Neidio i'r cynnwys

Help StatsCymru

Cyflwyniad

StatsCymru yw cronfa rhad ac am ddim ar-lein Llywodraeth Cymru ar gyfer data ystadegol manwl i Gymru. Mae StatsCymru yn gadael i ddefnyddwyr edrych a thrin data ar y sgrin, gan gynnwys y gallu i gynhyrchu siartiau. Gellir lawrlwytho data mewn sawl fformat a ellir ei cadw neu rannu. Mae'r system yn cynnwys bron i 1,000 set o ddata, ac yn cynnwys gwybodaeth allweddol ar poblogaeth, yr economi, gwariant a perfformaid llywodraeth, yn ogystal a amgylchedd, addysg, trafnidiaeth a iechyd.

Lleoli data

Mae yna 2 ffordd i ddarganfod data

1 Pori'r catalog

Trefnwyd y tablau a siartiau mewn themau ystadegol a gellir ei ddarganfod drwy pori y strwythur catalog ar yr ochr chwith o’r dudalen. Mae tablau a siartiau yn dangos yn y ffenestr ar yr ochr dde o dan y penawd ' Adroddiadau'. Cliciwch ar teitl yr adroddiad i’w weld.

Lleoli  data

2 Chwilio

Os nad ydych yn sicr lle i ddarganfod y data yr ydych ei hangen, mae yna gyfleustra chwilio ar ben y dudalen. Mynegwch eich term chwilio a clicwch ar yr eicon chwyddwydr. Fydd rhestr o addroddiadau a dogfennau eraill yn ymwneud a'r term chwilio yn ymddangos. Clicwch ar teitl yr adroddiad i weld y data.

Trefnu data

Unwaith rydych wedi clicio ar arddroddiad, byddwch yn cael eich cyflwyno gyda tabl o ddata wedi ei drefnu mewn ffordd a rhagbennwyd, mae hwn ond yn olygfa lefel uchel o set data fwy medrwch ei archwilio drwy ddulliau gwahanol:

Trefnu data

Dewis data

Mae’r dewislen-cwympo o fewn corff y tabl yn caniatau i chi ddewis pa eitemau a ddangosir yn eich tabl. Mae'r dewislen-cwympo yn dangos rhestr ymestynnol o'r eitemau data gall ei dicio neu di-ddicio

Dewis data

Cyngor: Gellir newid maint y dewislen-gwympo drwy lusgo y cornel dde ar y gwaelod

Ehangu a Lleihau

Gellir ehangu neu leihau unrhyw eitem sydd yn ddangos ar y tabl gyda arwydd naill ai '+' neu '-'. Mae hyn yn gadael i chi fforio’r data gwaelodol o eitemau ddata unigol. Os ydych eisiau ehangu neu leihau yr eitemai yn y tabl, cliciwch ar y testun ar bwys y '+' neu '-' gan defnyddio y bwtwm dde ar y llygoden. Mae hyn yn dod i fyny a dewsilen arall sydd yn gadael i chi ehangu a lleihau yr eitemau ar unwaith.

Ehangu a Lleihau

Llusgo a Gollwng

Gellir llusgo a gollwng elfennau or tabl i'r chwith neu i pen y tabl,i greu golwg ar y data fel yr oes angen. Llusgwch yr elfennau o fewn y tabl nes dangosir 2 saeth fach ac yna, llusgwch rhain i’r lle addas yn y tabl. I gael gwared ar elfen o'r tabl, llusgwch yr elfen i'r hidlydd yn union uwchben y tabl.

Cyngor: Edrychwch am y 2 saeth bach cyn gollwng

Llusgo a Gollwng

Nythu elfennau gyda'i gilydd

Gall y tabl gael llawer o elfennau yn nythu gyda'u gilydd naill ar yr ochr chwith neu ar ben y tabl. Llusgwch yr elfen a gollyngwch wrth ymyl yr elfen sydd yn barod yng ngorff y tabl, fydd yr elfennau yn dangos wrth ymyl eu gilydd. Er mwyn edrych ar y data unwaith mae yr elfennau wedi cael eu nythu, fydd yn rhaid ambell waith i ehangu yr eitemau gan ddefniddio y ffyrdd a ddisgrifwyd uchod.

