Cyfraniadau ariannol tuag at dai fforddiadwy drwy rwymedigaethau cynllunio yn ôl awdurdod lleol a swm
None
|
Metadata
- Gwybodaeth cryno
- Gwybodaeth lefel uchel
- Gwybodaeth ansawdd ystadegol
- Dolenni'r we
- Allweddeiriau
- Data agored
Disgrifiad cyffredinol
Mae’r wybodaeth a gyflwynir yma yn rhoi manylion am gyfraniadau ariannol gan ddatblygwyr, a newidiadau yn y cyfraniadau hynny, a dderbyniwyd gan awdurdodau cynllunio ym mhob blwyddyn tuag at ddarparu tai fforddiadwy drwy rwymedigaethau cynllunio. Er ei bod yn ddisgwyliedig yn gyffredinol i gyfraniadau gan ddatblygwyr i dai fforddiadwy gael eu gwneud mewn da ac ar y safle, gall awdurdod cynllunio, mewn achosion eithriadol, gytuno ei bod yn well i ddatblygwr wneud cyfraniad ariannol neu gyfraniad arall tuag at yr amcan o ddarparu tai fforddiadwy, ac mae’r data hyn yn dangos crynodeb o’r cyfraniadau hyn.Er bod yr ardaloedd sydd o fewn awdurdodau’r parciau cenedlaethol o fewn ffiniau awdurdodau lleol, yng nghyd-destun cynllunio mae’r awdurdodau lleol ond yn gyfrifol am y rhannau hynny o’r ardal awdurdod lleol nad ydynt o fewn ffiniau’r parciau cenedlaethol.
Felly yng nghyd-destun cynllunio, mae ffigurau’r awdurdodau lleol a’r awdurdodau Parciau Cenedlaethol gyda’i gilydd yn rhoi’r cyfanswm ar gyfer Cymru gyfan.