Mae'r ystadegau'n cyfeirio at nifer y symudiadau gan awyrennau ym Maes Awyr Caerdydd yn ôl math y symudiad a'r flwyddyn. Mae'r ffigurau yn gysylltiedig â Maes Awyr Rhyngwladol Caerdydd gan mai dyma'r unig faes awyr mawr domestig a rhyngwladol yng Nghymru. Symudiad gan awyren yw awyren sy'n gadael neu yn glanio mewn maes awyr.
Casgliad data a dull cyfrifo
Mae'r wybodaeth am gludiant awyr drwy Faes Awyr Caerdydd yn y tablau hyn yn ail-adrodd yr ystadegau a baratowyd gan yr Awdurdod Hedfan Sifil (CAA). Rydym yn cydnabod ac yn gwerthfawrogi eu gwaith. Mae data y CAA y tu allan i gwmpas yr Ystadegau Gwladol. Mae'r wybodaeth i'w chael o dan Weblinks, gan gynnwys nodiadau y CAA eu hunain am y ffigurau.