Darpariaeth tai fforddiadwy ar dir sydd wedi bod ar gael yn ystod y pum mlynedd diwethaf yn ôl lleoliad a chyfnod
None
|
Metadata
- Gwybodaeth lefel uchel
- Gwybodaeth cryno
- Allweddeiriau
- Dolenni'r we
- Gwybodaeth ansawdd ystadegol
- Data agored
Teitl
Darpariaeth tai fforddiadwy ar dir a ddaeth ar gael ym mhob awdurdod lleol dros y pum mlynedd diwethaf, yn ôl ffynhonnell cyllidDiweddariad diwethaf
7 Tachwedd 2023Diweddariad nesaf
November 2024Sefydliad cyhoeddi
Llywodraeth CymruFfynhonnell 1
Casgliad data am ddarpariaeth tai fforddiadwy, Llywodraeth CymruCyswllt ebost
ystadegau.tai@llyw.cymruDynodiad
Ystadegau GwladolLefel isaf o ddadelfennu daearyddol
Awdurdodau lleol yn ol is-adrannau'r Parc CenedlaetholCwmpas daearyddol
CymruCwmpas ieithyddol
Saesneg a ChymraegTrwyddedu data
Gallwch ddefnyddio ac ailddefnyddio'r data hwn am ddim mewn unrhyw fformat neu gyfrwng, dan delerau'r Drwydded Llywodraeth Agored - gweler http://www.nationalarchives.gov.uk/doc/open-government-licence-cymraegDisgrifiad cyffredinol
Mae'r wybodaeth a gyflwynir yma yn ymwneud â nifer yr unedau tai fforddiadwy ychwanegol a ddarperir bob blwyddyn a'u lleoliad ar dir a gyflwynwyd gan y sector cyhoeddus dros y pum mlynedd diwethaf.Mae'r data'n cynrychioli niferoedd yr unedau ychwanegol a ddarperir neu sydd ar y gweill bob blwyddyn ar dir a gyflwynwyd gan yr awdurdod lleol dros y pum mlynedd diwethaf, ac mae'n cynnwys gweithgaredd gan yr awdurdodau lleol eu hunain, yn ogystal â gan landlordiaid cymdeithasol cofrestredig (RSLs) a datblygwyr sector preifat neu wirfoddol eraill sy'n gweithredu ym mhob ardal.
Mae'r set ddata hon yn canolbwyntio ar unedau tai fforddiadwy ychwanegol a ddarperir ar dir a gyflwynwyd gan yr awdurdod lleol dros y pum mlynedd diwethaf, ac mae'r rhain yn cael eu diffinio fel y rhai a ddarparwyd trwy gynlluniau adeiladau newydd neu drwy brynu, prydlesu neu drosi unedau presennol. Felly, mae hyn yn hepgor unedau fforddiadwy presennol sydd wedi'u hadnewyddu neu eu hailwampio gan nad ydynt yn cael eu dosbarthu fel unedau ychwanegol. Fodd bynnag, lle mae uned bresennol wedi'i throsi yn ddwy uned ar wahân, mae hyn yn cynrychioli uned fforddiadwy ychwanegol. I'r gwrthwyneb, os oedd yna golled net o unedau fforddiadwy mewn eiddo dros flwyddyn, ni ddarparwyd unrhyw unedau tai fforddiadwy ychwanegol. Er enghraifft, pe bai dwy fflat annibynnol mewn un eiddo yn cael eu trosi i fod yn un cartref teuluol, nodir bod nifer yr unedau ychwanegol yn sero, er y dylid nodi nad yw hyn yn cael ei gofnodi fel newid negyddol i nifer yr unedau ychwanegol a ddarparwyd.
Yn y cyd-destun hwn, mae darparu yn golygu bod yr uned wedi'i chwblhau ac ar gael i fyw ynddi.