Asesiadau a pheryglon a ddatryswyd yn ôl ardal, y math o asesiad ac annedd
None
|
Metadata
- Gwybodaeth lefel uchel
- Dolenni'r we
- Allweddeiriau
- Gwybodaeth cryno
- Gwybodaeth ansawdd ystadegol
- Data agored
Teitl
Asesiadau a pheryglon wedi eu datrysDiweddariad diwethaf
7 Mawrth 2024Diweddariad nesaf
Rhagfyr 2024Sefydliad cyhoeddi
Llywodraeth CymruFfynhonnell 1
Casgliad data am beryglon a thrwyddedau, Llywodraeth CymruCyswllt ebost
ystadegau.tai@llyw.cymruDynodiad
Ystadegau GwladolLefel isaf o ddadelfennu daearyddol
Awdurdodau lleolCwmpas daearyddol
CymruCwmpas ieithyddol
Saesneg a ChymraegTrwyddedu data
Gallwch ddefnyddio ac ailddefnyddio'r data hwn am ddim mewn unrhyw fformat neu gyfrwng, dan delerau'r Drwydded Llywodraeth Agored - gweler http://www.nationalarchives.gov.uk/doc/open-government-licence-cymraegAllweddeiriau
Tai, Peryglon, Trwyddedau, Tai Amlbreswyl, Tai amlfeddiannaeth , Categori 1, Categori 2Disgrifiad cyffredinol
Mae'r wybodaeth a gyflwynir yma yn cwmpasu cyflwr eiddo preswyl, gan gynnwys Tai Amlfeddiannaeth (HMOs), a asesir gan awdurdodau lleol o dan y System Mesur Iechyd a Diogelwch ar gyfer Tai (HHSRS).Defnyddir y System Mesur Iechyd a Diogelwch ar gyfer Tai (HHSRS) i bennu a yw eiddo preswyl yn ddiogel i fyw ynddynt. Disodlodd y Safon Addasrwydd ym mis Gorffennaf 2006. Mae awdurdodau lleol yn defnyddio'r System i bennu a oes perygl yn bodoli a all achosi niwed i iechyd a diogelwch darpar feddiannydd. Mae peryglon wedi'u rhannu'n ddau gategori. Mae'r rhai sy'n sgorio'n uchel ar y raddfa (ac felly'n peri'r risg fwyaf) yn cael eu galw'n beryglon Categori 1. Mae'r rhai sydd ymhellach i lawr y raddfa ac sy'n peri llai o risg yn cael eu galw'n beryglon Categori 2. Os yw perygl yn cael ei nodi fel perygl Categori 1, mae gan yr awdurdod lleol ddyletswydd i gymryd y camau gorfodi priodol. Os yw'n berygl Categori 2, gall yr awdurdod lleol gymryd camau gorfodi.
Casgliad data a dull cyfrifo
Mae'r wybodaeth a gyflwynir yma yn cael ei chasglu trwy ffurflenni blynyddol gan awdurdodau cynllunio yng Nghymru ar Beryglon a Thrwyddedau bob blwyddyn.Amlder cyhoeddi
BlynyddolCyfnodau data dan sylw
Dangosir data ar gyfer pob blwyddyn ariannol o 2006-07 ymlaen.Nodwch, oherwydd y pandemig Coronafeirws (COVID-19) yn 2020, ni chasglwyd data ar beryglon mewn tai a thrwyddedau ar gyfer 2019-20.