Ceisiadau Cymorth i Brynu Cymru sydd wedi ei cwblhau yn ôl awdurdod lleol a dyddiad
None
|
Metadata
- Gwybodaeth lefel uchel
- Gwybodaeth cryno
- Gwybodaeth ansawdd ystadegol
- Dolenni'r we
- Allweddeiriau
- Data agored
Teitl
Tai a brynwyd trwy Cymorth i Brynu - Cymru yn ôl awdurdod lleol, dyddiad ac incwm yr aelwydDiweddariad diwethaf
4 Mehefin 2024Diweddariad nesaf
Awst 20247/5000
Ionawr 2019
Sefydliad cyhoeddi
Llywodraeth CymruFfynhonnell 1
Cofnod o drafodiadau y Cynllun Cymorth i Brynu, Cymorth i Brynu CymruCyswllt ebost
ystadegau.tai@llyw.cymruDynodiad
DimLefel isaf o ddadelfennu daearyddol
Awdurdodau lleolCwmpas daearyddol
CymruCwmpas ieithyddol
Saesneg yn unigTrwyddedu data
Gallwch ddefnyddio ac ailddefnyddio'r data hwn am ddim mewn unrhyw fformat neu gyfrwng, dan delerau'r Drwydded Llywodraeth Agored - gweler http://www.nationalarchives.gov.uk/doc/open-government-licence-cymraegDisgrifiad cyffredinol
Cynllun benthyciad rhannu ecwiti gwerth £170 miliwn sy'n ceisio cefnogi perchentyaeth, ysgogi gweithgaredd adeiladu a rhoi hwb i'r sector tai a'r economi ehangach yw Cymorth i Brynu - Cymru. O dan y cynllun, mae benthyciadau ar gael i brynwyr sydd am brynu eiddo newydd ei adeiladu gwerth hyd at £300,000. Mae Cymorth i Brynu - Cymru ar gael i bawb (nid prynwyr am y tro cyntaf yn unig) sydd am brynu cartref newydd, ond sydd efallai wedi'u cyfyngu yn hynny o beth – er enghraifft, o ganlyniad i ofynion blaendal – ond y byddai disgwyl iddynt ad-dalu morgais fel arall. Mae benthyciad rhannu ecwiti o hyd at uchafswm o 20% o bris prynu'r eiddo ar gael. Yn ogystal, mae'n ofynnol i brynwyr ddarparu 5% a bydd angen iddynt gael morgais i dalu'r balans sy'n weddill. Mae pob adeiladwr (o bob maint) yn gallu cofrestru gyda'r cynllun a gwerthu eiddo trwy'r fenter.Mae'r data a ddangosir yma wedi'i gyfuno o'r cofnodion trafodion unigol a gofnodwyd gan Help to Buy Wales Ltd, ac mae detholiad ohono yn cael ei gyflenwi i Lywodraeth Cymru bob mis.
Casgliad data a dull cyfrifo
Mae'r data'n deillio o ddetholiad o drafodion o dan gynllun Cymorth i Brynu yng Nghymru, ac fe'i darperir i Lywodraeth Cymru gan Help to Buy Wales Ltd bob mis.Mae data'n cael ei echdynnu o Client Relationship Management System (CRM) Help to Buy (Wales) Ltd. Mae'r holl wybodaeth yn cael ei chadw'n ddiogel ar y system ac yn cael ei mewnbynnu gan staff prosesu Help to Buy (Wales) Ltd. Mae'r holl wybodaeth a gedwir ar y CRM, mewn perthynas ag eiddo Cymorth i Brynu - Cymru, yn cael ei darparu gan y prynwr neu ei gyfreithiwr/trawsgludwr fel rhan o'r Ffurflen Gwybodaeth Eiddo, Ffurflen Trawsgludwyr 1 neu Ffurflen Trawsgludwyr 2. I gael mwy o fanylion am y broses mae prynwyr yn mynd trwyddi, a'r dogfennau y mae'n ofynnol iddynt ei gwblhau er mwyn cael gafael ar fenthyciad rhannu ecwiti ewch i wefan y cynllun (gweler y dolenni gwe).
Amlder cyhoeddi
ChwarterolCyfnodau data dan sylw
Mae'r data'n cyfeirio at nifer y ceisiadau ar ddiwedd pob mis, gan ddechrau gyda lansiad y cynllun ar 2 Ionawr 2014.Defnyddwyr, defnydd a chyd-destun
Gallwch weld y wybodaeth hon yn y cyhoeddiad ystadegol cysylltiedig trwy ddilyn y ddolen we a roddir.Gwybodaeth am ddiwygiadau
Mae'r holl ddata ar gyfer cyfnod penodol yn ddata dros dro i gychwyn, ac yn amodol ar fân ddiwygiadau ar gyfer ceisiadau a gyflwynir yn hwyr i'r gronfa ddata trafodion. Ar y cyfan, ni fydd angen diwygiadau ar ôl tua mis ar ôl diwedd y cyfnod penodol.Mae data cyn y cyfnod diwethaf sydd wedi'i ddiwygio ers y cyhoeddiad diwethaf wedi'i nodi gydag (r).
Mae data a gyhoeddwyd cyn mis Mehefin 2015 wedi'i ddiwygio i ystyried newid i'r diffiniad o brynwyr am y tro cyntaf.