Neidio i'r cynnwys
Darparwr data: Llywodraeth Cymru Ystadegau Gwladol Canran yr anheddau gyda pherfformiad ynni digonol

Canran yr anheddau â sgôr o 65 neu'n uwch ar gyfer Gweithdrefn Asesu Safonol (SAP).

None
Dangosydd[Hidlwyd]
Blwyddyn[Hidlwyd]
Measure1
Mesur[Hidlo]
[Lleihau]Manylion[Hidlo]
-
-
Manylion 1
Cliciwch yma i ddidoliCanran yr anheddauCliciwch yma i ddidoliCyfwng hyder isaf (%)Cliciwch yma i ddidoliCyfwng hyder uchaf (%)
[Lleihau]Pob deiliadaeth474549
Pob deiliadaethPerchen-feddianwyr423945
Rhentu preifat423748
Tai cymdeithasol696573
[Lleihau]Pob oedran474549
Pob oedrancyn 1919201623
1919 i 1944332640
1945 i 1964453950
1965 i 1980524857
Ar ôl 1980787482
[Lleihau]Pob math474549
Pob mathDiwedd teras413448
Canol teras524757
Ty pâr444048
Ty sengl403644
Fflat696375

Metadata

Disgrifiad cyffredinol

Mae Arolwg Cyflwr Tai Cymru (ACTC) yn casglu gwybodaeth am gyflwr ac effeithlonrwydd ynni cartrefi o bob math yng Nghymru. Dyma'r gyfres gyntaf o ganlyniadau ar gyflwr tai yng Nghymru ers yr arolwg diwethaf yn 2008.
Mae'r data allweddol a gesglir yn ACTC, yn cynnwys gwybodaeth am effeithlonrwydd ynni, costau atgyweirio, Safon Ansawdd Tai Cymru (SATC), tlodi tanwydd a'r System Mesur Iechyd a Diogelwch ar gyfer Tai (HHSRS). Am fanylion llawn y pethau sy'n cael eu cynnwys yn yr arolwg, gweler ffurflen yr arolwg, sydd ar gael ar wefan ACTC.
Mae data o ACTC yn sail i ddau o'r 46 o Ddangosyddion Llesiant Cenedlaethol Cymru, sef yr anheddau sydd heb beryglon (Dangosydd 31) ac anheddau gyda pherfformiad ynni digonol (Dangosydd 33).
Am ragor o wybodaeth, gweler y dolenni cyswllt.


Casgliad data a dull cyfrifo

Cynhaliwyd gwaith maes ACTC o fis Awst 2017 i fis Ebrill 2018. Cynhaliwyd archwiliadau o eiddo gan syrfewyr cymwysedig, a gynhaliodd asesiadau gweledol o'r tu mewn a'r tu allan i'r eiddo. Am fanylion llawn y pynciau sy'n cael eu cynnwys yn yr arolwg, gweler ffurflen yr arolwg, sydd ar gael ar wefan ACTC.
Tynnwyd sampl o gyfeiriadau o blith aelwydydd cymwys a oedd yn cymryd rhan yn Arolwg Cenedlaethol Cymru 2017-18. Cyflawnwyd cyfanswm o 2,549 o arolygon llawn ACTC ar draws y 22 o awdurdodau lleol yng Nghymru, sy'n galluogi amcangyfrifon ar lefel genedlaethol.
Fel unrhyw ffigurau sy'n seiliedig ar arolwg, nid ydynt o hyd yn gwbl gywir. Dangosir hyn (“lwfansau ansicrwydd”) ar gyfer pob canlyniad. Mae'r rhain yn rhoi ystod sy'n debygol o gwmpasu'r gwir werth.

Mae canlyniadau ACTC wedi eu pwysoli er mwyn unioni ar gyfer tebygolrwydd dethol anghyfartal a diffyg ymateb gwahaniaethol (hynny yw, i sicrhau bod dosbarthiad tenantiaeth y set ddata derfynol yn cyfateb i boblogaeth Cymru).

