Poblogaeth aelwydydd preifat yn ôl awdurdod lleol a blwyddyn
None
|
Metadata
- Gwybodaeth cryno
- Gwybodaeth lefel uchel
- Allweddeiriau
- Dolenni'r we
- Gwybodaeth ansawdd ystadegol
- Data agored
Disgrifiad cyffredinol
Amcangyfrifon aelwydydd ar gyfer Cymru a gynhyrchwyd gan Wasanaethau Gwybodaeth a Dadansoddi, Llywodraeth Cymru. Mae'r fethodoleg wedi'i datblygu mewn cydweithrediad â Gweithgor Amcanestyniadau Is-genedlaethol Cymru (WaSP). Mae aelodau WaSP yn cynnwys cynrychiolwyr â phrofiad o ddata demograffig a thai o awdurdodau lleol Cymru, yr Data Cymru a Llywodraeth Cymru.Casgliad data a dull cyfrifo
Mae'r amcangyfrifon aelwydydd hyn yn seiliedig ar amcangyfrifon poblogaeth canol blwyddyn ar gyfer Cymru a gynhyrchwyd gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol rhwng 2012 a 2023.Amlder cyhoeddi
BlynyddolCyfnodau data dan sylw
2012 i 2023.Talgrynnu wedi'u ddefnyddio
Mae ffigurau wedi'u talgrynnu i'r 1 agosaf (aelwydydd, poblogaeth aelwydydd preifat) neu i'r 0.01 agosaf (maint cyfartalog aelwydydd).Gwybodaeth am ddiwygiadau
Cafodd ffigurau ar gyfer 2012 i 2020 eu diwygio ar 11 Rhagfyr 2024 gan ymgorffori canlyniadau Cyfrifiad 2021.Teitl
Amcangyfrifon aelwydydd yn ôl awdurdod lleol, Cymru, 2012 i 2023Diweddariad diwethaf
11 Rhagfyr 2024Diweddariad nesaf
Hydref 2025Sefydliad cyhoeddi
Llywodraeth CymruFfynhonnell 1
Amcanestyniadau Aelwydydd Cymru, Llywodraeth CymruCyswllt ebost
ystadegau.poblogaeth@llyw.cymruDynodiad
Ystadegau GwladolLefel isaf o ddadelfennu daearyddol
Awdurdodau lleolCwmpas daearyddol
CymruCwmpas ieithyddol
Saesneg a ChymraegTrwyddedu data
Gallwch ddefnyddio ac ailddefnyddio'r data hwn am ddim mewn unrhyw fformat neu gyfrwng, dan delerau'r Drwydded Llywodraeth Agored - gweler http://www.nationalarchives.gov.uk/doc/open-government-licence-cymraegAllweddeiriau
aelwydydd; amcangyfrif; poblogaeth; maint cyfartalog aelwydyddAnsawdd ystadegol
DiffiniadauAmcangyfrifon nifer yr aelwydydd a maint cyfartalog aelwydydd ar 30 Mehefin bob blwyddyn.
Poblogaeth sylfaenol
Mae'r amcangyfrifon poblogaeth canol blwyddyn ar gyfer 2012 i 2023 wedi'u defnyddio fel y boblogaeth sylfaenol ar gyfer yr amcangyfrifon aelwydydd hyn. Mae'r rhain yn cael eu cynhyrchu gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol.
Annedd
Gall annedd gynnwys un aelwyd (annedd nad yw'n cael ei rhannu) neu ddwy aelwyd neu fwy (annedd a rennir). O ganlyniad, gall ty gynnwys mwy nag un aelwyd.
Aelwyd
Mae aelwyd yn cynnwys un person yn byw ar ei ben ei hun neu grwp o bobl (nad ydynt o reidrwydd yn perthyn) yn byw yn yr un cyfeiriad gyda chyfleusterau cadw ty cyffredin - hynny yw, rhannu ystafell fyw neu o leiaf un pryd o fwyd y dydd. Nid yw aelwyd yr un fath â thy neu annedd. Mae'r diffiniad o annedd i'w weld uchod.
Daearyddiaeth a ffiniau
Mae'r amcangyfrifon aelwydydd ar gyfer Cymru gyfan ac ardaloedd awdurdod lleol yng Nghymru, sy'n seiliedig ar y ffiniau a ddefnyddir ar gyfer yr amcangyfrifon poblogaeth.