Grantiau ar gyfer cyfleusterau i bobl anabl yn ôl ardal awdurdod lleol a'r math o grant
None
|
Metadata
- Gwybodaeth lefel uchel
- Gwybodaeth cryno
- Gwybodaeth ansawdd ystadegol
- Dolenni'r we
- Allweddeiriau
- Data agored
Teitl
Grantiau cyfleusterau i'r anablDiweddariad diwethaf
25 Ebrill 2024Diweddariad nesaf
Chwefror 2025Sefydliad cyhoeddi
Llywodraeth CymruFfynhonnell 1
Casgliad data am grant cyfleusterau i bobl anabl, Llywodraeth CymruCyswllt ebost
ystadegau.tai@llyw.cymruDynodiad
Ystadegau GwladolLefel isaf o ddadelfennu daearyddol
Awdurdodau lleolCwmpas daearyddol
CymruCwmpas ieithyddol
Saesneg a ChymraegTrwyddedu data
Gallwch ddefnyddio ac ailddefnyddio'r data hwn am ddim mewn unrhyw fformat neu gyfrwng, dan delerau'r Drwydded Llywodraeth Agored - gweler http://www.nationalarchives.gov.uk/doc/open-government-licence-cymraegDisgrifiad cyffredinol
Mae'r wybodaeth a gyflwynir yma yn ymwneud â Grantiau Cyfleusterau i'r Anabl (DFGs) ac fe'i cesglir gan Lywodraeth Cymru er mwyn monitro effeithiolrwydd y polisi presennol a helpu i ddatblygu polisïau yn y maes hwn yn y dyfodol. Mae'r wybodaeth hon yn helpu i ddarparu darlun o'r nifer a'r mathau o Grantiau Cyfleusterau i'r Anabl a chostau addasiadau ar lefel leol a chenedlaethol. Mae adran cyllid llywodraeth leol Llywodraeth Cymru yn defnyddio data ar Grantiau Cyfleusterau i'r Anabl yn ei gyfrifiadau setliad llywodraeth leol ac mae awdurdodau lleol yn defnyddio'r wybodaeth am sawl rheswm, gan gynnwys cynllunio strategol ar gyfer tai a chwblhau Asesiadau o'r Farchnad Dai Leol.Ystyr Grant Cyfleusterau i'r Anabl yw grant i ddarparu gwasanaethau i berson anabl, naill ai mewn annedd neu yn rhannau cyffredin adeilad sy'n cynnwys un neu fwy o fflatiau. Mae Grantiau Cyfleusterau i'r Anabl yn cael eu talu gan yr awdurdod lleol a gallant helpu i dalu costau addasu cartref i alluogi person anabl i barhau i fyw yno. Dyma enghreifftiau o'r hyn y gall Grant Cyfleusterau i'r Anabl gael ei ddefnyddio ar ei gyfer:
1) Gwella mynediad i ystafell, er enghraifft, lledu drysau neu osod lifft grisiau;
2) Darparu cyfleuster ymolchi ychwanegol, er enghraifft, cawod mynediad gwastad;
3) Hwyluso'r gwaith o baratoi a choginio bwyd, er enghraifft, trwy ddarparu unedau is.
Mae talu rhai Grantiau Cyfleusterau i'r Anabl yn orfodol o dan Ddeddf Grantiau Tai, Adeiladu ac Adfywio 1996 fel y'i diwygiwyd gan Orchymyn Diwygio Rheoleiddio (Cymorth Tai) (Cymru a Lloegr) 2002. Bydd cyfanswm y grant yn dibynnu ar gost y gwaith cymeradwy ac amgylchiadau ariannol y perchentywr. Yr uchafswm grant yw £36,000 yng Nghymru, ond gall awdurdod lleol benderfynu talu costau ychwanegol os yw'n dymuno gwneud hynny.
Mae'r data ar Grantiau Cyfleusterau i'r Anabl yn cwmpasu grantiau gorfodol ac anorfodol lle mae'r taliadau terfynol wedi'u gwneud a'u hardystio. Mae data ar Grantiau Cyfleusterau i'r Anabl anorfodol wedi'i gasglu a'i gynnwys yn yr ystadegau hyn ers 2009-10. Mae Grantiau Cyfleusterau i'r Anabl anorfodol ond yn gyfran fach o weithgaredd adnewyddu sector preifat, ond dylid bod yn ofalus wrth gymharu ffigurau â ffigurau cyn 2009-10.
Casgliad data a dull cyfrifo
Mae'r wybodaeth a gyflwynir yma yn cael ei chasglu trwy ffurflenni blynyddol gan Awdurdodau Lleol ar 31 Mawrth bob blwyddyn.Mae'r data ar y Grant Cyfleusterau i'r Anabl yn cwmpasu grantiau gorfodol ac anorfodol lle mae'r taliadau terfynol wedi'u gwneud a'u hardystio. Mae data ar Grantiau Cyfleusterau i'r Anabl anorfodol wedi'i gasglu a'i gynnwys yn yr ystadegau hyn ers 2009-10. Cyfran fach yn unig o weithgaredd adnewyddu'r sector preifat yw Grantiau Cyfleusterau i'r Anabl anorfodol, ond dylid bod yn ofalus wrth gymharu ffigurau o cyn 2009-10.
Amlder cyhoeddi
BlynyddolCyfnodau data dan sylw
Dangosir data ar gyfer pob blwyddyn ariannol o 1997-98 ymlaen.Nodwch, oherwydd y pandemig Coronafeirws (COVID-19) yn 2020, ni chasglwyd data ar Grantiau Cyfleusterau i'r Anabl (DFGs) ar gyfer 2019-20.
Defnyddwyr, defnydd a chyd-destun
Gallwch weld y wybodaeth hon yn y cyhoeddiad ystadegol cysylltiedig trwy ddilyn y ddolen we a roddir.Talgrynnu wedi'u ddefnyddio
DimGwybodaeth am ddiwygiadau
Mae data cyn y cyfnod diwethaf sydd wedi'i ddiwygio ers y cyhoeddiad diwethaf wedi'i nodi gydag (r).Ansawdd ystadegol
Gallwch weld y wybodaeth hon yn y cyhoeddiad ystadegol cysylltiedig trwy ddilyn y ddolen we a roddir.Dolenni'r we
http://gov.wales/statistics-and-research/assistance-housing-improvement/?skip=1&lang=cyAllweddeiriau
Tai, Grantiau Cyfleusterau i'r Anabl, (DFGs), Cymorth55/5000
Tai, Grantiau Cyfleusterau i'r Anabl, (DFGs), Cymorth