Gallwch weld y wybodaeth hon yn y cyhoeddiad ystadegol cysylltiedig trwy ddilyn y ddolen we a roddir.
Disgrifiad cyffredinol
Mae’r wybodaeth a gyflwynir yma yn gysylltiedig ag ardaloedd adnewyddu a ariennir yn bennaf gan awdurdodau lleol. Cesglir y wybodaeth er mwyn cyfrifo'r swm a werir yn flynyddol ar draws Gymru ar ardaloedd adnewyddu a’r nifer o anheddau sydd wedi eu gwella. Mae’r data yn rhoi gwybodaeth fonitro i Lywodraeth Cymru i alluogi gwerthusiad o effeithiolrwydd rhaglenni ardaloedd adnewyddu ac i ddatblygu polisi ar gyfer adnewyddu ar sail ardal.
Casgliad data a dull cyfrifo
Cesglir y wybodaeth a gyflwynir yma drwy ddatganiadau blynyddol o awdurdodau cynllunio Gymreig ar Ardaloedd Adnewyddu bob blwyddyn.