Cydymffurfiaeth gyffredinol â Safon Ansawdd Tai Cymru yn ôl darparwr a mesur
None
|
Metadata
- Gwybodaeth cryno
- Gwybodaeth lefel uchel
- Allweddeiriau
- Dolenni'r we
- Gwybodaeth ansawdd ystadegol
- Data agored
Disgrifiad cyffredinol
Cafodd SATC ei gyhoeddi’n gyntaf yn 2002 a chyhoeddwyd canllawiau diwygiedig yn 2008. Mae Llywodraeth Cymru yn disgwyl i bob landlord cymdeithasol yng Nghymru fabwysiadu'r safon a sicrhau bod eu holl gartrefi yn cwrdd â’r safon erbyn diwedd 2012 (fe’i ail-ddiffiniwyd fel erbyn diwedd 2012-13) neu erbyn terfynau amser a ail-drafodwyd, a chynnal hyn i’r dyfodol.Mae SATC yn mesur 42 o elfennau unigol o fewn y saith categori canlynol:
• Mewn cyflwr da
• Yn ddiogel a sicr
• Wedi gwresogi'n ddigonol, yn effeithlon o ran tanwydd ac wedi inswleiddio'n dda
• yn cynnwys ceginau ac ystafelloedd ymolchi cyfredol
• rheoli'n dda (ar gyfer tai rhent)
• lleoli mewn amgylchedd deniadol a diogel
• yn cwrdd â gofynion penodol yr aelwyd (ee anableddau penodol) cymaint ag y bo modd
Nid yw'r wybodaeth a ddangosir yn y datganiad hwn yn cwmpasu pob un o'r 42 o elfennau unigol gan nad oedd yn ofynnol i landlordiaid cymdeithasol i adrodd ar Gategori 6 o SATC (lleoli mewn amgylchedd deniadol a diogel) a gafodd ei ystyried yn rhy anodd i'w fesur yn gyson.
Casgliad data a dull cyfrifo
Mae'r wybodaeth a gyflwynir yma yn mesur y cynnydd a wnaed gan landlordiaid cymdeithasol (awdurdodau lleol a landlordiaid cymdeithasol cofrestredig) o ran cyflawni Safon Ansawdd Tai Cymru (SATC) ar gyfer eu holl stoc. SATC yw safon ansawdd tai Llywodraeth Cymru.Amlder cyhoeddi
BlynyddolCyfnodau data dan sylw
Dechreuwyd casglu'r data ym mis Gorffennaf 2012, ac mae'n cael ei ddefnyddio i asesu nifer yr anheddau tai cymdeithasol sy'n cydymffurfio'n llawn â SATC ar 31 Mawrth a'r rhai sy'n cydymffurfio yn amodol ar fethiannau derbyniol. Mae'r wybodaeth a gesglir yn cwmpasu cydymffurfiaeth gyffredinol â SATC, yn ogystal â chydymffurfiaeth â SATC yn ôl y math o gydran. Ar gyfer 2019/20, casglwyd y data ar 31 Rhagfyr 2020. Ni chasglwyd data ar gyfer 2020-21.Defnyddwyr, defnydd a chyd-destun
Gallwch weld y wybodaeth hon yn y cyhoeddiad ystadegol cysylltiedig trwy ddilyn y ddolen we a roddir.Talgrynnu wedi'u ddefnyddio
DimGwybodaeth am ddiwygiadau
Mae data cyn y cyfnod diwethaf a gafodd sylw wedi'i ddiwygio ers y cyhoeddiad diwethaf. Mae diwygiadau yn y data wedi'u nodi gydag (r).Teitl
Cydymffurfiaeth â Safon Ansawdd Tai Cymru (SATC)Diweddariad diwethaf
19 Hydref 2023Diweddariad nesaf
Medi 2024Sefydliad cyhoeddi
Llywodraeth CymruFfynhonnell 1
Casgliad data am ansawdd tai cymdeithasol, Llywodraeth CymruCyswllt ebost
ystadegau.tai@llyw.cymruDynodiad
DimLefel isaf o ddadelfennu daearyddol
Awdurdodau lleolCwmpas daearyddol
CymruCwmpas ieithyddol
Saesneg a ChymraegTrwyddedu data
Gallwch ddefnyddio ac ailddefnyddio'r data hwn am ddim mewn unrhyw fformat neu gyfrwng, dan delerau'r Drwydded Llywodraeth Agored - gweler http://www.nationalarchives.gov.uk/doc/open-government-licence-cymraegAllweddeiriau
Tai, SATC, Anheddau, Cydran, CydymffurfioDolenni'r we
http://gov.wales/statistics-and-research/welsh-housing-quality-standard/?skip=1&lang=cyAnsawdd ystadegol
Mae’r wybodaeth a ddangosir ar gyfer Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig (LCC) yn seiliedig ar ymatebion gan 57 LCC yn 2011-12, 58 LCC yn 2012-13, 59 LCC yn 2013-14, 58 LCC yn 2014-15, 60 yn 2015-16, 59 yn 2016-17 a 58 yn 2017-18.Ni dderbyniwyd gwybodaeth gan 4 LCC yn 2012-13, 2 LCC yn 2013-14, 3 LCC yn 2014-15, 2 LCC yn 2015-16, 1 LCC yn 2016-17 a yn 2017-18.
Mae niferoedd stoc wedi eu cymhwyso’n briodol.