Bar hidlo

Mea'r bar hidlo wedi ei lleoli yn union uwchlaw y tabl a gellir cynnwys llawer o elfennau. Dim ond un eitem ar bob elfen sydd yn gallu cael eu ddewis, a fydd y data yn y tabl yn newid unwaith fydd y dewis wedi eu wneud. Mae yr elfennau hyn yn gallu cael eu ddefnyddio i ddeillio data o fewn y tabl, neu gellir cael eu lusgo i fewn i gorff y tabl. Hefyd gall yr elfennau nad ydych eisiau eu ddangos yng ngorff y table gael eu llusgo I fyny i’r bar hidlo.

Bar hidlo

Fydd rhai elfennau yn dangos saethau chwith a de sydd yn gadael I chi newid eitemau yn rhwydd

Bar hidlo

Cyngor: Wrth lusgo a gollwng yr elfennau i ac oddiwrth y bar hidlo, gwnewch yn sicr eich bod yn llusgo yr elfennau o dan y bocs dewislen-gwympo

Trefnu data

Gall trefnu’r data o fewn tabl drwy osod trefn ar y labeli eitem neu werthoedd data. Ymddangosir trionglau ar bob lefel o elfennau’r tabl sy’n eich galluogi i drefnu’r data.

Os ydych yn clicio ar y trionglau ar y disgrifiadau rhes neu golofn, bydd y data o fewn y tablau’n cael eu trefnu fesul y labeli eitem.

Trefnu data

Gallwch hefyd glicio de’r elfennau ac ymddangosir dewislen sydd hefyd yn galluogi’r tabl gael ei drefnu drwy ddefnyddio’r labeli eitem.

Trefnu data

Os ydych yn clicio ar y trionglau ar y penawdau colofn, bydd y data o fewn y tabl yn cael ei drefnu un ai mewn trefn esgynnol neu drefn ddisgynnol o fewn unrhyw is-gyfansymiau sydd mewn golwg.

Trefnu data

Bar offer data

Mae’r bar offer data yn ymdddangos yn awtomatig uwchben bob tabl.

Bar offer data

Dychwelyd

Dychwelyd chi yn nôl i olygfa gwreiddiol y data cyn i chi wneud newidiadau

Dolen

Yn creu dolen dros dro i olygfa presennol o’r data sydd ar y sgrin. Gellir ychwanegu y ddolen at eich nodau tudalen/ffefrynnau fel eich bod yn gallu dychwelyd unrhyw bryd neu eu rannu gyda eraill. Os ydych eisiau creu tabl fwy parhaol gallwch cofrestru eich manylion ar y wefan a cadw yr adroddiad i adran preifat gan defnyddio y botwm 'Cadw fel ' a disgrifwyd hwyrach ymlaen.

Cyngor: Gellir rhannu dolen dros dro ond nid tablau preifat

Dolen

Allforio

Mae'r data a gwelir yn gallu cael eu lawrlwytho mewn llawer fformat fel CSV, Microsoft Excel, PDF a SDMX. Gellir allforio y data gan gynnwys teitl yr addroddiad a metatdata cysylltiedig gan marcio'r blycha priodol.

Export

Argraffu

Dangosir yr olygfa presennol o'r data ar tab argraffiadwy ar wahân o fewn y porwr we. Ambell waith fydd y porwr we yn annog i chi ganiatáu 'pop-ups' er mwyn gadael i chi weld y tab argraffu.

Modd sgrîn llawn

Yn gwneud y mwyaf o faint eich sgrîn a chydraniad drwy waredu'r banerau a defnyddio lled y sgrîn i gyd.

Unwaith byddwch wedi cofrestru i ddefnyddio'r wefan ac wedi mewngofnodi, byddwch yn gallu cadw eich tablau yn eich adran breifat gan gynnwys eich disgrifiad o'r tabl.

Bar offer siartio

Bar offer siartio

Dangos/cuddio'r siart

Arddangoswch siart y data sydd yn cael eu ddangos. Fydd y siart yn ymddangos uwchben y tabl o ddata o fewn tudalen y we. Os yw'r siart yn dangos yn barod, gellir ei ddileu drwy clicio ar yr eicon eto.

