Cymorth ar gyfer gwariant gwella tai yn ôl derbynnydd, blwyddyn a mesur
None
|
Metadata
- Gwybodaeth lefel uchel
- Dolenni'r we
- Allweddeiriau
- Gwybodaeth cryno
- Gwybodaeth ansawdd ystadegol
- Data agored
Teitl
Cymorth ar gyfer gwelliannau tai yn ôl derbynnyddDiweddariad diwethaf
25 Ebrill 2024Diweddariad nesaf
Chwefror 2025Sefydliad cyhoeddi
Llywodraeth CymruCyswllt ebost
ystadegau.cyflwrtai@llyw.cymruDynodiad
Ystadegau GwladolLefel isaf o ddadelfennu daearyddol
Awdurdodau lleolCwmpas daearyddol
CymruCwmpas ieithyddol
Saesneg a ChymraegTrwyddedu data
Gallwch ddefnyddio ac ailddefnyddio'r data hwn am ddim mewn unrhyw fformat neu gyfrwng, dan delerau'r Drwydded Llywodraeth Agored - gweler http://www.nationalarchives.gov.uk/doc/open-government-licence-cymraegDolenni'r we
http://gov.wales/statistics-and-research/assistance-housing-improvement/?skip=1&lang=cyAllweddeiriau
Tai, Adnewyddu Sector Preifat (PSR), Cymorth, DerbynnyddDisgrifiad cyffredinol
Mae’r wybodaeth a gyflwynir yma yn gysylltiedig a chymorth ar gyfer adnewyddu tai, sydd yn cael ei ariannu yn bennaf gan Awdurdodau Lleol. Mae’r wybodaeth yn cael ei gasglu yn flynyddol gan Lywodraeth Cymru er mwyn sefydlu a monitro cyfanswm y gwariant ar draws Cymru ar adnewyddu'r sector preifat a nifer yr anheddau sydd wedi gwella. Mae’n cael ei defnyddio i fonitro tueddiadau mewn gweithgareddau sydd yn cael eu cynnal gan Awdurdodau Lleol i wella ansawdd y stoc tai o fewn eu hardal. Mae hyn yn helpu i fonitro effeithiolrwydd y polisi presennol yn enwedig y cynnydd yn erbyn amcanion y Strategaeth Tai Genedlaethol ac ar gyfer datblygu polisi yn y dyfodol.Gall awdurdodau lleol gynnig cymorth ariannol i berchnogion tai ar gyfer gwelliant ac atgyweirio’r cartref. Gall hyn gynnwys grantiau a benthyciadau ar gyfer caffael, adnewyddu, gwella, atgyweirio, cael gwared ac adleoli llety. Mewn nifer o achosion mae’r cymorth yn targedu grwpiau bregus fel yr anabl neu’r henoed. Cyfeirir at y cymorth yma fel gweithgaredd adnewyddu’r sector preifat.
Mae’r wybodaeth a ddangosir yn cynnwys gweithgarwch o dan Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989, Deddf Grantiau Tai, Adeiladu ac Adfywio 1996 a Gorchymyn Diwygio Rheoleiddio (Cymorth Tai) (Cymru a Lloegr) 2002. Ym mis Gorffennaf 2003, cyflwynodd Gorchymyn Diwygio Rheoleiddio (Cymorth Tai) (Cymru a Lloegr) 2002 drefniadau newydd, yn rhoi mwy o hyblygrwydd i awdurdodau lleol wrth ymdrin â phroblemau cyflwr y stoc leol.
Casgliad data a dull cyfrifo
Cesglir y wybodaeth a gyflwynir yma yn flynyddol drwy ddatganiadau blynyddol awdurdodau cynllunio Cymru am gymorth ar gyfer adnewyddu tai.Amlder cyhoeddi
BlynyddolCyfnodau data dan sylw
Dangosir data ar gyfer pob blwyddyn ariannol o 2003-04 ymlaen.Nodwch, oherwydd y pandemig Coronafeirws (COVID-19) yn 2020, ni chasglwyd data ar gymorth ar gyfer gwelliannau tai ar gyfer 2019-20.