Mae'r rhain yn amcangyfrifon sail-2018 o'r angen cyffredinol am dai ychwanegol yng Nghymru. Maent yn seiliedig ar amcangyfrifon o a'r angen cyfredol sydd heb ei ddiwallu a'r angen newydd sy'n codi. Mae'r amcangyfrifon yn cwmpasu 20 mlynedd ar lefel genedlaethol a rhanbarthol.
Mae'r amcangyfrifon ar gyfer yr angen am unedau tai ychwanegol yn ôl deiliadaeth yn seiliedig ar set o dybiaethau. Mae'r amcangyfrifon o'r angen ychwanegol am dai fesul deiliadaeth ar gael ar gyfer y cyfnod 2018/19 i 2022/23 yn unig.
Casgliad data a dull cyfrifo
Defnyddiwyd amcanestyniadau aelwydydd (sail-2014) i gyfrifo'r angen newydd sy'n codi. Mae'r angen sydd heb ei ddiwallu eisoes yn cael ei gyfrifo o Gyfrifiad 2011 ac Aelwydydd mewn Llety Dros Dro. Mae'r amcangyfrifon ar gyfer yr angen am unedau tai ychwanegol yn ôl deiliadaeth yn seiliedig ar set o dybiaethau (gweler yr erthygl ystadegol am fwy o fanylion)
Cyfnodau data dan sylw
2018/19 i 2037/38 2018/19 I 2022/23 ar gyfer yr amcangyfrifon fesul deiliadaeth
Defnyddwyr, defnydd a chyd-destun
Gweler y cyhoeddiadau ystadegol cysylltiol (o dan dolenni).
Talgrynnu wedi'u ddefnyddio
Mae amcanestyniadau aelwydydd (sail-2014) wedi'u crynhoi i'r rhif cyfan agosaf.
Teitl
Amcangyfrifon o'r Galw am Dai yng Nghymru ar lefel Cenedlaethol a Rhanbarthol (sail 2018)