Palet

Newidir y lliwiau a ddefnyddir yn y siart rhwng glas a phaledi amryliw

Math o siart

Dewisiwch o 10 gwahanol math o siart fel ac oes angen

Math o siart

Cyngor: Mae'r siartiau gorau yn cael eu creu drwy cadw'r siart yn syml..

Cyfeiriadaedd

Weithiau ni fydd y siart yn ymddangos fel oeddech yn bwriadu. Mae'r botwm 'cyfeiriadedd' yn ffeirio echelau y siart a dangos siart amgen.

Labeli pwynt

Dangosir gwir werth y ddata ar y pwyntiau perthnasol o fewn y siart

Cuddio/Dangos allwedd

Ychwanegu neu symud yr allwedd o gorff y siart.

Allwedd X

Allwedd X

Symud yr allwedd i 5 safle gosod ar y siart o'r chwith i'r dde. Gall yr allwedd gael eu osod tu allan i'r siart i'r chwith neu i'r dde neu yn 3 lleoliad o fewn y siart

Allwedd Y

Symud yr allwedd i 5 safle gosod ar y siart o'r pen i'r gwaelod. Gall yr allwedd gael eu osod tu allan i'r siart o'r pen i'r gwaelod neu yn 3 lleoliad o fewn y siart

Metadata

Mae pob set data yn cynnwys metadata cysylltiedig sydd wedi’u rhestru ar waelod y tudalen. Defnyddwyd tabiau i ddarganfod wahanol fath o wybodaeth fel cyfeiriad dihafal y set ddata, dyddiad cyhoeddi o unrhyw ddata newydd a manylion cyswllt os oes angen rhagor o fanylion.

Metadata

Personoli

Personoli

Unwaith fyddwch wedi cofrestri i ddefnyddio'r wefan gan ddefnyddio'r botwm 'Cofrestru' a mewngofnodi, yr ydych yn cael eich cyflwyno â mwy o ddewisiadau

Mae 'Fy nghyfrif' yn gadael i chi newid manylion personol fel enw defnyddiwr ac e-bost

Mae 'Fy nhablau' yn arddangos golygfeydd yr ydych wedi cadw yn eich adran breifat

Mae ‘Fy Nhanysgrifiadau ' yn gadael i chi tanysgrifio i rybuddion ar gyfer data penodol . Fyddwch yn cael eich hysbysu drwy e-bost pan fydd y data perthnasol yn cael eu ddiweddaru. Er mwyn tanysgrifio I set o ddata, clicwch ar yr eicon amlen ar y cornel dde pen llaw o'r tudalen lle mae doleni addroddiadau yn ymddangos.

Personoli

Canllawiau OData StatsCymru

Cyflwyniad

Mae gwasanaeth gwe OData StatsCymru1 yn ehangu’r mynediad at y data a geir o fewn StatsCymru. Mae’r gwasanaeth yn caniatáu defnyddio’r data crai diweddaraf2 yn uniongyrchol o fewn rhaglenni cleientiaid cydnaws, mewn taenlenni, neu gan ddatblygwyr o fewn eu hapiau/gwefannau eu hunain.
Mae gan y gwasanaeth gwe ddiweddbwyntiau ‘tabl’3, y gellir eu defnyddio i gael mynediad uniongyrchol at ddata StatsCymru yn Saesneg, yn Gymraeg ac yn y ddwy iaith. Mae’r rhain yn cynnwys y setiau data, y catalog, metadata StatsCymru, yn ogystal â rhai tablau sy’n caniatáu dadansoddi trawsbynciol ar ddimensiynau ac eitemau dimensiwn y setiau data4.
Ceir hefyd ddiweddbwyntiau metadata API5 (na ddylid eu cymysgu â metadata StatsCymru). Mae’r rhain yn darparu gwybodaeth megis pa dablau sydd ar gael a’r mathau o ddata a ddefnyddir. Mae hyn yn ei gwneud hi’n rhwyddach i beiriannau ddarllen yr API. Ni fydd angen ichi bryderu gormod am yr agwedd hon ar bethau fel arfer, oni bai eich bod yn datblygu rhaglenni wedi’u teilwra a allai ddibynnu ar y wybodaeth hon.
Nid bod yn ganllaw cynhwysfawr yw bwriad y cyfarwyddiadau hyn, ond dylent ddarparu digon o wybodaeth/cyfeiriadau i alluogi’r sawl sydd â gallu canolig o ran TGCh i ddefnyddio’r gwasanaeth. Rydym hefyd wedi cynnwys rhywfaint o nodiadau ar ystyriaethau ailddefnyddio a thrwyddedu.

