Bodlonrwydd cyffredinol teithwyr â’u taith ar Drenau Arriva Cymru ar adeg yr arolwg - hyd at 2019 yn unig
None
|
Metadata
- Gwybodaeth lefel uchel
- Gwybodaeth cryno
- Gwybodaeth ansawdd ystadegol
- Dolenni'r we
- Allweddeiriau
- Data agored
Teitl
Bodlonrwydd cyffredinol teithwyr â’u taith ar Drenau Arriva Cymru ar adeg yr arolwg - hyd at 2019 yn unigDiweddariad diwethaf
Awst 2020Diweddariad nesaf
Ebrill 2021 (dros dro)Sefydliad cyhoeddi
Llywodraeth CymruFfynhonnell 1
Arolwg o Foddhad Teithwyr Rheilffordd, Passenger FocusCyswllt ebost
ystadegau.trafnidiaeth@llyw.cymruDynodiad
Ystadegau GwladolCwmpas daearyddol
CymruCwmpas ieithyddol
Saesneg a ChymraegTrwyddedu data
Gallwch ddefnyddio ac ailddefnyddio'r data hwn am ddim mewn unrhyw fformat neu gyfrwng, dan delerau'r Drwydded Llywodraeth Agored - gweler http://www.nationalarchives.gov.uk/doc/open-government-licence-cymraegDisgrifiad cyffredinol
Mae’r data hyn yn rhoi gwybodaeth am fodlonrwydd cyffredinol teithwyr â’u taith ar Drenau Arriva Cymru. Cafwyd yr wybodaeth am fodlonrwydd teithwyr â gwasanaethau trên a chyfleusterau mewn gorsafoedd o’r arolygon o ddefnyddwyr rheilffyrdd a gynhaliwyd gan Passanger Focus. Mae’r arolwg yn gofyn yr un gyfres o gwestiynau am brofiadau teithwyr o ddefnyddio cerbydau a chyfleusterau’r rheilffyrdd yn ystod gwanwyn a hydref pob blwyddyn. Caiff y data eu cyflwyno yn ôl maint sampl (nifer) neu ganlyniadau’r arolwg (canran).Casgliad data a dull cyfrifo
Cesglir ffigurau bodlonrwydd teithwyr drwy Arolwg Teithwyr Cenedlaethol (NPS) sy’n rhoi darlun o fodlonrwydd cwsmeriaid â theithio ar reilffyrdd. Cesglir barn teithwyr am wasanaethau trenau, ddwywaith y flwyddyn, gan ddefnyddio sampl cynrychioladol o deithiau teithwyr. Felly, gellir cymharu bodlonrwydd teithwyr â 30 o agweddau penodol ar y gwasanaeth a’u bodlonrwydd cyffredinol, dros gyfnod o amser. Dosberthir holiaduron mewn gorsafoedd i deithwyr sydd ar fin camu ar drên, a darperir amlen ragdaledig i ddychwelyd holiaduron. Ymgymerir â gwaith maes bob gwanwyn (yn bennaf ym mis Chwefror/Mawrth) ac yn yr hydref (yn bennaf ym mis Medi/Hydref) dros gyfnod o 11 wythnos. Pennir cwotâu ar gyfer holiaduron a ddychwelir, a phwysoliad ar gyfer canlyniadau’r arolwg ar sail gyffredinol ac yn ôl y diwrnod o’r wythnos/penwythnos, diben y daith a maint yr orsaf yn seiliedig ar wybodaeth gan bob Gwmni Trenau (TOC). Mae cynllun a phwysoliad y sampl hwn yn sicrhau bod data yn gynrychioladol o’r holl deithiau a wneir gan deithwyr gyda bob un TOC. Cesglir canlyniadau cenedlaethol drwy gyfuno data ar gyfer pob TOC gyda’i gilydd, gan bwysoli yn ôl nifer y teithiau.Caiff tua 33% o holiaduron a ddosberthir, eu dychwelyd ar gyfer pob arolwg. Caiff pob holiadur a ddychwelir ei wirio i gadarnhau bod y manylion a ddarperir ar gyfer taith wirioneddol, ac yna caiff ymateb i’r holiadur ei ddyrannu i’r Cwmni Trenau (TOC) priodol.
