Troseddau ar y rhwydwaith rheilffyrdd nad ydynt yn hysbysadwy, a gofnodwyd fesul blwyddyn - Archif - Diweddaru mwyach
O Ebrill 2016 ni chaiff y data hyn eu casglu bellach.
None
|
Metadata
- Gwybodaeth cryno
- Gwybodaeth ansawdd ystadegol
- Gwybodaeth lefel uchel
- Allweddeiriau
- Dolenni'r we
- Data agored
Disgrifiad cyffredinol
Mae’r data hyn yn rhoi gwybodaeth am y troseddau ar y rhwydwaith rheilffordd nad ydynt yn hysbysadwy, a gofnodwyd yng Nghymru hyd at flwyddyn ariannol 2015-16. Cafwyd yr wybodaeth am droseddau rheilffordd, o system gyfrifiadurol yr Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig ar gyfer adrodd am droseddau (CRIME). Caiff y data ei gyflwyno yn ôl cyfanswm nifer y troseddau nad ydynt yn hysbysadwy a gofnodwyd yn y flwyddyn ariannol honno.O Ebrill 2016 ni chaiff y data hyn eu casglu bellach.
Amlder cyhoeddi
BlynyddolGwybodaeth am ddiwygiadau
Caiff data ar gyfer cyfnodau blaenorol eu diweddaru’n rheolaidd. Gellir diwygio’r data ar gyfer y flwyddyn ariannol neu’r flwyddyn galendr gyfredol ar adeg datgan data’r flwyddyn nesaf.Ansawdd ystadegol
Cesglir gwybodaeth am droseddau rheilffyrdd drwy system gyfrifiadurol Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig (BTP) ar gyfer adrodd am droseddau (CRIME). Cyflwynodd y Swyddfa Gartref, Safon Genedlaethol Cofnodi Troseddau (NCRS), yr oedd yn ofynnol i bob heddlu ar draws Cymru a Lloegr ei mabwysiadu. Mabwysiadodd y BTP y safon hon ar 1 Ebrill 2002. I gael rhagor o wybodaeth, gweler Bwletin Ystadegol y BTP:http://www.btp.police.uk/about_us/your_right_to_information/publications.aspx
Teitl
Troseddau ar y rhwydwaith rheilffyrdd nad ydynt yn hysbysadwy, a gofnodwyd fesul blwyddyn - hyd at 2019 yn unigDiweddariad diwethaf
9th Mawrth 2017Sefydliad cyhoeddi
Llywodraeth CymruFfynhonnell 1
System adrodd troseddau cyfrifiadurol (CRIME), Heddlu Trafnidiaeth PrydeinigDynodiad
Ystadegau GwladolCwmpas ieithyddol
Saesneg a ChymraegTrwyddedu data
Gallwch ddefnyddio ac ailddefnyddio'r data hwn am ddim mewn unrhyw fformat neu gyfrwng, dan delerau'r Drwydded Llywodraeth Agored - gweler http://www.nationalarchives.gov.uk/doc/open-government-licence-cymraegAllweddeiriau
Troseddau yn ymwneud â rheilffyrddDolenni'r we
Datganiad ystadegol, trafnidiaeth rheilffyrdd:http://gov.wales/statistics-and-research/rail-transport/?skip=1&lang=cy