Esbonio Diweddbwyntiau API

Yn gyffredinol, mae diweddbwyntiau neu gyfeiriadau URL (dolenni) ar gyfer yr API OData wedi’u strwythuro fel a ganlyn:

http://open.statswales.gov.wales / {paramedr iaith [dewisol]} / {diweddbwynt gwasanaeth} / {diweddbwynt tabl} $ {paramedrau ymholiad}

http://agored.statscymru.llyw.cymru / {paramedr iaith [dewisol]} / {diweddbwynt gwasanaeth} / {diweddbwynt tabl} $ {paramedrau ymholiad}

Paramedrau iaith

Defnyddir paramedrau iaith i bennu a yw’r wybodaeth yn cael ei dychwelyd yn Saesneg, yn Gymraeg ynteu yn y ddwy iaith.

Paramedr Disgrifiad
en-gb Yn dychwelyd y colofnau Saesneg – mae gan y rhain yr ôlddodiad ‘_ENG’.
cy-gb Yn dychwelyd y colofnau Cymraeg - mae gan y rhain yr ôlddodiad ‘_WEL’.
multilingual Yn dychwelyd y ddwy iaith

Er mwyn dychwelyd gwybodaeth yn y ddwy iaith rhaid defnyddio’r paramedr ‘multilingual’.

Enghraifft: Mae http://agored.statscymru.llyw.cymru/multilingual/discover/catalogue yn dychwelyd y data Cymraeg a Saesneg sydd wedi eu storio yn erbyn y catalog.

Os dewiswch beidio defnyddio paramedr iaith, bydd y paramedr yn cael ei ychwanegu’n awtomatig er mwyn cyfateb i’r enw parth.

Byddwch yn ymwybodol fod y parth yn drech na’r paramedr iaith.

Enghraifft: Byddai http://agored.statscymru.llyw.cymru/en-gb/discover/catalogue yn dychwelyd gwybodaeth yn Gymraeg yn hytrach na Saesneg.

Diweddbwyntiau Gwasanaeth

Mae gan wasanaeth gwe OData StatsCymru ddau brif ddiweddbwynt gwasanaeth:
Discover: http://open.statswales.gov.wales/discover
Dataset: http://open.statswales.gov.wales/dataset
Mae’r diweddbwyntiau gwasanaeth hyn yn dychwelyd gwybodaeth (y metadata API) ar gyfer y diweddbwyntiau tabl tra bod y diweddbwyntiau tabl yn darparu data StatsCymru ei hun. Fel arfer mae nodi’r URL/dolen ar gyfer diweddbwynt gwasanaeth yn ddigonol er mwyn i raglenni cleient lywio’r tablau a geir.

Enghraifft: Bydd http://open.statswales.gov.wales/discover yn dychwelyd rhestr metadata o’r tablau sydd ar gael islaw’r diweddbwynt gwasanaeth hwn, ac un ohonynt yw’r tabl catalog. Bydd http://open.statswales.gov.wales/discover/catalogue, ar y llaw arall, yn dychwelyd y tabl data catalog ei hun.

Diweddbwyntiau Eraill

Ymhlith y diweddbwyntiau gwasanaeth eraill mae:

  1. Usage. Bydd yr isod yn rhoi rhestr o’r ceisiadau a wnaed i’r diweddbwyntiau OData am y mis presennol a’r mis blaenorol (yn unol â’r hyn a nodwyd) yn y drefn honno.
    http://open.statswales.gov.wales/statistics/usage
    http://open.statswales.gov.wales/statistics/usage?monthAndYear=052016
  2. Catalogue. Bydd yr isod yn rhoi rhestr sy’n gydnaws â DCAT6 o’r cynnwys StatsCymru mewn XML a JSON yn y drefn honno.
    https://statswales.gov.wales/Home/DatasetCatalogue
    https://statswales.gov.wales/Home/DatasetCatalogueJSON;

Diweddbwyntiau Tabl

Ceir cannoedd o ddiweddbwyntiau tabl sydd wedi’u lleoli islaw’r diweddbwyntiau gwasanaeth. Gallwn ddefnyddio mynediad at set ddata fel enghraifft. Yn gyntaf, gellir gweld y setiau data sydd ar gael gan ddefnyddio’r diweddbwynt gwasanaeth ‘dataset’. I gael rhestr o’r holl dablau data sydd ar gael defnyddiwch yr URL canlynol: http://open.statswales.gov.wales/dataset

I gael mynediad at set ddata mae angen ychwanegu’r ‘diweddbwynt tabl’ at yr URL.

