

None
|
Metadata
- Gwybodaeth lefel uchel
- Gwybodaeth ansawdd ystadegol
- Dolenni'r we
- Gwybodaeth cryno
- Allweddeiriau
- Data agored
Teitl
Amcangyfrifon stoc anneddDiweddariad diwethaf
Medi 2020Diweddariad nesaf
Heb ei gadarnhau etoSefydliad cyhoeddi
Llywodraeth CymruFfynhonnell 1
Amcangyfrifon o'r Stoc Anheddau, Llywodraeth CymruCyswllt ebost
ystadegau.tai@llyw.cymruDynodiad
Ystadegau GwladolLefel isaf o ddadelfennu daearyddol
Awdurdodau lleolCwmpas daearyddol
CymruCwmpas ieithyddol
Saesneg a ChymraegTrwyddedu data
Gallwch ddefnyddio ac ailddefnyddio'r data hwn am ddim mewn unrhyw fformat neu gyfrwng, dan delerau'r Drwydded Llywodraeth Agored - gweler http://www.nationalarchives.gov.uk/doc/open-government-licence-cymraegAnsawdd ystadegol
Mae Awdurdod Ystadegau'r Deyrnas Unedig wedi dynodi'r ystadegau hyn fel Ystadegau Gwladol, yn unol â Deddf y Gwasanaeth Ystadegau a Chofrestru 2007, gan nodi cydymffurfiaeth â'r Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau Swyddogol.Dolenni'r we
http://gov.wales/statistics-and-research/dwelling-stock-estimates/?lang=enhttp://gov.wales/statistics-and-research/social-housing-stock-rents/?lang=en
Disgrifiad cyffredinol
Amcangyfrif o nifer yr anheddau yng Nghymru yn ôl daliadaeth ac ar gyfer pob awdurdod lleol, ar 31 Mawrth bob blwyddyn.Casgliad data a dull cyfrifo
Mae amcangyfrifon o'r cyfanswm stoc anheddau yn cael eu cyfrifo yn seiliedig ar ddata o'r cyfrifiadau poblogaeth. Mae'r amcangyfrifon yn cael eu cynhyrchu gan ddefnyddio'r cyfrifiad anheddau o gyfrifiad 2011 fel llinell sylfaen. Yna, mae'r cyfrifiad yn cael ei ragamcanu gan ddefnyddio gwybodaeth a gasglwyd am newidiadau blynyddol i'r stoc anheddau trwy adeiladau newydd ac unrhyw enillion neu golledion trwy drosiadau ac adeiladau a ddymchwelirMae rhaniad daliadaethau yng Nghymru rhwng daliadaethau sy'n eiddo i berchen-feddianwyr ac anheddau rhentu preifat wedi'i gyfrifo gan ddefnyddio gwybodaeth o'r Arolwg Poblogaeth Blynyddol (APS). Gan ddefnyddio'r APS, mae'r rhaniad hwn bellach ar gael ar lefel awdurdod lleol. Ceir gwybodaeth lawn am y fethodoleg yn y cyhoeddiad ystadegol.
Amlder cyhoeddi
BlynyddolCyfnodau data dan sylw
2000-01 ymlaen. Blynyddoedd ariannol. Ac eithrio blynyddoedd y Cyfrifiad, mae'r amcangyfrifon a gyflwynir yn ymwneud â diwedd pob blwyddyn ariannol h.y. Mae amcangyfrifon ar gyfer 2019 yn ymwneud â 31 Mawrth 2019.Defnyddwyr, defnydd a chyd-destun
Mae'r amcangyfrifon stoc anheddau yn darparu gwybodaeth sylfaenol flynyddol am gyfanswm y stoc dai ar lefel Cymru ac awdurdod lleol. Fe'i defnyddir fel tystiolaeth i lunio polisïau gan lywodraeth ganolog a lleol. Mae'r data'n cael ei ddefnyddio gan Lywodraeth Cymru, awdurdodau lleol a sefydliadau tai eraill i helpu i fonitro tueddiadau yn lefel gyffredinol stoc dai Cymru, yn ogystal ag unrhyw newidiadau yn nosbarthiad y daliadaethau dros amser. Y tu allan i'r llywodraeth, mae'r amcangyfrifon stoc anheddau yn cael eu defnyddio gan y diwydiannau cyllid a buddsoddi, er enghraifft, i helpu i ddatblygu darlun o dueddiadau demograffig.Talgrynnu wedi'u ddefnyddio
Oherwydd y modd y defnyddiwyd cyfraddau Arolwg Blynyddol y Boblogaeth, ni fydd cyfanswm Cymru yn cyfateb i swm yr awdurdodau lleol ar gyfer rhai daliadaethau. Cyfrifwyd y ffigyrau rhanbarthol fel swm yr awdurdodau lleol.Gwybodaeth am ddiwygiadau
Mae data diwygiedig wedi'i nodi gydag (r).Mae amcangyfrifon o'r rhaniad deiliadaeth ar gyfer Torfaen a Bro Morgannwg, ar 31 Mawrth 2020, wedi'u diwygio ar 21 Medi 2020 ar ôl darganfod gwall (sydd bellach wedi'i gywiro).
O ganlyniad i newid yn y fethodoleg, diwygiwyd amcangyfrifon perchen-ddeiliadaeth a rhentu preifat ar gyfer 2013-2019 ym mis Medi 2019.