Anheddau a ddymchwelwyd yn ôl awdurdod lleol ac ardal glirio
None
|
Metadata
- Gwybodaeth lefel uchel
- Gwybodaeth cryno
- Gwybodaeth ansawdd ystadegol
- Dolenni'r we
- Allweddeiriau
- Data agored
Teitl
Anheddau a ddymchwelwydDiweddariad diwethaf
7 Mawrth 2024Diweddariad nesaf
Rhagfyr 2024Sefydliad cyhoeddi
Llywodraeth CymruFfynhonnell 1
Casgliad data am ddymchwel adeiladau, Llywodraeth CymruCyswllt ebost
ystadegau.tai@llyw.cymruDynodiad
Ystadegau GwladolLefel isaf o ddadelfennu daearyddol
Awdurdodau lleolCwmpas daearyddol
CymruCwmpas ieithyddol
Saesneg a ChymraegTrwyddedu data
Gallwch ddefnyddio ac ailddefnyddio'r data hwn am ddim mewn unrhyw fformat neu gyfrwng, dan delerau'r Drwydded Llywodraeth Agored - gweler http://www.nationalarchives.gov.uk/doc/open-government-licence-cymraegDisgrifiad cyffredinol
Mae'r wybodaeth hon yn dangos nifer yr anheddau a ddymchwelir bob blwyddyn, ac mae'n cael ei chasglu er mwyn helpu i gyfrifo amcangyfrifon stoc anheddau yn ôl daliadaeth. Mae dadansoddiad ar gyfer ardaloedd clirio ac adnewyddu yn monitro maint dymchweliadau yn yr ardaloedd hynny ac yn helpu i lywio datblygiadau polisi i'r dyfodol.Maent yn cwmpasu holl ddymchweliadau anheddau preswyl y mae'r awdurdod lleol yn ymwybodol ohonynt. Maent hefyd yn cynnwys anheddau a ddymchwelir er mwyn eu hailadeiladu yn ddiweddarach. Nid yw hi'n ofynnol i roi gwybod i'r awdurdod lleol os yw'r annedd i'w ddymchwel yn llai na 50m3. Felly, mae'n debygol y bydd yr ystadegau yn y cyhoeddiad hwn yn is na nifer wirioneddol yr adeiladau sydd wedi'u dymchwel.
Cafodd y wybodaeth am ddymchweliadau a ddarperir gan awdurdodau lleol ei hadolygu yn ystod 2009 ac, yn dilyn ymgynghoriad, gwnaed newidiadau i'r eitemau data a gesglir. Dylid bod yn ofalus wrth ddadansoddi data dymchweliadau dros amser oherwydd efallai y bydd y data a adroddwyd gan awdurdodau lleol ar gyfer casgliadau 2009-10 a 2010-11 yn wahanol i'r data a adroddwyd ar gyfer blynyddoedd blaenorol. Cyn 2009-10, efallai bod rhai awdurdodau lleol ond yn darparu gwybodaeth am anheddau a ddymchwelwyd gan awdurdodau lleol, yn hytrach na'r holl ddymchweliadau roedd yr awdurdod lleol yn ymwybodol ohonynt. Pwysleisiodd newidiadau i'r ffurflen a'r canllawiau casglu data yn 2009-10 y dylai pob dymchweliad gael ei gofnodi yn y data gan awdurdodau lleol. Efallai bod hyn wedi arwain at gynnydd bach yn nifer y dymchweliadau sydd bellach yn cael eu cofnodi.
Casgliad data a dull cyfrifo
Mae'r wybodaeth a gyflwynir yma yn cael ei chasglu trwy ffurflenni blynyddol gan Awdurdodau Lleol ar 31 Mawrth bob blwyddyn.Cafodd y wybodaeth am ddymchweliadau a ddarperir gan awdurdodau lleol ei hadolygu yn ystod 2009 ac, yn dilyn ymgynghoriad, gwnaed newidiadau i'r eitemau data a gesglir. Dylid bod yn ofalus wrth ddadansoddi data dymchweliadau dros amser oherwydd efallai y bydd y data a adroddwyd gan awdurdodau lleol ar gyfer casgliadau 2009-10 a 2010-11 yn wahanol i'r data a adroddwyd ar gyfer blynyddoedd blaenorol. Cyn 2009-10, efallai bod rhai awdurdodau lleol ond yn darparu gwybodaeth am anheddau a ddymchwelwyd gan awdurdodau lleol, yn hytrach na'r holl ddymchweliadau roedd yr awdurdod lleol yn ymwybodol ohonynt. Pwysleisiodd newidiadau i'r ffurflen a'r canllawiau casglu data yn 2009-10 y dylai pob dymchweliad gael ei gofnodi yn y data gan awdurdodau lleol. Efallai bod hyn wedi arwain at gynnydd bach yn nifer y dymchweliadau sydd bellach yn cael eu cofnodi.
Amlder cyhoeddi
BlynyddolCyfnodau data dan sylw
Data ar gyfer dymchweliadau rhwng 1996-97 a 2015-16.Nodwch, oherwydd y pandemig Coronafeirws (COVID-19) yn 2020, ni chasglwyd data ar dymchweliadau ar gyfer 2019-20.