Anheddau newydd a ddechreuwyd yn ôl ardal awdurdod lleol a'r math o annedd
None
|
Metadata
- Gwybodaeth lefel uchel
- Gwybodaeth cryno
- Gwybodaeth ansawdd ystadegol
- Allweddeiriau
- Dolenni'r we
- Data agored
Teitl
Anheddau parhaol newydd a ddechreuwydDiweddariad diwethaf
19 Medi 2024Diweddariad nesaf
Rhagfyr 2024Sefydliad cyhoeddi
Llywodraeth CymruFfynhonnell 1
Casgliad data am adeiladu tai newydd, Llywodraeth CymruCyswllt ebost
ystadegau.cyflwrtai@llyw.cymruDynodiad
Ystadegau GwladolLefel isaf o ddadelfennu daearyddol
Awdurdodau lleolCwmpas daearyddol
CymruCwmpas ieithyddol
Saesneg a ChymraegTrwyddedu data
Gallwch ddefnyddio ac ailddefnyddio'r data hwn am ddim mewn unrhyw fformat neu gyfrwng, dan delerau'r Drwydded Llywodraeth Agored - gweler http://www.nationalarchives.gov.uk/doc/open-government-licence-cymraegDisgrifiad cyffredinol
Yng Nghymru, mae tai newydd yn cael eu hadeiladu gan y sector preifat, Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig ac awdurdodau lleol. Mae'r wybodaeth a gyflwynir yma yn seiliedig ar adroddiadau arolygwyr adeiladau awdurdodau lleol a'r Cyngor Adeiladu Tai Cenedlaethol (NHBC). Nid yw'n cynnwys gwybodaeth gan arolygwyr preifat. Mae peidio â chynnwys yr wybodaeth hon yn golygu bod tangyfrif ar hyn o bryd yn nifer yr anheddau a ddechreuwyd er yr amcangyfrifir bod y nifer sydd heb ei chyfrif yn weddol fach.Mae'r wybodaeth yn dangos nifer yr anheddau newydd a ddechreuwyd yng Nghymru ac mae'n cael ei chasglu er mwyn asesu’r lefel adeiladu tai newydd ledled Cymru yn ystod y cyfnod. Mae'r data yn cael eu defnyddio i helpu i fonitro tueddiadau yn lefel gyffredinol y stoc dai yng Nghymru a'r newidiadau o ran dosbarthiad ei deiliadaeth dros gyfnod o amser. Mae’r data yn cael eu defnyddio hefyd gan Lywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol i asesu lefelau'r cyflenwad o dai ledled Cymru ac fel ffordd o fesur a yw'r angen o ran tai yn cael ei ddiwallu.
Mae'r ffigurau ar yr anheddau a ddechreuwyd yn dod o gofnodion a gadwyd at ddibenion rheoli adeiladu. Yn aml mae'n anodd i ddarparwyr data nodi a yw annedd yn cael ei hadeiladu ar gyfer landlord cymdeithasol cofrestredig neu ar gyfer datblygwr preifat, a gall hyn arwain at dan-nodi nifer yr anheddau a ddechreuwyd ar gyfer landlordiaid cymdeithasol cofrestredig yn y tablau hyn, a gor-nodi ffigurau mentrau preifat. Mae hyn yn fwy tebygol o ddigwydd yn achos ffigurau dechrau anheddau na'r ffigurau cwblhau, ac felly nid yw'r data ar ddechrau anheddau wedi'u rhannu yn ôl deiliadaeth o 2011-12.