Enghraifft: http://open.statswales.gov.wales/dataset/wimd0022 yn dychwelyd y tabl data ‘wimd0022’ sy’n cynnwys data dangosyddion budd-daliadau sy’n seiliedig ar gyflogaeth.<

Os nad oes arnoch angen yr holl dabl data gallwch gael is-set o’r data drwy gynnwys ‘paramedrau ymholiad’ ar ddiwedd yr URL.

Enghraifft: Mae http://open.statswales.gov.wales/en-gb/dataset/wimd0022?$filter=Area_Code%20eq%20%27W01001434%27%20and%20Year_Code%20eq%202014 yn dychwelyd data dangosyddion budd-daliadau sy’n seiliedig ar gyflogaeth 2014 o dabl data ‘wimd0022’ ar gyfer LSOA W01001434.

Cael Mynediad at Gyfeiriadau URL/Dolenni Setiau Data

Er mwyn hwyluso cyfeirio atynt, mae cyfeiriadau URL setiau data penodol ar gael dan y tab ‘Data agored’ yn yr adran Metadata ar waelod pob gwedd set ddata fel y dangosir isod.

Cael Mynediad at Gyfeiriadau URL/Dolenni Setiau Data

Drwy glicio’r botwm iaith ar frig y dudalen fe welwch y dolenni i’r data Cymraeg cyfatebol.

Cael Mynediad at Gyfeiriadau URL/Dolenni Setiau Data

Lle bynnag y bo modd, mae’r cyfeiriadau URL/dolenni hyn yn cael eu cadw hyd yn oed pan fu diweddariad i’r setiau data megis pan fydd datganiadau ystadegol yn cael eu diweddaru.

Dylech fod yn ymwybodol, os byddwch yn clicio ar y cyfeiriadau URL/dolenni (neu’r enghreifftiau ar y dudalen hon), mae’n bosibl y byddwch yn canfod bod rhai porwyr wedi’u gosod i lawrlwytho’r data a ddychwelir fel ffeil destun yn hytrach nag arddangos y data testun crai yn uniongyrchol.

Cael Mynediad at Fetadata StatsCymru

Mae’r metadata ar gyfer holl setiau data StatsCymru yn cael ei storio mewn un tabl. Er mwyn dychwelyd y metadata ar gyfer set ddata unigol rhaid ychwanegu paramedrau ymholiad at yr URL.

Enghraifft: Mae http://open.statswales.gov.wales/en-gb/discover/metadata?$filter=Dataset%20eq%20%27wimd0022%27 yn dychwelyd y metadata ar gyfer tabl data ‘wimd0022’.

Cael Mynediad at y Catalog StatsCymru

Yn yr un modd, mae catalog StatsCymru hefyd yn cael ei storio mewn un tabl. Er mwyn dychwelyd y wybodaeth gwedd catalog ar gyfer set ddata unigol rhaid ychwanegu paramedrau ymholiad at yr URL.

Enghraifft: Mae http://open.statswales.gov.wales/en-gb/discover/catalogue?$filter=Dataset%20eq%20%27wimd0022%27 yn dychwelyd y catalog ar gyfer tabl data ‘wimd0022’ a pha weddau sydd ar gael ar gyfer y set ddata yma.

Ymholiadau ar draws setiau data

Darperir pedwar tabl o fewn y diweddbwynt ‘discover’ er mwyn caniatáu croes-holi data dan y diweddbwynt ‘discover’.

