Help StatsCymru
Cyflwyniad
StatsCymru yw cronfa rhad ac am ddim ar-lein Llywodraeth Cymru ar gyfer data ystadegol manwl i Gymru. Mae StatsCymru yn gadael i ddefnyddwyr edrych a thrin data ar y sgrin, gan gynnwys y gallu i gynhyrchu siartiau. Gellir lawrlwytho data mewn sawl fformat a ellir ei cadw neu rannu. Mae'r system yn cynnwys bron i 1,000 set o ddata, ac yn cynnwys gwybodaeth allweddol ar poblogaeth, yr economi, gwariant a perfformaid llywodraeth, yn ogystal a amgylchedd, addysg, trafnidiaeth a iechyd.
Lleoli data
Mae yna 2 ffordd i ddarganfod data
1 Pori'r catalog
Trefnwyd y tablau a siartiau mewn themau ystadegol a gellir ei ddarganfod drwy pori y strwythur catalog ar yr ochr chwith o’r dudalen. Mae tablau a siartiau yn dangos yn y ffenestr ar yr ochr dde o dan y penawd ' Adroddiadau'. Cliciwch ar teitl yr adroddiad i’w weld.
2 Chwilio
Os nad ydych yn sicr lle i ddarganfod y data yr ydych ei hangen, mae yna gyfleustra chwilio ar ben y dudalen. Mynegwch eich term chwilio a clicwch ar yr eicon chwyddwydr. Fydd rhestr o addroddiadau a dogfennau eraill yn ymwneud a'r term chwilio yn ymddangos. Clicwch ar teitl yr adroddiad i weld y data.
Trefnu data
Unwaith rydych wedi clicio ar arddroddiad, byddwch yn cael eich cyflwyno gyda tabl o ddata wedi ei drefnu mewn ffordd a rhagbennwyd, mae hwn ond yn olygfa lefel uchel o set data fwy medrwch ei archwilio drwy ddulliau gwahanol:
Dewis data
Mae’r dewislen-cwympo o fewn corff y tabl yn caniatau i chi ddewis pa eitemau a ddangosir yn eich tabl. Mae'r dewislen-cwympo yn dangos rhestr ymestynnol o'r eitemau data gall ei dicio neu di-ddicio
Cyngor: Gellir newid maint y dewislen-gwympo drwy lusgo y cornel dde ar y gwaelod
Ehangu a Lleihau
Gellir ehangu neu leihau unrhyw eitem sydd yn ddangos ar y tabl gyda arwydd naill ai '+' neu '-'. Mae hyn yn gadael i chi fforio’r data gwaelodol o eitemau ddata unigol. Os ydych eisiau ehangu neu leihau yr eitemai yn y tabl, cliciwch ar y testun ar bwys y '+' neu '-' gan defnyddio y bwtwm dde ar y llygoden. Mae hyn yn dod i fyny a dewsilen arall sydd yn gadael i chi ehangu a lleihau yr eitemau ar unwaith.
Llusgo a Gollwng
Gellir llusgo a gollwng elfennau or tabl i'r chwith neu i pen y tabl,i greu golwg ar y data fel yr oes angen. Llusgwch yr elfennau o fewn y tabl nes dangosir 2 saeth fach ac yna, llusgwch rhain i’r lle addas yn y tabl. I gael gwared ar elfen o'r tabl, llusgwch yr elfen i'r hidlydd yn union uwchben y tabl.
Cyngor: Edrychwch am y 2 saeth bach cyn gollwng
Nythu elfennau gyda'i gilydd
Gall y tabl gael llawer o elfennau yn nythu gyda'u gilydd naill ar yr ochr chwith neu ar ben y tabl. Llusgwch yr elfen a gollyngwch wrth ymyl yr elfen sydd yn barod yng ngorff y tabl, fydd yr elfennau yn dangos wrth ymyl eu gilydd. Er mwyn edrych ar y data unwaith mae yr elfennau wedi cael eu nythu, fydd yn rhaid ambell waith i ehangu yr eitemau gan ddefniddio y ffyrdd a ddisgrifwyd uchod.
