

None
|
Metadata
- Gwybodaeth lefel uchel
- Gwybodaeth cryno
- Allweddeiriau
- Dolenni'r we
- Gwybodaeth ansawdd ystadegol
- Data agored
Teitl
Y gwaith o waredu anheddau cyngor wedi'i gwblhauDiweddariad diwethaf
30 Gorffennaf 2024Diweddariad nesaf
Gorffennaf 2025Sefydliad cyhoeddi
Llywodraeth CymruFfynhonnell 1
Casgliad data am werthiant tai cymdeithasol, Llywodraeth CymruCyswllt ebost
ystadegau.tai@llyw.cymruDynodiad
Ystadegau GwladolLefel isaf o ddadelfennu daearyddol
Awdurdodau lleolCwmpas daearyddol
CymruCwmpas ieithyddol
Saesneg a ChymraegTrwyddedu data
Gallwch ddefnyddio ac ailddefnyddio'r data hwn am ddim mewn unrhyw fformat neu gyfrwng, dan delerau'r Drwydded Llywodraeth Agored - gweler http://www.nationalarchives.gov.uk/doc/open-government-licence-cymraegDisgrifiad cyffredinol
Mae'r wybodaeth a gyflwynir yma yn dangos nifer yr anheddau awdurdod lleol a werthwyd. Defnyddir y data i helpu i fonitro tueddiadau yn lefel gyffredinol stoc tai Cymru a'r newidiadau yn nosbarthiad daliadaethau dros amser. Mae'r data hefyd yn cael ei ddefnyddio gan Lywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol i asesu lefelau cyflenwad tai ledled Cymru i roi syniad a yw anghenion tai yn cael eu diwallu.Casgliad data a dull cyfrifo
Mae'r wybodaeth a gyflwynir yma yn cael ei chasglu trwy ffurflenni blynyddol gan landlordiaid cymdeithasol Cymru (awdurdodau lleol a landlordiaid cymdeithasol cofrestredig) ar nifer y tai a werthwyd yn ystod y flwyddyn ariannol.Amlder cyhoeddi
BlynyddolCyfnodau data dan sylw
Dangosir data ar gyfer yr hawl i brynu rhwng 1980-81 a 2012-13. Roedd y data'n cael ei gasglu'n chwarterol hyd at 2010-11, ac yn flynyddol o 2011-12 ymlaen. Mae'r ffigurau ar gyfer pob blwyddyn ariannol yn cynrychioli nifer y tai a werthwyd yn ystod pob un o'r blynyddoedd ariannol rhwng mis Ebrill a mis Mawrth.Nodwch, oherwydd y pandemig Coronafeirws (COVID-19) yn 2020, ni chasglwyd data ar werthiannau tai landlordiaid cymdeithasol ar gyfer 2019-20.
Defnyddwyr, defnydd a chyd-destun
Gallwch weld y wybodaeth hon yn y cyhoeddiad ystadegol cysylltiedig trwy ddilyn y ddolen we a roddir.Talgrynnu wedi'u ddefnyddio
DimGwybodaeth am ddiwygiadau
Mae data cyn y cyfnod diwethaf sydd wedi'i ddiwygio ers y cyhoeddiad diwethaf wedi'i nodi gydag (r).Gan fod y data hwn yn rhan o gasgliadau data eraill, er enghraifft, cyfrifiadau eiddo sy'n cydymffurfio â Safon Ansawdd Tai Cymru, mae'n bosibl y bydd y data yn amodol ar fân ddiwygiadau maes o law. Os bydd angen, er enghraifft, lle mae'r diwygiadau'n sylweddol, bydd y diwygiadau hyn yn cael eu cynnwys mewn cyhoeddiad data ffurfiol diwygiedig hefyd (gweler y dolenni gwe).