Darperir y tablau canlynol (yn nhrefn hierarchaeth):

  • dimensiontypes – rhestr unigryw o fathau o ddimensiynau e.e. uned ddaearyddol, cyfnod amser. Mae’r maes math semantig yn galluogi nodi dimensiynau cyfatebol (megis ‘Ardal’ ac ‘Awdurdod Lleol’) sy’n cynnwys yr un rhestr o eitemau dimensiwn.
  • dimensionitems – mae’r tabl yma’n rhoi rhestr unigryw o’r eitemau sy’n gysylltiedig â phob dimensiwn.
  • datasetdimensions – mae’r tabl yma’n rhoi rhestr unigryw o’r dimensiynau o fewn pob set ddata. Bydd y tabl yma’n ailadrodd dimensiynau os ydynt yn ymddangos mewn mwy nag un set ddata.
  • datasetdimensionitems – mae’r tabl yma’n rhoi rhestr o’r holl ddimensiynau ac eitemau dimensiwn o fewn pob set ddata. Bydd y tabl yma’n ailadrodd y dimensiynau a’r eitemau dimensiwn pan fyddant yn ymddangos mewn mwy nag un set ddata.
Disgrifiad Enghreifftiau
Dimension type Math o ddimensiwn Uned ddaearyddol, Cyfnod amser, Band oedran
Dimensions Categorïau o fathau o ddimensiynau Uned ddaearyddol benodol: Awdurdod Lleol; Bwrdd Iechyd Lleol; Ardaloedd Cynnyrch Ehangach Hanes Is (LSOAs) ac ati.
Dimension items Gwerthoedd sy’n gysylltiedig â dimensiynau Awdurdod Lleol Penodol: Ynys Môn, Gwynedd, Conwy ac ati.

Ystyriaethau Ailddefnyddio

  • Mae’r holl ystadegau sydd ar gael ar StatsCymru yn cyd-fynd â’r safonau a ddiffiniwyd gan Awdurdod Ystadegau’r Deyrnas Unedig, corff annibynnol sy’n gweithredu hyd braich oddi wrth y llywodraeth fel adran anweinidogol. Mae’r holl ddata y bernir eu bod yn Ystadegau Swyddogol yn cael eu cynhyrchu yn unol ag egwyddorion y Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau Swyddogol. Bydd ystadegau yr aseswyd eu bod yn cydymffurfio â’r cod ac sydd wedi’u cymeradwyo gan Awdurdod Ystadegau y DU hefyd yn cael eu dynodi yn Ystadegau Gwladol.
  • Mae’n bwysig, wrth ailddefnyddio data, eich bod yn deall y data y bwriadwch eu defnyddio. Mae hyn yn golygu nid yn unig deall fformat a strwythur y data ond hefyd gyfyngiadau’r data eu hunain. Er mwyn helpu i ganfod a yw’r data yn addas ar gyfer y diben y bwriadwch eu defnyddio ar ei gyfer, rydym wedi nodi’r cyfyngiadau, lle maent yn bodoli, yn y metadata (boed ar lefel set ddata, dimensiwn neu eitem ddimensiwn). Gofynnwn ichi felly gyfeirio at y metadata perthnasol cyn ailddefnyddio ein data.
  • Gellir defnyddio ac ailddefnyddio’r holl ddata ar StatsCymru (ac eithrio logos) am ddim mewn unrhyw fformat neu gyfrwng, dan delerau’r Drwydded Llywodraeth Agored (OGL). Fodd bynnag, wrth wneud hynny rhaid ichi gydnabod ffynonellau’r wybodaeth a, lle bo modd, cynnwys dolen i’r drwydded: http://www.nationalarchives.gov.uk/doc/open-government-licence-cymraeg/version/3/
  • Er ein bod yn annog ailddefnyddio ein data o fewn apiau rhyngweithiol, gwefannau, adroddiadau ac ati, mae defnydd o’n logo wedi’i gyfyngu ac ni chaniateir i unigolion neu gyrff eraill ei ddefnyddio heb ganiatâd ffurfiol gennym. I ofyn am ganiatâd i ddefnyddio ein logo ebostiwch: brandingqueries@wales.gsi.gov.uk
  • Gwasanaeth Beta yw hwn ac mae lled band gwasanaeth yr API yn gyfyngedig. Dylech gadw hyn mewn cof wrth ddylunio apiau. Dylid rhoi ystyriaeth i ddulliau storio addas gan nodi bod Llywodraeth Cymru yn gwneud newidiadau dyddiol i’r catalog a’r metadata, a chylchoedd datganiadau ystadegol misol a blynyddol.
  • Mae gennym ddiddordeb, wrth gwrs, mewn gwybod pwy sy’n defnyddio ein data, sut maent yn bwriadu eu defnyddio ac unrhyw broblemau sy’n codi. Felly os oes gennych unrhyw gwestiynau neu adborth cysylltwch â ni: http://gov.wales/statistics-and-research/about/contacts-statistics/?skip=1&lang=cy

Model Data

Ceir esboniad isod o grynodeb o’r meysydd a ddychwelir gan bob tabl.