Bar hidlo
Mea'r bar hidlo wedi ei lleoli yn union uwchlaw y tabl a gellir cynnwys llawer o elfennau. Dim ond un eitem ar bob elfen sydd yn gallu cael eu ddewis, a fydd y data yn y tabl yn newid unwaith fydd y dewis wedi eu wneud. Mae yr elfennau hyn yn gallu cael eu ddefnyddio i ddeillio data o fewn y tabl, neu gellir cael eu lusgo i fewn i gorff y tabl. Hefyd gall yr elfennau nad ydych eisiau eu ddangos yng ngorff y table gael eu llusgo I fyny i’r bar hidlo.
Fydd rhai elfennau yn dangos saethau chwith a de sydd yn gadael I chi newid eitemau yn rhwydd
Cyngor: Wrth lusgo a gollwng yr elfennau i ac oddiwrth y bar hidlo, gwnewch yn sicr eich bod yn llusgo yr elfennau o dan y bocs dewislen-gwympo
Trefnu data
Gall trefnu’r data o fewn tabl drwy osod trefn ar y labeli eitem neu werthoedd data. Ymddangosir trionglau ar bob lefel o elfennau’r tabl sy’n eich galluogi i drefnu’r data.
Os ydych yn clicio ar y trionglau ar y disgrifiadau rhes neu golofn, bydd y data o fewn y tablau’n cael eu trefnu fesul y labeli eitem.
Gallwch hefyd glicio de’r elfennau ac ymddangosir dewislen sydd hefyd yn galluogi’r tabl gael ei drefnu drwy ddefnyddio’r labeli eitem.
Os ydych yn clicio ar y trionglau ar y penawdau colofn, bydd y data o fewn y tabl yn cael ei drefnu un ai mewn trefn esgynnol neu drefn ddisgynnol o fewn unrhyw is-gyfansymiau sydd mewn golwg.
Bar offer data
Mae’r bar offer data yn ymdddangos yn awtomatig uwchben bob tabl.
Dychwelyd
Dychwelyd chi yn nôl i olygfa gwreiddiol y data cyn i chi wneud newidiadau
Dolen
Yn creu dolen dros dro i olygfa presennol o’r data sydd ar y sgrin. Gellir ychwanegu y ddolen at eich nodau tudalen/ffefrynnau fel eich bod yn gallu dychwelyd unrhyw bryd neu eu rannu gyda eraill. Os ydych eisiau creu tabl fwy parhaol gallwch cofrestru eich manylion ar y wefan a cadw yr adroddiad i adran preifat gan defnyddio y botwm 'Cadw fel ' a disgrifwyd hwyrach ymlaen.
Cyngor: Gellir rhannu dolen dros dro ond nid tablau preifat
Allforio
Mae'r data a gwelir yn gallu cael eu lawrlwytho mewn llawer fformat fel CSV, Microsoft Excel. Gellir allforio y data gan gynnwys teitl yr addroddiad a metatdata cysylltiedig gan marcio'r blycha priodol.
Argraffu
Dangosir yr olygfa presennol o'r data ar tab argraffiadwy ar wahân o fewn y porwr we. Ambell waith fydd y porwr we yn annog i chi ganiatáu 'pop-ups' er mwyn gadael i chi weld y tab argraffu.
Modd sgrîn llawn
Yn gwneud y mwyaf o faint eich sgrîn a chydraniad drwy waredu'r banerau a defnyddio lled y sgrîn i gyd.
Unwaith byddwch wedi cofrestru i ddefnyddio'r wefan ac wedi mewngofnodi, byddwch yn gallu cadw eich tablau yn eich adran breifat gan gynnwys eich disgrifiad o'r tabl.
Bar offer siartio
Dangos/cuddio'r siart
Arddangoswch siart y data sydd yn cael eu ddangos. Fydd y siart yn ymddangos uwchben y tabl o ddata o fewn tudalen y we. Os yw'r siart yn dangos yn barod, gellir ei ddileu drwy clicio ar yr eicon eto.
