Anheddau newydd a gwblhawyd yn ôl ardal, y math o amnedd a nifer yr ystafelloedd gwely
None
|
Metadata
- Gwybodaeth lefel uchel
- Gwybodaeth cryno
- Gwybodaeth ansawdd ystadegol
- Allweddeiriau
- Dolenni'r we
- Data agored
Teitl
Anheddau parhaol newydd a gwblhawydDiweddariad diwethaf
19 Medi 2024Diweddariad nesaf
Rhagfyr 2024Sefydliad cyhoeddi
Llywodraeth CymruFfynhonnell 1
Casgliad data am adeiladu tai newydd, Llywodraeth CymruCyswllt ebost
ystadegau.cyflwrtai@llyw.cymruDynodiad
Ystadegau GwladolLefel isaf o ddadelfennu daearyddol
Awdurdodau lleolCwmpas daearyddol
CymruCwmpas ieithyddol
Saesneg a ChymraegTrwyddedu data
Gallwch ddefnyddio ac ailddefnyddio'r data hwn am ddim mewn unrhyw fformat neu gyfrwng, dan delerau'r Drwydded Llywodraeth Agored - gweler http://www.nationalarchives.gov.uk/doc/open-government-licence-cymraegDisgrifiad cyffredinol
Yng Nghymru, mae tai newydd yn cael eu hadeiladu gan y sector preifat, Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig ac awdurdodau lleol. Mae'r wybodaeth a gyflwynir yma yn seiliedig ar adroddiadau arolygwyr adeiladau awdurdodau lleol a'r Cyngor Adeiladu Tai Cenedlaethol (NHBC). Nid yw'n cynnwys gwybodaeth gan arolygwyr preifat. Mae peidio â chynnwys yr wybodaeth hon yn golygu bod tangyfrif ar hyn o bryd yn nifer yr anheddau a ddechreuwyd er yr amcangyfrifir bod y nifer sydd heb ei chyfrif yn weddol fach.Mae'r wybodaeth yn dangos nifer yr anheddau newydd a ddechreuwyd yng Nghymru ac mae'n cael ei chasglu er mwyn asesu’r lefel adeiladu tai newydd ledled Cymru yn ystod y cyfnod. Mae'r data yn cael eu defnyddio i helpu i fonitro tueddiadau yn lefel gyffredinol y stoc dai yng Nghymru a'r newidiadau o ran dosbarthiad ei deiliadaeth dros gyfnod o amser. Mae’r data yn cael eu defnyddio hefyd gan Lywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol i asesu lefelau'r cyflenwad o dai ledled Cymru ac fel ffordd o fesur a yw'r angen o ran tai yn cael ei ddiwallu.
Mae'r ffigurau ar yr anheddau a gwblhawyd yn dod o gofnodion a gadwyd at ddibenion rheoli adeiladu. Mae'n anodd weithiau i swyddogion rheoli adeiladu a’r NHBC sy'n cofnodi'r data i nodi daliadaeth derfynol arfaethedig yr eiddo (sy’n sail ar gyfer y wybodaeth am ddeiliadaeth). Gall hyn arwain at dan gyfrif tai newydd yn y sector cymdeithasol a gor-gyfrif ar gyfer y sector breifat. O fewn y sector gymdeithasol, gall hefyd arwain at dan gyfrif tai newydd gan awdurdodau lleol a gor-gyfrif tai landlordiaid cymdeithasol. Felly dylid trin y data daliadaeth yn ofalus.
Mae gwaith adeiladu tai newydd sy'n cael ei gyllido gan gyllid grant cyfalaf yn cynnwys cyllid Grant Tai Cymdeithasol, Grant Tai Cymdeithasol sydd wedi'i ailgylchu a'r Gronfa Buddsoddi Cyfalaf Strategol
Casgliad data a dull cyfrifo
Mae'r wybodaeth a gyflwynir yma yn cael ei chasglu drwy ffurflenni chwarterol oddi wrth Awdurdodau Lleol a'r Cyngor Adeiladu Tai Cenedlaethol (NHBC).Amlder cyhoeddi
ChwarterolCyfnodau data dan sylw
O 1974-75 ymlaen. Mae data chwarterol heb eu casglu ar gyfer 2020-21 oherwydd effaith y pandemig COVID-19.Defnyddwyr, defnydd a chyd-destun
Gallwch weld y wybodaeth hon yn y cyhoeddiad ystadegol cysylltiedig trwy ddilyn y ddolen we a roddir.Talgrynnu wedi'u ddefnyddio
DimGwybodaeth am ddiwygiadau
Mae data cyn y cyfnod diwethaf sydd wedi'i ddiwygio ers y cyhoeddiad diwethaf wedi'i nodi gydag (r).Gan fod y data hwn yn rhan o gasgliadau data eraill, er enghraifft, cyfrifiadau eiddo sy'n cydymffurfio â Safon Ansawdd Tai Cymru, mae'n bosibl y bydd y data yn amodol ar fân ddiwygiadau maes o law. Os bydd angen, er enghraifft, lle mae'r diwygiadau'n sylweddol, bydd y diwygiadau hyn yn cael eu cynnwys mewn cyhoeddiad data ffurfiol diwygiedig hefyd (gweler y dolenni gwe).