Cwmpas Pennawd y Maes/Colofn Disgrifiad
Pob tabl Timestamp Y dyddiad/amser pan gafodd y cofnod rhes ei ddiweddaru
ETag Wedi’i neilltuo
PartitionKey Maes wedi’i neilltuo (defnyddir i osod graddfa’r storfa dabl ond yn aml yn cyfateb i’r Dataset ID)
RowKey Maes wedi’i neilltuo (defnyddir gyda PartitionKey i nodi’r rhes gofnodi unigryw)
Dataset
Yn y tabl yma ceir gwerth y data a’r cyfuniad cyfatebol o werthoedd eitemau dimensiwn
Data Mae gan bob tabl y gwerth yma, sy’n cynnwys y mesur degol heb ei dalgrynnu.
{dimension}_ItemName_ENG* Enw’r eitem sy’n berthnasol i’r dimensiwn.
*ENG yw Saesneg, WEL yw Cymraeg, byddai tablau amlieithog yn cynnwys y ddwy golofn.
{dimension}_CODE Y cod unigryw cyfatebol ar gyfer y gwerth eitem penodol hwn
{dimension}_SortOrder Trefn yr eitemau
{dimension}_Hierarchy Yr hierarchaeth eitemau a fydd yn cyfeirio at god cyfatebol
Metadata
Metadata ar gyfer y setiau data mewn un tabl
Tag_ENG* Enw’r maes
Description_ENG* Gwerth maes y metadata
TagType_ENG* Tab tabl (defnyddir i grwpio’r meysydd metadata yn gyfleus)
Dataset ID y set ddata y mae’r darn hwn o fetadata yn perthyn iddi
Catalogue
Y tabl sy’n cyfateb i gatalog StatsCymru
FolderPath URI cymharol y safle catalog
ViewName_ENG* Enw’r adroddiad
HierarchyPath_ENG* Strwythur hierarchaeth y catalog (briwsion)
DatasetURI_ENG* Lleoliad uniongyrchol diweddbwynt OData y set ddata gysylltiedig (os yw’n bodoli)
Dataset Yr ID a ddefnyddir ar gyfer y set ddata o fewn yr adroddiad
Dimension Types
Rhestr unigryw o fathau o ddimensiynau a’u diffiniadau
SemanticKey Gwerth unigryw (wedi’i greu o’r math a’r is-fath) a ddefnyddir i baru dimensiynau cyfatebol ledled setiau data (e.e. “Geography\Local Authority”)
ExternalURI_ENG* Dolen i ddisgrifiad allanol awdurdodol lle mae wedi’i ddiffinio
SubType Is-fath o ddimensiwn (e.e. “Local Authority”)
SubTypeDesc_ENG* Disgrifiad o’r is-fath sy’n ddarllenadwy gan berson
Type Y prif fath o ddimensiwn (e.e. “Geography”)
TypeDesc_ENG* Disgrifiad o’r math sy’n ddarllenadwy gan berson
Dimension Items
Rhestr unigryw o werthoedd dimensiynau
Code Cod sy’n gysylltiedig â’r eitem ddimensiwn
Description_ENG* Y label a roddir i’r eitem (e.e. Cardiff)
AltCode1
AltCode2
AltCode3
Unrhyw godau amgen a ddefnyddir ar gyfer yr eitem
Hierarchy
SemanticKey Allwedd unigryw y dimensiwn y mae’r eitem hon yn perthyn iddo (lle bo hyn yn berthnasol)
Dataset Dimensions
Rhestr unigryw o’r dimensiynau a ddefnyddir ar gyfer pob set ddata
DimensionName_ENG* Enw’r dimensiwn fel y’i nodir o fewn y set ddata
Notes_ENG* Nodyn dimensiwn (metadata) ar gyfer y dimensiwn o fewn y set ddata lle mae wedi’i ddiffinio
ExternalURI_ENG* Dolen i ddisgrifiad allanol awdurdodol ar gyfer y dimensiwn
DimensionURI_ENG* Ymholiad OData sy’n darparu’r data ar gyfer y dimensiwn a’r set ddata benodol
SemanticKey Allwedd unigryw ar gyfer y math o ddimensiwn (lle mae wedi’i ddiffinio)
Dataset ID y set ddata y mae’r dimensiwn hwn yn perthyn iddi
DatasetDescription_ENG* Teitl y set ddata
DatasetURI_ENG* Lleoliad uniongyrchol y diweddbwynt OData ar gyfer y set ddata
Dataset Dimension Items Description_ENG Enw’r eitem ddimensiwn
Code Cod sy’n gysylltiedig â’r eitem
AltCode1
AltCode2
AltCode3
Unrhyw godau amgen a ddefnyddir ar gyfer yr eitem ddimensiwn hon
SortOrder Trefn ar gyfer yr eitem (gan ddefnyddio Code o fewn yr un PartitionKey)
Hierarchy Yn cyfeirio at riant yr eitem ddimensiwn hon (gan ddefnyddio Code o fewn yr un PartitionKey)
DimensionName_ENG Enw’r dimensiwn fel y’i diffinnir o fewn y set ddata
Notes_ENG
SemanticKey Allwedd unigryw ar gyfer y math o ddimensiwn (lle mae wedi’i ddiffinio)
Dataset Y set ddata y mae’r dimensiwn a’r eitem hyn yn perthyn iddi
*Byddai colofnau Saesneg yn cael eu cyfnewid am y colofnau Cymraeg o’r diweddbwynt Cymraeg.


