chael ar y data. Os cyflwynir diwygiadau, bydd ffigurau diwygiedig yn cael eu cyhoeddi ar StatsCymru, wedi’u dynodi â ‘(r)’, sy’n nodi bod y ffigur wedi’i ddiwygio ers y cyhoeddiad diwethaf.
Allweddeiriau
COVID-19, Coronafeirws, AGC, Cartrefi gofalDolenni'r we
https://llyw.cymru/hysbysiadau-i-arolygiaeth-gofal-cymru-yn-ymwneud-covid-19-mewn-cartrefi-gofal-oedolionhttps://arolygiaethgofal.cymru/data-ar-hysbysiadau-marwolaeth-syn-ymwneud-covid-19