Amser rhwng atgyfeiriad a dechrau’r driniaeth (chwarterol)
None
|
Metadata
- Gwybodaeth lefel uchel
- Gwybodaeth cryno
- Allweddeiriau
- Dolenni'r we
- Gwybodaeth ansawdd ystadegol
- Data agored
Teitl
Amser rhwng atgyfeiriad a dechrau’r driniaethDiweddariad diwethaf
3 Awst 2022Diweddariad nesaf
Ddim yn cael ei ddiweddaru’n bellach - gweler gwefan IGDC (https://igdc.gig.cymru/) am ragor o wybodaeth.Sefydliad cyhoeddi
Llywodraeth CymruCyswllt ebost
ystadegau.iechyd@llyw.cymruDynodiad
Gwybodaeth reolaetholLefel isaf o ddadelfennu daearyddol
CymruCwmpas daearyddol
CymruCwmpas ieithyddol
Saesneg a ChymraegTrwyddedu data
Gallwch ddefnyddio ac ailddefnyddio'r data hwn am ddim mewn unrhyw fformat neu gyfrwng, dan delerau'r Drwydded Llywodraeth Agored - gweler http://www.nationalarchives.gov.uk/doc/open-government-licence-cymraegDisgrifiad cyffredinol
Camddefnyddio Sylweddau yng Nghymru, Ystadegau ChwarterolCasgliad data a dull cyfrifo
Mae'r ystadegau chwarterol hyn yn cyflwyno gwybodaeth gryno am wasanaethau triniaeth ar gyfer camddefnyddio sylweddau, gan gynnwys data ar weithgaredd yn ôl cyffur ac alcohol. Mae'r data ond yn berthnasol i bobl sy'n derbyn triniaeth ar gyfer camddefnyddio sylweddau ac, o ganlyniad, mae ond yn cynrychioli cyfran o'r holl bobl sy'n camddefnyddio sylweddau.Ffynhonnell y data yw Cronfa Ddata Genedlaethol Cymru ar Gamddefnyddio Sylweddau (WNDSM). Mae'n cynnwys manylion yr holl atgyfeiriadau i asiantaethau cyffuriau ac alcohol yng Nghymru, ac fe'i cedwir gan Wasanaeth Gwybodeg GIG Cymru. Mae'r gronfa ddata yn ddeinamig, hynny yw, mae cofnodion yn cael eu diwygio wrth i fwy o wybodaeth gael ei chyflwyno gan asiantaethau. Mae hyn yn golygu y bydd ffigurau o'r pedwar chwarter blaenorol yn cael eu diwygio, a dylid ystyried hyn wrth ddehongli'r data. O ganlyniad, y pumed tro y bydd ddata yn cael ei gyhoeddi ar gyfer chwarter penodol, bydd yn cael ei nodi fel “terfynol” tan yr amser hwn bydd y data yn cael ei nodi fel "dros dro". Mae data ar y pwnc hwn hefyd yn cael ei gyhoeddi mewn adroddiad blynyddol ym mis Hydref. Noder nad yw'r ystadegau chwarterol a blynyddol yn gymaradwy yn uniongyrchol, yn bennaf gan nad yw cleientiaid na fynychodd mewn cyfnod cynnar iawn h.y. cyn asesiad, wedi'u cynnwys yn nhablau'r adroddiad blynyddol ond eu bod wedi'u cynnwys yma yn yr ystadegau chwarterol.
Mae rhywfaint o'r data a gyflwynir yn cael ei ddefnyddio i fesur Dangosyddion Perfformiad Allweddol (KPIs) i gefnogi'r gwaith o reoli perfformiad gwasanaethau triniaeth camddefnyddio sylweddau yng Nghymru. Mae hyn yn cynnwys dangosydd perfformiad i gyflawni amser aros o 20 diwrnod gwaith ar y mwyaf rhwng atgyfeirio a dechrau triniaeth. Mae'r dangosydd hwn hefyd wedi'i gynnwys yn Rhaglen Lywodraethu Llywodraeth Cymru.
Gall asesiadau, dyddiadau dechrau triniaeth a dyddiadau cau ymwneud ag unrhyw atgyfeiriad ers mis Ebrill 2005 pan sefydlwyd y gronfa ddata.
Amlder cyhoeddi
ChwarterolCyfnodau data dan sylw
Ionawr 2013 tan Mawrth 2022Defnyddwyr, defnydd a chyd-destun
I gael gwybodaeth am ddefnyddwyr, defnyddiau a chyd-destun, dilynwch y ddolen i'r cyhoeddiad blynyddol a adroddiad ansawddTalgrynnu wedi'u ddefnyddio
Mae canrannau wedi'u talgrynnu i un lle degol.Gwybodaeth am ddiwygiadau
Ym mhob cyhoeddiad chwarterol, mae data ar gyfer y pedwar chwarter blaenorol yn cael ei ddiwygio er mwyn cynnwys newidiadau i gofnodion.Allweddeiriau
Camddefnyddio SylweddauDolenni'r we
Ystadegau triniaeth blynyddol: http://gov.wales/statistics-and-research/substance-misuse/?skip=1&lang=cyAnsawdd ystadegol
Adroddiad ansawdd:Mae'n ofynnol i bob Darparwr Gwasanaethau sy'n derbyn cyllid Llywodraeth Cymru, naill ai'n uniongyrchol neu drwy'r Partneriaethau Diogelwch Cymunedol, i ddarparu gwasanaethau camddefnyddio sylweddau gydymffurfio'n llawn â gofynion adrodd y gronfa ddata.
Mae Timau Cynghori Rhanbarthol ar Gamddefnyddio Sylweddau (SMARTs) Llywodraeth Cymru wedi bod yn gweithio gyda gwasanaethau triniaeth i wella ansawdd data. At ddibenion y cyhoeddiad hwn, dyma'r materion ansawdd data sy'n effeithio ar yr ystadegau hyn:
Mae rhai asiantaethau yn methu â chau achosion lle mae cleient yn cael ei drosglwyddo rhwng asiantaethau. Mae hyn yn golygu y bydd rhai unigolion yn cael eu cyfrif fwy nag unwaith ar y gronfa ddata.
Mae’n bosibl bod rhai dyddiadau atgyfeirio ac/neu driniaeth wedi eu hychwanegu’n anghywir at gofnodion cleientiaid gan arwain at oedi hirach na’r disgwyl ar gyfer triniaeth. Ymchwilir i unrhyw gofnod sydd yn ymddangos yn anghywir ond nid yw’n bosibl bob amser i asiantaethau triniaeth, yn enwedig y rhai llai, i wirio a diweddaru eu cofnodion.
Efallai na fydd amryw o asiantaethau yn cwblhau'r holl feysydd perthnasol ar y gronfa ddata erbyn i'r data chwarterol gael ei echdynnu.