Neidio i'r cynnwys
Darparwr data: Llywodraeth Cymru Rheoli Gwybodaeth Nifer o gartrefi Gofal Cofrestredig i Oedolion, yn ôl awdurdod lleol

Er mwyn gwella’r argaeledd amserol o ddata yn ymwneud â coronafeirws (COVID-19) mewn cartrefi gofal i oedolion mae Llywodraeth Cymru ac Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC) wedi cytuno i gyhoeddi cyfrifiadau dros dro o’r nifer o gartrefi gofal i oedolion sydd wedi rhoi gwybod am un neu fwy o achosion COVID-19. Mae data’r achosion o COVID-19 yn ymwneud â phreswylwyr a staff sy’n gweithio yn y cartref. Wedi'i archifo - heb ei ddiweddaru'n bellach.

None

Metadata

Teitl

Nifer o gartrefi Gofal Cofrestredig i Oedolion yn ôl awdurdod lleol

Diweddariad diwethaf

27 Mehefin 2023 27 Mehefin 2023

Diweddariad nesaf

Wedi'i archifo - heb ei ddiweddaru'n bellach.

Sefydliad cyhoeddi

Llywodraeth Cymru

Ffynhonnell 1

Arolygiaeth Gofal Cymru

Cyswllt ebost

kas.covid19@llyw.cymru

Dynodiad

Gwybodaeth reolaethol

Lefel isaf o ddadelfennu daearyddol

Awdurdodau lleol

Cwmpas daearyddol

Cymru

Cwmpas ieithyddol

Saesneg a Chymraeg

Trwyddedu data

Gallwch ddefnyddio ac ailddefnyddio'r data hwn am ddim mewn unrhyw fformat neu gyfrwng, dan delerau'r Drwydded Llywodraeth Agored - gweler http://www.nationalarchives.gov.uk/doc/open-government-licence-cymraeg

Disgrifiad cyffredinol

Er mwyn gwella’r ddarpariaeth o ddata amserol sydd ar gael ynglyn â’r coronafeirws (COVID-19) mewn cartrefi gofal i oedolion mae Llywodraeth Cymru ac Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC) wedi cytuno i gyhoeddi cyfrifiadau dros dro o nifer y cartrefi gofal i oedolion sydd wedi rhoi gwybod am un neu fwy o achosion COVID-19 a gadarnhawyd a chyfrifiadau dros dro o farwolaethau mewn cartrefi gofal, yn seiliedig ar yr wybodaeth y mae darparwyr cartrefi gofal yn ei rhoi i ACG.

Casgliad data a dull cyfrifo

Datganiad dyddiol gan Wasanaeth Gwybodeg GIG Cymru (NWIS) ar lefel awdurdodau lleol. Caiff data eu casglu’n ddyddiol ar ffurflen ar-lein sy’n cael ei datblygu a’i chynnal gan Arolygiaeth Gofal Cymru. Caiff data eu dilysu yn erbyn datganiadau blaenorol a bydd ymholiad ynghylch cywirdeb unrhyw newidiadau sylweddol. Caiff data eu cyflwyno drwy ffeil CSV a'u trosglwyddo i gronfa ddata SQL. Mae data’n cynnwys yr holl hysbysiadau hyd at hanner nos bob dydd.

Amlder cyhoeddi

Pythefnosol

Cyfnodau data dan sylw

4 Rhagfyr 2020 ymlaen

Gwybodaeth am ddiwygiadau

Gall data hanesyddol gael eu diwygio ar unrhyw adeg, oherwydd bod modd i AGC ailgyflwyno datganiad ar unrhyw adeg, ac felly gall fod yn wahanol i'r hyn a gyhoeddwyd o'r blaen.

Ansawdd ystadegol

Mae nifer y cartrefi gofal i oedolion yn yr adroddiad hwn yn amrywio. Mae hyn o ganlyniad i gofrestru cartrefi gofal newydd i oedolion a chau cartrefi gofal eraill. Er enghraifft, yn ystod mis Tachwedd 2020, tynnwyd 6 cartref gofal i oedolion oddi ar y rhestr ac ychwanegwyd 4 cartref o’r newydd

Allweddeiriau

COVID-19, Coronafeirws, AGC, Cartrefi gofal