Gellir dod o hyd i gydymffurfiad yr arolwg hwn â safonau Ystadegau Gwladol, yn:
http://www.passengerfocus.org.uk/official-statistics Gellir dod o hyd i’r arolwg ei hun ar wefan Passenger Focus:
http://www.passengerfocus.org.uk/research/national-passenger-survey-introduction
Amlder cyhoeddi
BlynyddolCyfnodau data dan sylw
Mae'r ystadegau hyn yn ymwneud â chanlyniadau'r arolwg boddhad teithwyr yng Nghymru a Phrydain Fawr hyd at 2019.Defnyddwyr, defnydd a chyd-destun
Defnyddir yr ystadegau hyn o fewn Llywodraeth Cymru ac oddi allan iddi, er mwyn monitro tueddiadau mewn trafnidiaeth rheilffyrdd ac fel llinell sylfaen ar gyfer dadansoddi pellach.Mae’r wybodaeth ar gyfer yr ystadegau hyn yn seiliedig ar amrywiaeth o arolygon o aelwydydd a gan unigolion, ac ar ddata gweinyddol.
Gwybodaeth am ddiwygiadau
Caiff data ar gyfer cyfnodau blaenorol eu diweddaru’n rheolaidd. Gellir diwygio’r data ar gyfer y flwyddyn ariannol neu’r flwyddyn galendr gyfredol ar adeg datgan data’r flwyddyn nesaf.Ansawdd ystadegol
Cesglir ffigurau bodlonrwydd teithwyr drwy Arolwg Teithwyr Cenedlaethol (NPS) sy’n rhoi darlun o fodlonrwydd cwsmeriaid â theithio ar reilffyrdd. Cesglir barn teithwyr am wasanaethau trenau, ddwywaith y flwyddyn, gan ddefnyddio sampl cynrychioladol o deithiau teithwyr. Felly, gellir cymharu bodlonrwydd teithwyr â 30 o agweddau penodol ar y gwasanaeth a’u bodlonrwydd cyffredinol, dros gyfnod o amser. Dosberthir holiaduron mewn gorsafoedd i deithwyr sydd ar fin camu ar drên, a darperir amlen ragdaledig i ddychwelyd holiaduron. Ymgymerir â gwaith maes bob gwanwyn (yn bennaf ym mis Chwefror/Mawrth) ac yn yr hydref (yn bennaf ym mis Medi/Hydref) dros gyfnod o 11 wythnos. Pennir cwotâu ar gyfer holiaduron a ddychwelir, a phwysoliad ar gyfer canlyniadau’r arolwg ar sail gyffredinol ac yn ôl y diwrnod o’r wythnos/penwythnos, diben y daith a maint yr orsaf yn seiliedig ar wybodaeth gan bob Gwmni Trenau (TOC). Mae cynllun a phwysoliad y sampl hwn yn sicrhau bod data yn gynrychioladol o’r holl deithiau a wneir gan deithwyr gyda bob un TOC. Cesglir canlyniadau cenedlaethol drwy gyfuno data ar gyfer pob TOC gyda’i gilydd, gan bwysoli yn ôl nifer y teithiau.Caiff tua 33% o holiaduron a ddosberthir, eu dychwelyd ar gyfer pob arolwg. Caiff pob holiadur a ddychwelir ei wirio i gadarnhau bod y manylion a ddarperir ar gyfer taith wirioneddol, ac yna caiff ymateb i’r holiadur ei ddyrannu i’r Cwmni Trenau (TOC) priodol.
Gellir dod o hyd i gydymffurfiad yr arolwg hwn â safonau Ystadegau Gwladol, yn:
http://www.passengerfocus.org.uk/official-statistics Gellir dod o hyd i’r arolwg ei hun ar wefan Passenger Focus:
http://www.passengerfocus.org.uk/research/national-passenger-survey-introduction
Dolenni'r we
Datganiad ystadegol, trafnidiaeth rheilffyrdd:http://gov.wales/statistics-and-research/rail-transport/?skip=1&lang=cy