Poblogaeth aelwydydd preifat yn ôl parc cenedlaethol a blwyddyn
None
|
Metadata
- Gwybodaeth cryno
- Gwybodaeth lefel uchel
- Gwybodaeth ansawdd ystadegol
- Dolenni'r we
- Allweddeiriau
- Data agored
Disgrifiad cyffredinol
Mae'r set ddata hon yn darparu rhagamcaniadau aelwydydd ar gyfer awdurdodau Parciau Cenedlaethol yng Nghymru yn ôl y math o aelwyd o 2014 ymlaen, trwy'r cyfnod rhagamcaniadau hyd at 2039.Noder bod y rhagamcaniadau'n dod yn fwyfwy ansicr wrth i ni edrych ymhellach i'r dyfodol.
Casgliad data a dull cyfrifo
Mae data'n cael ei gyfrifo gan ddefnyddio methodoleg sy'n defnyddio data ar ragamcaniadau poblogaeth 2014 tan 2039 a gyhoeddwyd gyda gwybodaeth am strwythur aelwydydd o Gyfrifiad 2011. I gael mwy o wybodaeth am y fethodoleg, gweler y cyhoeddiad ystadegol yn y dolenni gwe.Datblygwyd y fethodoleg mewn cydweithrediad â Gweithgor Rhagamcaniadau Aelwydydd Is-genedlaethol Cymru (WASP). Mae aelodau WASP yn cynnwys cynrychiolwyr â phrofiad o ddata demograffig a thai o awdurdodau lleol Cymru, yr Uned Ddata Llywodraeth Leol a Llywodraeth Cymru.
Mae rhagamcaniadau ond yn dangos beth all ddigwydd os bydd y tueddiadau diweddar yn parhau. Nid yw rhagamcaniadau a wneir fel hyn yn ystyried effeithiau polisïau llywodraeth leol neu ganolog ar lefelau poblogaeth, dosbarthiad a newid yn y dyfodol. Maent ond yn rhoi syniad o beth fyddai'n digwydd pe bai rhagdybiaethau penodol yn cael eu gwireddu.