1Rhyngwyneb sy’n ddarllenadwy gan beiriant (ac sydd weithiau’n rhaglenadwy) yw gwasanaeth gwe, a gellir cyfeirio ato fel API. Mae StatsCymru yn defnyddio gwasanaethau gwe REST sy’n gydnaws â fersiwn 2/3 safon OData (gweler www.Odata.org a https://en.wikipedia.org/wiki/Web_service am ragor o wybodaeth).

2Mewn data crai mae’r holl fformatio wedi’i ddileu, ond maent wedi’u trefnu er mwyn rhoi rhywfaint o strwythur i’r testun (e.e. CSV [comma separated variable] yw’r fformat symlaf ar gyfer data crai). Gellir atodi cystrawen ychwanegol i ddata crai, sy’n ei gwneud hi’n rhwyddach i beiriant eu darllen, ond yn anos i bobl. Yn ein system ni, mae’r ymatebion metadata API yn cael eu dychwelyd ar ffurf XML a data tabl StatsCymru ar ffurf JSON. Gweler http://www.w3schools.com/json/ am ragor o wybodaeth am y nodiannau hyn.

3Diweddbwyntiau yw’r cyfeiriadau URL cychwynnol (cyfeiriadau neu ddolenni gwe). Mae gan y rhain baramedrau ychwanegol (cystrawen o eiriau, slaesau, marciau cwestiwn ac ati) wedi’u hychwanegu atynt sy’n dweud wrth y gwasanaeth pa wybodaeth i’w dychwelyd.

4Mae’r ymholiadau cyfansawdd y gellid eu cynnal yn cynnwys cwestiynau megis “dywed wrthyf pa setiau data yn StatsCymru sydd ar gael fesul awdurdod lleol”, “pa setiau data sydd ar gael ar gyfer Caerdydd yn 2012”, “Pa setiau data sy’n dangos y rhaniad rhwng gwrywod a benywod”.

5Trwy ddiffiniad, mae’r metadata API yn cydymffurfio â safon OData a dim ond yn Saesneg y mae ar gael.

6Mae DCAT yn eirfa (neu gystrawen) data a ddyluniwyd er mwyn hwyluso rhyngweithredadwyedd (cydnawsedd) rhwng catalogau data sydd wedi’u cyhoeddi ar y we – gweler http://www.w3.org/TR/vocab-dcat/ am ragor o wybodaeth.