Aelwydydd fesul awdurdod lleol a blwyddyn
None
|
Metadata
- Gwybodaeth lefel uchel
- Gwybodaeth cryno
- Dolenni'r we
- Gwybodaeth ansawdd ystadegol
- Allweddeiriau
- Data agored
Teitl
Amcangyfrifon aelwydydd Cymru - aelwydydd yn ôl math yn ôl awdurdod lleol, 1991 tan 2020Diweddariad diwethaf
23 Medi 2021Diweddariad nesaf
No longer updatedSefydliad cyhoeddi
Llywodraeth CymruFfynhonnell 1
Amcanestyniadau Aelwydydd Cymru, Llywodraeth CymruCyswllt ebost
ystadegau.poblogaeth@llyw.cymruDynodiad
Ystadegau GwladolLefel isaf o ddadelfennu daearyddol
Awdurdodau lleolCwmpas daearyddol
CymruCwmpas ieithyddol
Saesneg a ChymraegTrwyddedu data
Gallwch ddefnyddio ac ailddefnyddio'r data hwn am ddim mewn unrhyw fformat neu gyfrwng, dan delerau'r Drwydded Llywodraeth Agored - gweler http://www.nationalarchives.gov.uk/doc/open-government-licence-cymraegDisgrifiad cyffredinol
Amcangyfrifon Aelwydydd ar gyfer Cymru a gynhyrchwyd gan Gwasanaethau Gwybodaeth a Dadansoddi, Llywodraeth Cymru. Mae'r fethodoleg wedi'i datblygu mewn cydweithrediad â Gweithgor Rhagamcaniadau Is-genedlaethol Cymru (WASP). Mae aelodau WASP yn cynnwys cynrychiolwyr â phrofiad o ddata demograffig a thai o awdurdodau lleol Cymru, yr Uned Ddata a Llywodraeth Cymru.Casgliad data a dull cyfrifo
Mae'r amcangyfrifon anheddau hyn yn seiliedig ar amcangyfrifon canol blwyddyn ar gyfer Cymru a gynhyrchwyd gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol rhwng 1991 a 2011.Amlder cyhoeddi
BlynyddolCyfnodau data dan sylw
1991 - 2011Gwybodaeth am ddiwygiadau
Cafodd ffigurau ar gyfer 2001 tan 2010 eu diwygio ar 29 Ebrill 2014 i ystyried canlyniadau Cyfrifiad 2011.Ansawdd ystadegol
DiffiniadauAmcangyfrifon nifer yr aelwydydd a maint cyfartalog aelwydydd ar 30 Mehefin bob blwyddyn.
Poblogaeth Sylfaenol
Mae'r amcangyfrifon poblogaeth canol blwyddyn ar gyfer 1991 tan 2011 wedi'u defnyddio fel y boblogaeth sylfaenol ar gyfer yr amcangyfrifon aelwydydd hyn. Mae'r rhain yn cael eu cynhyrchu gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol.
Annedd
Gall annedd gynnwys un aelwyd (annedd nad yw'n cael ei rhannu) neu ddwy aelwyd neu fwy (annedd a rennir). O ganlyniad, gall ty gynnwys mwy nag un aelwyd.
Aelwyd
Mae aelwyd yn cynnwys un person yn byw ar ei ben ei hun neu grwp o bobl (nad ydynt o reidrwydd yn perthyn) yn byw yn yr un cyfeiriad gyda chyfleusterau cadw ty cyffredin - hynny yw, rhannu ystafell fyw neu o leiaf un pryd o fwyd y dydd. Nid yw aelwyd yr un fath â thy neu annedd. Mae'r diffiniad o annedd i'w weld uchod.
Daearyddiaeth a Ffiniau
Mae'r amcangyfrifon aelwydydd ar gyfer Cymru gyfan ac ardaloedd awdurdod lleol yng Nghymru, sy'n seiliedig ar y ffiniau a ddefnyddir ar gyfer yr amcangyfrifon poblogaeth diweddaraf. Mae data hanesyddol a ddefnyddir i gynhyrchu'r cyfraddau aelodaeth a ragdybir yn seiliedig ar wahanol ffiniau, nad ydynt yn cynnwys y newidiadau diweddaraf. Roedd data Cyfrifiad 1991 yn cynnwys newidiadau i ffiniau hyd at 1997. Roedd data Cyfrifiad 2001 yn cynnwys newidiadau i ffiniau hyd at 2002.Roedd data Cyfrifiad 2011 yn cynnwys newidiadau i ffiniau hyd at 2012.
Mynychder
Mae'r amcangyfrifon poblogaeth canol blwyddyn y mae'r amcangyfrifon aelwydydd hyn yn seiliedig arnynt yn cael eu cynhyrchu'n flynyddol. Y bwriad yw cynhyrchu amcangyfrifon aelwydydd ar yr un sail gan ddefnyddio'r fethodoleg bresennol.