Defnyddir yr ystadegau hyn o fewn Llywodraeth Cymru ac oddi allan iddi, er mwyn monitro tueddiadau mewn trafnidiaeth rheilffyrdd ac fel llinell sylfaen ar gyfer dadansoddi pellach.
Mae’r wybodaeth ar gyfer yr ystadegau hyn yn seiliedig ar amrywiaeth o arolygon o aelwydydd a gan unigolion, ac ar ddata gweinyddol.
Teitl
Teithiau rheilffyrdd gan deithwyr fesul Awdurdod Lleol a blwyddyn
Mae’r data hyn yn rhoi manylion am deithiau teithwyr rheilffyrdd yng Nghymru fesul Awdurdod Lleol hyd at flwyddyn ariannol 2022-23. Caiff y data eu cyflwyno yn ôl nifer y teithiau (miloedd).
Casgliad data a dull cyfrifo
Cesglir gwybodaeth am drafnidiaeth rheilffordd gan Swyddfa Rheoleiddio’r Rheilffyrdd (ORR). Mae data ORR ar gael drwy eu Porth Data National Rail Trends (NRT), rhyngwyneb ar-lein ar gyfer cronfa ddata o ystadegau rheilffyrdd yr ORR: http://dataportal.orr.gov.uk/.
Cymerir y data am ddiogelwch rheilffyrdd gan Safety Management Information System (SMIS), y Rail Safety and Standards Board (RSSB). I gael rhagor o wybodaeth am SMIS, gweler gwefan RSSB: https://www.rssb.co.uk/
Caiff data ar gyfer cyfnodau blaenorol eu diweddaru’n rheolaidd. Gellir diwygio’r data ar gyfer y flwyddyn ariannol neu’r flwyddyn galendr gyfredol ar adeg datgan data’r flwyddyn nesaf.