Palet
Newidir y lliwiau a ddefnyddir yn y siart rhwng glas a phaledi amryliw
Math o siart
Dewisiwch o 10 gwahanol math o siart fel ac oes angen
Cyngor: Mae'r siartiau gorau yn cael eu creu drwy cadw'r siart yn syml..
Cyfeiriadaedd
Weithiau ni fydd y siart yn ymddangos fel oeddech yn bwriadu. Mae'r botwm 'cyfeiriadedd' yn ffeirio echelau y siart a dangos siart amgen.
Labeli pwynt
Dangosir gwir werth y ddata ar y pwyntiau perthnasol o fewn y siart
Cuddio/Dangos allwedd
Ychwanegu neu symud yr allwedd o gorff y siart.
Allwedd X
Symud yr allwedd i 5 safle gosod ar y siart o'r chwith i'r dde. Gall yr allwedd gael eu osod tu allan i'r siart i'r chwith neu i'r dde neu yn 3 lleoliad o fewn y siart
Allwedd Y
Symud yr allwedd i 5 safle gosod ar y siart o'r pen i'r gwaelod. Gall yr allwedd gael eu osod tu allan i'r siart o'r pen i'r gwaelod neu yn 3 lleoliad o fewn y siart
Metadata
Mae pob set data yn cynnwys metadata cysylltiedig sydd wedi’u rhestru ar waelod y tudalen. Defnyddwyd tabiau i ddarganfod wahanol fath o wybodaeth fel cyfeiriad dihafal y set ddata, dyddiad cyhoeddi o unrhyw ddata newydd a manylion cyswllt os oes angen rhagor o fanylion.
Personoli
Unwaith fyddwch wedi cofrestri i ddefnyddio'r wefan gan ddefnyddio'r botwm 'Cofrestru' a mewngofnodi, yr ydych yn cael eich cyflwyno â mwy o ddewisiadau
Mae 'Fy nghyfrif' yn gadael i chi newid manylion personol fel enw defnyddiwr ac e-bost
Mae 'Fy nhablau' yn arddangos golygfeydd yr ydych wedi cadw yn eich adran breifat
Mae ‘Fy Nhanysgrifiadau ' yn gadael i chi tanysgrifio i rybuddion ar gyfer data penodol . Fyddwch yn cael eich hysbysu drwy e-bost pan fydd y data perthnasol yn cael eu ddiweddaru. Er mwyn tanysgrifio I set o ddata, clicwch ar yr eicon amlen ar y cornel dde pen llaw o'r tudalen lle mae doleni addroddiadau yn ymddangos.
Canllawiau Data Agored StatsCymru
Cyflwyniad
Fel y nodir yn y blog yma, daeth y gwasanaeth OData blaenorol i ben ar ddiwedd mis Awst 2024. Mae Gwasanaeth Data Agored dros dro wedi cymryd ei le sy’n sicrhau bod y data sylfaenorol ar gael ar ffurf debyg ond nid yw ar gael drwy API.
Bydd yr ateb dros dro yn rhoi dolenni i ddefnyddwyr ar gyfer pob set ddata lle y gallwch lawrlwytho data tebyg i’r hyn a oedd ar gael drwy’r gwasanaeth OData. Bydd yr ateb yn darparu:
- Ffeil zip sy'n cynnwys ffeil ddata csv ar gyfer y ciwb. Mae'r rhain yn debyg i'r hyn sydd ar gael o'r OData 'Set
Data' (ee
http://agored.statscymru.llyw.cymru/dataset/care0136
). Bydd fformat penawdau'r golofn yn wahanol gan fod y Gymraeg a'r Saesneg ill dau yn y ffeil csv gyda'r meysydd Saesneg yn gorffen gyda _Eng a'r rhai Cymraeg gyda _Wel. Bydd gan rai o'r meysydd/colofnau ddiweddiadau fel _INT, _STR i ddynodi'r math o ddata. I'r defnyddwyr hynny sy'n defnyddio PowerBI ac sy'n dod â'r data yn uniongyrchol i mewn, gallwch chi wneud hyn o hyd gyda ffeiliau zip. Rhoddir enghraifft ar dudalennau cymorth PowerBI: How to unzip and decompress data extract URL in PBI Query Editor - Microsoft Fabric Community - Ffeil CSV gyda'r eitemau dimensiwn. Mae hyn yn cyfateb i
http://agored.statscymru.llyw.cymru/cygb/discover/datasetdimensionitems?$filter=Dataset eq 'care0136'
- Ffeil CSV gyda'r dimensiynau. Mae hyn yn cyfateb i
http://agored.statscymru.llyw.cymru/cygb/discover/datasetdimensions?$filter=Dataset eq 'care0136'
- Ffeil XML gyda'r metadata ciwb. Mae hyn yn cyfateb i
http://agored.statscymru.llyw.cymru/cy-gb/discover/metadata?$filter=Dataset eq 'care0136’
Cael Mynediad at Gyfeiriadau URL/Dolenni Setiau Data
Er mwyn hwyluso cyfeirio atynt, mae cyfeiriadau URL setiau data penodol ar gael dan y tab ‘Data agored’ yn yr adran Metadata ar waelod pob gwedd set ddata fel y dangosir isod.
