

None
|
Metadata
- Gwybodaeth lefel uchel
- Allweddeiriau
- Dolenni'r we
- Gwybodaeth ansawdd ystadegol
- Gwybodaeth cryno
- Data agored
Teitl
Amcangyfrifon ynghylch aelwydydd yn ol awdurdod lleol, Cymru, 1991-2011Diweddariad diwethaf
23 Medi 2021Diweddariad nesaf
No longer updatedSefydliad cyhoeddi
Llywodraeth CymruFfynhonnell 1
Amcanestyniadau Aelwydydd Cymru, Llywodraeth CymruCyswllt ebost
ystadegau.poblogaeth@llyw.cymruDynodiad
Ystadegau GwladolLefel isaf o ddadelfennu daearyddol
Awdurdodau lleolCwmpas daearyddol
CymruCwmpas ieithyddol
Saesneg a ChymraegTrwyddedu data
Gallwch ddefnyddio ac ailddefnyddio'r data hwn am ddim mewn unrhyw fformat neu gyfrwng, dan delerau'r Drwydded Llywodraeth Agored - gweler http://www.nationalarchives.gov.uk/doc/open-government-licence-cymraegAllweddeiriau
aelwydydd; Amcangyfrif; poblogaeth; Maint Cyfartalog AelwydyddAnsawdd ystadegol
DiffiniadauAmcangyfrifon nifer yr aelwydydd a maint cyfartalog aelwydydd ar 30 Mehefin bob blwyddyn.
Poblogaeth Sylfaenol
Mae'r amcangyfrifon poblogaeth canol blwyddyn ar gyfer 1991 tan 2011 wedi'u defnyddio fel y boblogaeth sylfaenol ar gyfer yr amcangyfrifon aelwydydd hyn. Mae'r rhain yn cael eu cynhyrchu gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol.
Annedd
Gall annedd gynnwys un aelwyd (annedd nad yw'n cael ei rhannu) neu ddwy aelwyd neu fwy (annedd a rennir). O ganlyniad, gall ty gynnwys mwy nag un aelwyd.
Aelwyd
Mae aelwyd yn cynnwys un person yn byw ar ei ben ei hun neu grwp o bobl (nad ydynt o reidrwydd yn perthyn) yn byw yn yr un cyfeiriad gyda chyfleusterau cadw ty cyffredin - hynny yw, rhannu ystafell fyw neu o leiaf un pryd o fwyd y dydd. Nid yw aelwyd yr un fath â thy neu annedd. Mae'r diffiniad o annedd i'w weld uchod.
Daearyddiaeth a Ffiniau
Mae'r amcangyfrifon aelwydydd ar gyfer Cymru gyfan ac ardaloedd awdurdod lleol yng Nghymru, sy'n seiliedig ar y ffiniau a ddefnyddir ar gyfer yr amcangyfrifon poblogaeth diweddaraf. Mae data hanesyddol a ddefnyddir i gynhyrchu'r cyfraddau aelodaeth a ragdybir yn seiliedig ar wahanol ffiniau, nad ydynt yn cynnwys y newidiadau diweddaraf. Roedd data Cyfrifiad 1991 yn cynnwys newidiadau i ffiniau hyd at 1997. Roedd data Cyfrifiad 2001 yn cynnwys newidiadau i ffiniau hyd at 2002.Roedd data Cyfrifiad 2011 yn cynnwys newidiadau i ffiniau hyd at 2012.
Mynychder
Mae'r amcangyfrifon poblogaeth canol blwyddyn y mae'r amcangyfrifon aelwydydd hyn yn seiliedig arnynt yn cael eu cynhyrchu'n flynyddol. Y bwriad yw cynhyrchu amcangyfrifon aelwydydd ar yr un sail gan ddefnyddio'r fethodoleg bresennol.