Anheddau a drwyddedwyd yn ôl ardal awdurdod lleol a'r math o drwydded
None
|
Metadata
- Gwybodaeth lefel uchel
- Gwybodaeth cryno
- Gwybodaeth ansawdd ystadegol
- Dolenni'r we
- Allweddeiriau
- Data agored
Teitl
Anheddau a drwyddedwyd yn ôl ardal awdurdod lleol a'r math o drwyddedDiweddariad diwethaf
7 Mawrth 2024Diweddariad nesaf
Rhagfyr 2024Sefydliad cyhoeddi
Llywodraeth CymruFfynhonnell 1
Casgliad data am beryglon a thrwyddedau, Llywodraeth CymruCyswllt ebost
ystadegau.tai@llyw.cymruDynodiad
Ystadegau GwladolLefel isaf o ddadelfennu daearyddol
Awdurdodau lleolCwmpas daearyddol
CymruCwmpas ieithyddol
Saesneg a ChymraegTrwyddedu data
Gallwch ddefnyddio ac ailddefnyddio'r data hwn am ddim mewn unrhyw fformat neu gyfrwng, dan delerau'r Drwydded Llywodraeth Agored - gweler http://www.nationalarchives.gov.uk/doc/open-government-licence-cymraegDisgrifiad cyffredinol
Mae'r wybodaeth a gyflwynir yma yn cwmpasu trwyddedau a gyflwynir gan awdurdodau lleol i eiddo preswyl, gan gynnwys Tai Amlfeddiannaeth (HMOs). Cyflwynwyd trwyddedau HMO i helpu i sicrhau bod HMOs yn cael eu rheoli'n dda. Mae awdurdodau lleol yn gyfrifol am drwyddedu, sy'n orfodol ar gyfer rhai mathau o HMOs ac y gallwch chi ei ddefnyddio mewn perthynas ag eraill. Mae trwyddedu gorfodol yn berthnasol i HMOs mwy o faint (tri llawr neu fwy) sy'n peri mwy o risg. Awdurdodau lleol sy'n penderfynu a ddylid ymestyn trwyddedu i gategorïau eraill o HMOs.Cafodd y wybodaeth am HMOs a ddarperir gan awdurdodau lleol ei hadolygu yn ystod 2009 ac, yn dilyn ymgynghoriad, gwnaed newidiadau i'r eitemau data a gesglir. Cafodd nifer yr HMOs hysbys ei ychwanegu yn dilyn yr adolygiad, gan nad oedd y data hwn wedi'i gasglu na'i gyhoeddi yn flaenorol.
Casgliad data a dull cyfrifo
Mae'r wybodaeth a gyflwynir yma yn cael ei chasglu trwy ffurflenni blynyddol gan awdurdodau cynllunio yng Nghymru ar Beryglon a Thrwyddedau bob blwyddyn.Amlder cyhoeddi
BlynyddolCyfnodau data dan sylw
Dangosir data ar gyfer pob blwyddyn ariannol o 2006-07 ymlaen.Nodwch, oherwydd y pandemig Coronafeirws (COVID-19) yn 2020, ni chasglwyd data ar beryglon mewn tai a thrwyddedau ar gyfer 2019-20.