Lle bynnag y bo modd, mae’r cyfeiriadau URL/dolenni hyn yn cael eu cadw hyd yn oed pan fu diweddariad i’r setiau data megis pan fydd datganiadau ystadegol yn cael eu diweddaru.
Ystyriaethau Ailddefnyddio
- Mae’r holl ystadegau sydd ar gael ar StatsCymru yn cyd-fynd â’r safonau a ddiffiniwyd gan Awdurdod Ystadegau’r Deyrnas Unedig, corff annibynnol sy’n gweithredu hyd braich oddi wrth y llywodraeth fel adran anweinidogol. Mae’r holl ddata y bernir eu bod yn Ystadegau Swyddogol yn cael eu cynhyrchu yn unol ag egwyddorion y Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau . Bydd ystadegau yr aseswyd eu bod yn cydymffurfio â’r cod ac sydd wedi’u cymeradwyo gan Awdurdod Ystadegau y DU hefyd yn cael eu dynodi yn Ystadegau Gwladol.
- Mae’n bwysig, wrth ailddefnyddio data, eich bod yn deall y data y bwriadwch eu defnyddio. Mae hyn yn golygu nid yn unig deall fformat a strwythur y data ond hefyd gyfyngiadau’r data eu hunain. Er mwyn helpu i ganfod a yw’r data yn addas ar gyfer y diben y bwriadwch eu defnyddio ar ei gyfer, rydym wedi nodi’r cyfyngiadau, lle maent yn bodoli, yn y metadata (boed ar lefel set ddata, dimensiwn neu eitem ddimensiwn). Gofynnwn ichi felly gyfeirio at y metadata perthnasol cyn ailddefnyddio ein data.
- Gellir defnyddio ac ailddefnyddio’r holl ddata ar StatsCymru (ac eithrio logos) am ddim mewn unrhyw fformat neu gyfrwng, dan delerau’r Drwydded Llywodraeth Agored (OGL). Fodd bynnag, wrth wneud hynny rhaid ichi gydnabod ffynonellau’r wybodaeth a, lle bo modd, cynnwys dolen i’r drwydded: http://www.nationalarchives.gov.uk/doc/open-government-licence-cymraeg/version/3/
- Er ein bod yn annog ailddefnyddio ein data o fewn apiau rhyngweithiol, gwefannau, adroddiadau ac ati, mae defnydd o’n logo wedi’i gyfyngu ac ni chaniateir i unigolion neu gyrff eraill ei ddefnyddio heb ganiatâd ffurfiol gennym. I gael mwy o wybodaeth ewch i Logo Llywodraeth Cymru: canllawiau | LLYW.CYMRU
- Mae gennym ddiddordeb, wrth gwrs, mewn gwybod pwy sy’n defnyddio ein data, sut maent yn bwriadu eu defnyddio ac unrhyw broblemau sy’n codi. Felly os oes gennych unrhyw gwestiynau neu adborth cysylltwch â ni: Cysylltiadau ar gyfer ystadegau | LLYW.CYMRU
Strwythur Data
Ceir esboniad isod o grynodeb o’r meysydd a ddychwelir gan bob tabl.