Tai fforddiadwy a ddarparwyd drwy rwymedigaethau cynllunio ac ar safleoedd eithriedig yn ôl awdurdod, mesur a'r math o gynllunio
None
|
Metadata
- Gwybodaeth lefel uchel
- Gwybodaeth cryno
- Allweddeiriau
- Gwybodaeth ansawdd ystadegol
- Dolenni'r we
- Data agored
Teitl
Darpariaeth tai fforddiadwy trwy rwymedigaethau cynllunio ac ar safleoedd eithriedig gwledig, yn ôl awdurdod cynllunioDiweddariad diwethaf
7 Tachwedd 2023Diweddariad nesaf
Tachwedd 2024Sefydliad cyhoeddi
Llywodraeth CymruFfynhonnell 1
Casgliad data am ddarpariaeth tai fforddiadwy, Llywodraeth CymruCyswllt ebost
ystadegau.tai@llyw.cymruDynodiad
Ystadegau GwladolLefel isaf o ddadelfennu daearyddol
Awdurdodau cynllunioCwmpas daearyddol
CymruCwmpas ieithyddol
Saesneg a ChymraegTrwyddedu data
Gallwch ddefnyddio ac ailddefnyddio'r data hwn am ddim mewn unrhyw fformat neu gyfrwng, dan delerau'r Drwydded Llywodraeth Agored - gweler http://www.nationalarchives.gov.uk/doc/open-government-licence-cymraegDisgrifiad cyffredinol
Mae'r wybodaeth a gyflwynir yma yn ymwneud â nifer yr unedau tai fforddiadwy ychwanegol sy'n cael caniatâd cynllunio a nifer yr unedau ychwanegol a ddarperir ym mhob ardal awdurdod lleol bob blwyddyn. Yr awdurdodau cynllunio yng Nghymru yw'r 22 o awdurdodau lleol a'r 3 awdurdod parc cenedlaethol. Y data a ddangosir yw nifer yr unedau tai fforddiadwy sy'n cael caniatâd cynllunio ac a ddarperir o dan rwymedigaethau cynllunio ac ar safleoedd eithriadau tai fforddiadwy.Mae'r set ddata hon yn canolbwyntio ar unedau tai fforddiadwy ychwanegol a ddarperir ar dir a gyflwynwyd gan yr awdurdod lleol dros y pum mlynedd diwethaf, ac mae'r rhain yn cael eu diffinio fel y rhai a ddarparwyd trwy gynlluniau adeiladau newydd neu drwy brynu, prydlesu neu drosi unedau presennol. Felly, mae hyn yn hepgor unedau fforddiadwy presennol sydd wedi'u hadnewyddu neu eu hailwampio gan nad ydynt yn cael eu dosbarthu fel unedau ychwanegol. Fodd bynnag, lle mae uned bresennol wedi'i throsi yn ddwy uned ar wahân, mae hyn yn cynrychioli uned fforddiadwy ychwanegol. I'r gwrthwyneb, os oedd yna golled net o unedau fforddiadwy mewn eiddo dros flwyddyn, ni ddarparwyd unrhyw unedau tai fforddiadwy ychwanegol. Er enghraifft, pe bai dwy fflat annibynnol mewn un eiddo yn cael eu trosi i fod yn un cartref teuluol, nodir bod nifer yr unedau ychwanegol yn sero, er y dylid nodi nad yw hyn yn cael ei gofnodi fel newid negyddol i nifer yr unedau ychwanegol a ddarparwyd.
Yn y cyd-destun hwn, mae darparu yn golygu bod yr uned wedi'i chwblhau ac ar gael i fyw ynddi.
Ystyr rhwymedigaethau cynllunio (neu gytundebau Adran 106) yw trefniadau i oresgyn rhwystrau a all atal caniatâd cynllunio. Gallant gael eu defnyddio i wrthbwyso canlyniadau negyddol datblygu, i helpu i ddiwallu anghenion lleol neu sicrhau buddion a fyddai'n gwneud datblygiad yn fwy cynaliadwy.
Mae safleoedd eithriadau tai fforddiadwy yn safleoedd tai ar raddfa fach, yn aml mewn neu yn ymyl setliadau presennol ar gyfer darparu tai fforddiadwy i ddiwallu anghenion lleol, na fyddent yn cael eu dyrannu yn y cynllun datblygu fel arall.
Noder na ddylai nifer yr unedau tai fforddiadwy a ddarperir trwy rwymedigaethau cynllunio gael eu hychwanegu at y rhai a ddarperir ar safleoedd eithriadau tai fforddiadwy. Y rheswm am hyn yw y gall uned gael ei darparu ar safle eithriadau tai fforddiadwy o dan rwymedigaeth gynllunio, felly efallai y bydd achos o gyfrif dwbl wrth wneud hynny.
Noder hefyd na fydd nifer yr unedau sy'n cael caniatâd cynllunio o reidrwydd yn cael eu darparu yn yr un flwyddyn, felly dylai'r ffigurau hyn gael eu hystyried ar wahân i'r ffigurau a ddarperir yn yr un flwyddyn.
Er bod yr ardaloedd a gwmpesir gan yr awdurdodau parciau cenedlaethol o fewn ffiniau'r awdurdodau lleol, yng nghyd-destun cynllunio, mae'r awdurdodau lleol ond yn gyfrifol am y rhannau hynny o'r ardal awdurdod lleol nad ydynt o fewn ffiniau'r parc cenedlaethol. Felly, yn y cyd-destun cynllunio, mae'r ffigurau ar gyfer awdurdodau lleol ac awdurdodau parciau cenedlaethol yn cael eu hychwanegu at ei gilydd i ddarparu cyfanswm cyffredinol ar gyfer Cymru.