Nifer yr eiddo ar osod yn ôl blwyddyn a'r math o eiddo ar osod
None
|
Metadata
- Gwybodaeth cryno
- Gwybodaeth lefel uchel
- Gwybodaeth ansawdd ystadegol
- Dolenni'r we
- Allweddeiriau
- Data agored
Disgrifiad cyffredinol
Mae'r wybodaeth a gyflwynir yma yn cwmpasu nifer y gosodiadau yn y stoc dai a gedwir gan Awdurdodau Lleol a Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig. Mae'r wybodaeth yn cael ei chasglu trwy ffurflenni blynyddol gan landlordiaid cymdeithasol Cymru er mwyn monitro tueddiadau dros amser yn y nifer a'r math o osodiadau. Mae gosodiadau'n cwmpasu'r holl osodiadau yn ystod y flwyddyn ariannol ac yn cynnwys gosodiadau newydd, ail-osodiadau, trosglwyddiadau a chyfnewidiadau.2) Nid oedd data ar osodiadau ar gyfer Grwp Tai Gwalia ar gael ar gyfer 2010-11 a 2011-12. Ar gyfer 2010-11, defnyddiwyd data 2009-10. Ar gyfer 2011-12, derbyniwyd cyfanswm y gosodiadau ar wahân, a chafwyd dadansoddiad yn ôl lleoliad a'r math o osodiad trwy ddefnyddio'r cyfrannau o 2009-10;
3) Nodwyd diwygiad o ddata Bro Morgannwg i ddata gosodiadau'r flwyddyn flaenorol ar gyfer 2008-09, ond nid oedd modd darparu'r data diwygiedig cyn y dyddiad cyhoeddi.
4) Ar gyfer 2008-09 a 2009-10, nid oedd rhaid i gymdeithasau Abbeyfield, elusennau Almshouse a chymdeithasau cydberchnogaeth lenwi ffurflen gosodiadau.
Casgliad data a dull cyfrifo
Mae'r wybodaeth a gyflwynir yma yn cael ei chasglu trwy ffurflenni blynyddol gan Awdurdodau Lleol a Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig ar gyfer pob blwyddyn ariannol.Yn 2018-19 nid oedd Cymdeithas Tai Benisel yn gallu cyflwyno data. Felly defnyddiwyd gwybodaeth a ddarparwyd gan Gymdeithas Tai Baneswell ar gyfer 2017-18 ar gyfer 2018-19 er mwyn darparu cyfanswm awdurdod lleol a Chymru fwy cywir.
Yn ystod y gwaith o gasglu a dilysu data yn 2009-10, 2010-11 a 2011-12, roedd rhai landlordiaid yn methu â chyflwyno data neu ddatrys gwallau dilysu. Os felly, mae'r amcangyfrif gorau o'r data coll neu wallus wedi'i ddefnyddio. Er mai effaith fach yn unig y dylai hyn ei chael ar ddata ar lefel Cymru, efallai y bydd angen bod yn ofalus wrth ddefnyddio data ar gyfer ardaloedd a darparwyr penodol. Mae'r rhestr isod yn nodi'r materion:
1) Nid oedd data ar osodiadau ar gyfer Blaenau Gwent ar gael ar gyfer 2009-10, felly defnyddiwyd data 2008-09 ar gyfer 2009-10;
Amlder cyhoeddi
BlynyddolCyfnodau data dan sylw
Dangosir data ar gyfer pob blwyddyn ariannol o 1996-97 ymlaen.Nodwch, oherwydd y pandemig Coronafeirws (COVID-19) yn 2020, ni chasglwyd data ar gosodiadau tai cymdeithasol ar gyfer 2019-20.