Cyfanswm tai landlordiaid cymdeithasol a werthwyd yn ôl cyfnod a'r math o ddarparwr
None
|
Metadata
- Gwybodaeth cryno
- Gwybodaeth lefel uchel
- Gwybodaeth ansawdd ystadegol
- Allweddeiriau
- Dolenni'r we
- Data agored
Disgrifiad cyffredinol
Mae'r wybodaeth a gyflwynir yma yn dangos nifer yr anheddau awdurdod lleol a'r anheddau Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig (RSL) a werthwyd. Mae’n cynnwys holl werthiant tai landlordiaid cymdeithasol – tai cymdeithasol a thai nad sy’n gymdeithasol. Defnyddir y data i helpu i fonitro tueddiadau yn lefel gyffredinol stoc tai Cymru a'r newidiadau yn nosbarthiad daliadaethau dros amser. Mae'r data hefyd yn cael ei ddefnyddio gan Lywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol i asesu lefelau cyflenwad tai ledled Cymru ac fel syniad o a yw anghenion tai yn cael eu diwallu.Mae RSLs yn sefydliadau sy'n darparu a rheoli eiddo ar gyfer pobl na fyddent fel arall yn gallu fforddio rhentu neu brynu'n breifat. Rhaid i landlordiaid cymdeithasol gofrestru gyda Llywodraeth Cymru ac maent yn cael eu harolygu'n rheolaidd er mwyn cynnal safon reoli dda.
Mae'r gwerthiannau Hawl i Gaffael a'r gwerthiannau Cymorth Prynu sydd wedi'u cynnwys ond yn briodol i anheddau Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig.
Casgliad data a dull cyfrifo
Mae'r wybodaeth a gyflwynir yma yn cael ei chasglu trwy ffurflenni blynyddol gan landlordiaid cymdeithasol Cymru (awdurdodau lleol a landlordiaid cymdeithasol cofrestredig) ar nifer y tai a werthwyd yn ystod y flwyddyn ariannol.Amlder cyhoeddi
BlynyddolCyfnodau data dan sylw
Dangosir data ar gyfer yr hawl i brynu rhwng 1980-81 a 2012-13. Roedd y data'n cael ei gasglu'n chwarterol hyd at 2010-11, ac yn flynyddol o 2011-12 ymlaen. Mae'r ffigurau ar gyfer pob blwyddyn ariannol yn cynrychioli nifer y tai a werthwyd yn ystod pob un o'r blynyddoedd ariannol rhwng mis Ebrill a mis Mawrth.Nodwch, oherwydd y pandemig Coronafeirws (COVID-19) yn 2020, ni chasglwyd data ar werthiannau tai landlordiaid cymdeithasol ar gyfer 2019-20.