Bodlonrwydd cyffredinol teithwyr â’r ddarpariaeth o wybodaeth am blatfformau neu amseroedd trenau yng ngorsafoedd Trenau Arriva Cymru ar adeg yr arolwg - hyd at 2019 yn unig
None
|
Metadata
- Gwybodaeth cryno
- Gwybodaeth lefel uchel
- Dolenni'r we
- Allweddeiriau
- Gwybodaeth ansawdd ystadegol
- Data agored
Disgrifiad cyffredinol
Mae’r data hyn yn rhoi gwybodaeth am fodlonrwydd cyffredinol teithwyr â’r ddarpariaeth o wybodaeth ynglyn â phlatfformau / amseroedd trenau yng ngorsafoedd Trenau Arriva Cymru. Cafwyd yr wybodaeth am fodlonrwydd teithwyr â gwasanaethau trên a chyfleusterau mewn gorsafoedd o’r arolygon o ddefnyddwyr rheilffyrdd a gynhaliwyd gan Passanger Focus. Mae’r arolwg yn gofyn yr un gyfres o gwestiynau am brofiadau teithwyr o ddefnyddio cerbydau a chyfleusterau’r rheilffyrdd yn ystod gwanwyn a hydref pob blwyddyn. Caiff y data eu cyflwyno yn ôl maint sampl (nifer) neu ganlyniadau’r arolwg (canran).Casgliad data a dull cyfrifo
Cesglir ffigurau bodlonrwydd teithwyr drwy Arolwg Teithwyr Cenedlaethol (NPS) sy’n rhoi darlun o fodlonrwydd cwsmeriaid â theithio ar reilffyrdd. Cesglir barn teithwyr am wasanaethau trenau, ddwywaith y flwyddyn, gan ddefnyddio sampl cynrychioladol o deithiau teithwyr. Felly, gellir cymharu bodlonrwydd teithwyr â 30 o agweddau penodol ar y gwasanaeth a’u bodlonrwydd cyffredinol, dros gyfnod o amser. Dosberthir holiaduron mewn gorsafoedd i deithwyr sydd ar fin camu ar drên, a darperir amlen ragdaledig i ddychwelyd holiaduron. Ymgymerir â gwaith maes bob gwanwyn (yn bennaf ym mis Chwefror/Mawrth) ac yn yr hydref (yn bennaf ym mis Medi/Hydref) dros gyfnod o 11 wythnos. Pennir cwotâu ar gyfer holiaduron a ddychwelir, a phwysoliad ar gyfer canlyniadau’r arolwg ar sail gyffredinol ac yn ôl y diwrnod o’r wythnos/penwythnos, diben y daith a maint yr orsaf yn seiliedig ar wybodaeth gan bob Gwmni Trenau (TOC). Mae cynllun a phwysoliad y sampl hwn yn sicrhau bod data yn gynrychioladol o’r holl deithiau a wneir gan deithwyr gyda bob un TOC. Cesglir canlyniadau cenedlaethol drwy gyfuno data ar gyfer pob TOC gyda’i gilydd, gan bwysoli yn ôl nifer y teithiau.Caiff tua 33% o holiaduron a ddosberthir, eu dychwelyd ar gyfer pob arolwg. Caiff pob holiadur a ddychwelir ei wirio i gadarnhau bod y manylion a ddarperir ar gyfer taith wirioneddol, ac yna caiff ymateb i’r holiadur ei ddyrannu i’r Cwmni Trenau (TOC) priodol.
Gellir dod o hyd i gydymffurfiad yr arolwg hwn â safonau Ystadegau Gwladol, yn:
http://www.passengerfocus.org.uk/official-statistics Gellir dod o hyd i’r arolwg ei hun ar wefan Passenger Focus:
http://www.passengerfocus.org.uk/research/national-passenger-survey-introduction
Amlder cyhoeddi
BlynyddolCyfnodau data dan sylw
Mae'r ystadegau hyn yn ymwneud â chanlyniadau'r arolwg boddhad teithwyr yng Nghymru a Phrydain Fawr hyd at 2019Gwybodaeth am ddiwygiadau
Caiff data ar gyfer cyfnodau blaenorol eu diweddaru’n rheolaidd. Gellir diwygio’r data ar gyfer y flwyddyn ariannol neu’r flwyddyn galendr gyfredol ar adeg datgan data’r flwyddyn nesaf.Teitl
Bodlonrwydd cyffredinol teithwyr â’r ddarpariaeth o wybodaeth am blatfformau neu amseroedd trenau yng ngorsafoedd Trenau Arriva Cymru ar adeg yr arolwg - hyd at 2019 yn unigDiweddariad diwethaf
Awst 2020Diweddariad nesaf
Ebrill 2021 (dros dro)Sefydliad cyhoeddi
Llywodraeth CymruFfynhonnell 1
Arolwg o Foddhad Teithwyr Rheilffordd, Passenger FocusCyswllt ebost
ystadegau.trafnidiaeth@llyw.cymruDynodiad
Ystadegau GwladolCwmpas ieithyddol
Saesneg a ChymraegTrwyddedu data
Gallwch ddefnyddio ac ailddefnyddio'r data hwn am ddim mewn unrhyw fformat neu gyfrwng, dan delerau'r Drwydded Llywodraeth Agored - gweler http://www.nationalarchives.gov.uk/doc/open-government-licence-cymraegDolenni'r we
Datganiad ystadegol, trafnidiaeth rheilffyrdd:http://gov.wales/statistics-and-research/rail-transport/?skip=1&lang=cy