Mae'r tabl yn dangos nifer y tânau, y bobl a gafodd eu hanafu a'r galwadau ffug tân yr ymatebodd yr Awdurdodau Tân ac Achub yng Nghymru iddynt bob chwarter.
Cafodd data cyn mis Ebrill 2009 ei gasglu trwy'r ffurflenni papur, FDR1 a FDR3. Mae niferoedd y tanau cyn mis Ebrill 2009 yn seiliedig ar gronfa ddata wedi'i samplu.
Ers 2009-10, mae data wedi'i echdynnu o'r System Cofnodi Digwyddiadau (IRS). System fyw yw hon, felly mae'n bosibl na fydd data a echdynnwyd ar adeg wahanol yn cyfateb i'r ffigurau yn y tabl hwn. Er enghraifft mae’r data cyhoeddedig yn y tablau Dangosydd Perfformiad yn cael eu hechdynnu ar amseroedd gwahanol ac felly efallai ni fydden yn cyd-fynd yn union gyda’r rhai rhoddwyd yma.
Cafodd data 2009-10 ei echdynnu o'r IRS ym mis Mai 2011.
Cafodd data 2010-11 ei echdynnu o'r IRS ym mis Mai 2012.
Cafodd data 2011-12 ei echdynnu o'r IRS ym mis Mai 2013.
Cafodd data 2012-13 ei echdynnu o'r IRS ym mis Mai 2014.
Cafodd data 2013-14 ei echdynnu o'r IRS ym mis Mehefin 2015.
Cafodd data 2014-15 ei echdynnu o'r IRS ym mis Gorffennaf 2016.
Cafodd data 2015-16 ei echdynnu o'r IRS ym mis Gorffennaf 2017.
Cafodd data 2016-17 ei echdynnu o'r IRS ym mis Gorffennaf 2018.
Cafodd data 2017-18 ei echdynnu o'r IRS ym mis Gorffennaf 2019.
Cafodd data 2018-19 ei echdynnu o'r IRS ym mis Medi 2020
Cafodd data 2019-20 ei echdynnu o'r IRS ym mis Awst 2021
Cafodd data 2020-21 ei echdynnu o'r IRS ym mis Awst 2022
Cafodd data 2021-22 ei echdynnu o'r IRS ym mis Awst 2023
Cafodd data 2022-23 a 2023-24 ei echdynnu o'r IRS ym mis Awst 2024
Cafodd data Ebrill 2024 i Medi 2024 ei echdynnu o'r IRS ym mis Chwefror 2025
Mae data 2023-24 a data Ebrill i Medi 2024 yn rhai dros dro, a byddant yn cael eu diweddaru ym mis Medi 2025.
Ychwanegwyd at StatsCymru: Gorffennaf 2012
Ffynhonnell: Yr Sywddfa Gartref
Cyswllt: ystadegau.cynhwysiant@llyw.cymru
Cafodd data cyn 2009-10 ei gasglu trwy ffurflenni papur yr Adroddiad Data Tân (FDR). Mae data o 2009-10 ymlaen wedi'i gasglu trwy'r System Cofnodi Digwyddiadau (IRS).
Dwywaith y flwyddyn
Dangosir data mewn chwarteri, wedi'i ddosbarthu mewn blynyddoedd ariannol. O 2007-08 i Medi 2024
Mae'r data'n cael ei ddefnyddio i lywio penderfyniadau polisi ac i ddarparu gwybodaeth gyd-destunol. Mae'r data'n cael ei ddefnyddio gan Lywodraeth Cymru i helpu i fonitro tueddiadau mewn digwyddiadau y mae'r Gwasanaeth Tân ac Achub yn ymateb iddynt dros amser, ac mae'n darparu gwybodaeth am berfformiad a gweithgareddau'r Awdurdod Tân ac Achub i bobl a chymunedau Cymru.
I gael mwy o wybodaeth, gweler y ddolen we.
Mae data tanau cyn 2009-10 yn seiliedig ar set ddata wedi'i samplu, felly maent wedi'u talgrynnu i'r rhif cyfan agosaf. Oherwydd hyn, efallai na fydd symiau'r cydrannau yn cyfateb i'r cyfansymiau a ddangosir.
Mae diwygiadau wedi'u nodi gydag (r). Mae'r flwyddyn ddiweddaraf a ddangosir yn gofnod dros dro, ac efallai y bydd yn newid y tro nesaf y bydd y tabl yn cael ei ddiweddaru.