Swyddi gwag yn ôl darparwr a'r math o swydd wag
None
|
Metadata
- Gwybodaeth lefel uchel
- Gwybodaeth cryno
- Allweddeiriau
- Dolenni'r we
- Gwybodaeth ansawdd ystadegol
- Data agored
Teitl
Gwag Tai cymdeithasolDiweddariad diwethaf
25 Gorffennaf 2024Diweddariad nesaf
Mawrth 2025Sefydliad cyhoeddi
Llywodraeth CymruFfynhonnell 1
Casgliad data am leoedd gwag mewn tai cymdeithasol, Llywodraeth CymruCyswllt ebost
ystadegau.tai@llyw.cymruDynodiad
Ystadegau GwladolLefel isaf o ddadelfennu daearyddol
Awdurdodau lleolCwmpas daearyddol
CymruCwmpas ieithyddol
Saesneg a ChymraegTrwyddedu data
Gallwch ddefnyddio ac ailddefnyddio'r data hwn am ddim mewn unrhyw fformat neu gyfrwng, dan delerau'r Drwydded Llywodraeth Agored - gweler http://www.nationalarchives.gov.uk/doc/open-government-licence-cymraegDisgrifiad cyffredinol
Mae'r wybodaeth a gyflwynir yma yn cwmpasu nifer y tai gwag yn stoc dai Awdurdodau Lleol a Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig. Mae'r wybodaeth yn cael ei chasglu trwy ffurflenni blynyddol newydd gan landlordiaid cymdeithasol Cymru er mwyn monitro tueddiadau dros amser yng nghyfran y stoc dai sy'n dai gwag.Mae anheddau gwag yn cynnwys:
1.)Anheddau sy'n destun neu sy'n disgwyl gwaith adfer, trosi neu wella mawr;
2.)Anheddau gwag sydd wedi derbyn cymeradwyaeth ffurfiol ar gyfer eu gwerthu neu eu dymchwel ar yr amod eu bod yn dal i fod yn rhan o anheddau HRA (Cyfrif Refeniw Tai);
3.)Yr holl anheddau gwag i'w gwerthu, waeth a ydynt yn disgwyl cael eu gwerthu neu'n cael eu hatgyweirio cyn cael eu gwerthu;
4.)Anheddau gwag sy'n destun gorchmynion dymchwel neu gau neu sydd wedi'u caffael i'w dymchwel o dan Ran VI neu IX o Ddeddf Tai 1985.
Mae'r wybodaeth a gyflwynir yma yn hepgor anheddau gwag lle mae cynnig tenantiaeth wedi'i dderbyn, hyd yn oed os na fydd unrhyw rent yn cael ei dalu ar ddiwedd y flwyddyn ariannol.
Casgliad data a dull cyfrifo
Mae'r wybodaeth a gyflwynir yma yn cael ei chasglu trwy ffurflenni blynyddol gan Awdurdodau Lleol a Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig ar 31 Mawrth bob blwyddyn.Yn 2018-19 nid oedd Cymdeithas Tai Benisel yn gallu cyflwyno data. Felly defnyddiwyd gwybodaeth a ddarparwyd gan Gymdeithas Tai Baneswell ar gyfer 2017-18 ar gyfer 2018-19 er mwyn darparu cyfanswm awdurdod lleol a Chymru fwy cywir.
Amlder cyhoeddi
BlynyddolCyfnodau data dan sylw
Dangosir data ar gyfer pob blwyddyn ariannol o 1996-97 ymlaen.Nodwch, oherwydd y pandemig Coronafeirws (COVID-19) yn 2020, ni chasglwyd data ar tai cymdeithasol gwag ar gyfer 2019-20.