Effeithlonrwydd ynni mewn anheddau
Y Weithdrefn Asesu Safonol (SAP) yw'r fethodoleg a gaiff ei defnyddio gan y Llywodraeth i asesu a chymharu perfformiad amgylcheddol ac ynni mewn anheddau.
Mae SAP yn gweithio drwy asesu faint o ynni y bydd annedd yn ei ddefnyddio wrth ddarparu lefel benodol o gysur a gwasanaethau. Mae'r asesiad yn seiliedig ar ragdybiaethau safonedig mewn perthynas â meddiannaeth ac ymddygiad. Mae hynny'n sicrhau bod perfformiad annedd yn cael ei gymharu ag annedd tebyg. Mae'r sgorau ar raddfa rhwng 1 a 100, lle bo 100 yn cynrychioli dim costau ynni.
Defnyddiwyd methodoleg 'SAP 2012' yn Arolwg Cyflwr Tai Cymru 2017-18. (ewch i weld yr Eirfa ar wefan ACTC.)
System Mesur Iechyd a Diogelwch ar gyfer Tai:
Mae'r System Mesur Iechyd a Diogelwch ar gyfer Tai (HHSRS) yn ddull gwerthuso ar sail risg i helpu awdurdodau lleol nodi a diogelu rhag y risgiau posibl o ran iechyd a diogelwch rhag diffygion a nodwyd mewn anheddau. Caiff ei defnyddio i bennu a yw anheddau preswyl yn ddiogel i fyw ynddynt, neu a yw perygl yn bodoli a allai achosi niwed i iechyd a diogelwch darpar feddiannydd.
Mae'r System yn asesu 29 o beryglon sy'n ymwneud â thai ac yn darparu sgôr ar gyfer pob un. Gelwir y rheini sy'n sgorio'n uchel ar y raddfa (ac felly'n achosi'r risg uchaf) yn beryglon Categori 1 - os bydd annedd, yn dilyn archwiliad gan awdurdod lleol, yn cynnwys perygl Categori 1, mae gan yr awdurdod lleol ddyletswydd i gymryd y camau gorfodi priodol. Gelwir y rheini sy'n is ar y raddfa ac sy'n peri llai o risg yn beryglon Categori 2 - pan fydd y rheini'n digwydd gallai'r awdurdod lleol gymryd camau gorfodi.
Ceir manylion llawn am fesur a modelu'r peryglon hyn yn Adroddiad Technolegol ACTC, sydd ar gael ar wefan ACTC. Bwriedir cyhoeddi dadansoddiad manwl o asesiad yr ACTC o HHSRS yn gynnar yn 2019.
Am ragor o wybodaeth, gweler y datganiad ystadegol cyntaf a'r dogfennau ategol. Gweler y Ddogfen dechnegol ynghylch Dangosyddion Cenedlaethol Cymru am wybodaeth ynghylch y dangosyddion cenedlaethol. Gellir gweld y rhain o dan y Dolenni cyswllt.


Amlder cyhoeddi

Bob pum mlynedd

Cyfnodau data dan sylw

2017-18

Defnyddwyr, defnydd a chyd-destun

Gallwch weld y wybodaeth hon yn y cyhoeddiad ystadegol cysylltiedig trwy ddilyn y ddolen we a roddir.

Talgrynnu wedi'u ddefnyddio

Dim

Gwybodaeth am ddiwygiadau

Dim

Teitl

Perfformiad ynni a bodolaeth peryglon mewn anheddau

Diweddariad diwethaf

Chwefror 2019 Chwefror 2019

Diweddariad nesaf

Anhysbys


Sefydliad cyhoeddi

Llywodraeth Cymru

Ffynhonnell 1

Arolwg Cyflwr Tai Cymru 2017-18

Cyswllt ebost

ystadegau.cyflwrtai@llyw.cymru

Dynodiad

Ystadegau Gwladol

Lefel isaf o ddadelfennu daearyddol

Cymru

Cwmpas daearyddol

Cymru

Cwmpas ieithyddol

Saesneg a Chymraeg

Trwyddedu data

Gallwch ddefnyddio ac ailddefnyddio'r data hwn am ddim mewn unrhyw fformat neu gyfrwng, dan delerau'r Drwydded Llywodraeth Agored - gweler http://www.nationalarchives.gov.uk/doc/open-government-licence-cymraeg

Ansawdd ystadegol

Gallwch weld y wybodaeth hon yn y cyhoeddiad ystadegol cysylltiedig trwy ddilyn y ddolen we a roddir.

Allweddeiriau

Tai. Cyflwr. Arolwg. Llesiant. Effeithlonrwydd. SAP. HHSRS.