Ers 2009-10, mae data wedi'i echdynnu o'r System Cofnodi Digwyddiadau (IRS). System fyw yw hon, felly mae'n bosibl na fydd data a echdynnwyd ar adeg wahanol yn cyfateb i'r ffigurau yn y tabl hwn. Er enghraifft mae’r data cyhoeddedig yn y tablau Dangosydd Perfformiad yn cael eu hechdynnu ar amseroedd gwahanol ac felly efallai ni fydden yn cyd-fynd yn union gyda’r rhai rhoddwyd yma. Mae data ar Danau a Galwadau Ffug ar gyfer 2004-05 tan 2008-09 yn dod o'r ffurflenni papur FDR1 ac FDR3. Mae data ar Ddigwyddiadau Gwasanaeth Arbennig ar gyfer 2004-05 tan 2008-09 yn dod o gasgliadau data Tanau Gweithredol. Cafodd yr holl ddata o 2009-10 ymlaen ei echdynnu o'r System Cofnodi Digwyddiadau (IRS). Cafodd data 2009-10 ei echdynnu o'r IRS ym mis Mai 2011. Cafodd data 2010-11 ei echdynnu o'r IRS ym mis Mai 2012. Cafodd data 2011-12 ei echdynnu o'r IRS ym mis Mai 2013. Cafodd data 2012-13 ei echdynnu o'r IRS ym mis Mai 2014. Cafodd data 2013-14 ei echdynnu o'r IRS ym mis Mehefin 2015. Cafodd data 2014-15 ei echdynnu o'r IRS ym mis Gorffennaf 2016. Cafodd data 2015-16 ei echdynnu o'r IRS ym mis Gorffennaf 2017. Cafodd data 2016-17 ei echdynnu o'r IRS ym mis Gorffennaf 2018. Cafodd data 2017-18 ei echdynnu o'r IRS ym mis Gorffennaf 2019. Cafodd data 2018-19 ei echdynnu o'r IRS ym mis Medi 2020 Cafodd data 2019-20 ei echdynnu o'r IRS ym mis Awst 2021 Cafodd data 2020-21 ei echdynnu o'r IRS ym mis Awst 2022 Cafodd data 2021-22 ei echdynnu o'r IRS ym mis Awst 2023 Cafodd data 2022-23 a 2023-24 ei echdynnu o'r IRS ym mis Awst 2024 Mae data 2023-24 yn ddata dros dro, a bydd yn cael ei ddiweddaru ym mis Medi 2025.
Ffynhonnell: Yr Swyddfa Gartref Cyswllt: stats.inclusion@gov.wales
Casgliad data a dull cyfrifo
Casglwyd data trwy'r System Cofnodi Digwyddiadau (IRS).
Mae'r data'n cael ei ddefnyddio i lywio penderfyniadau polisi ac i ddarparu gwybodaeth gyd-destunol. Mae'r data'n cael ei ddefnyddio gan Lywodraeth Cymru i helpu i fonitro tueddiadau mewn digwyddiadau y mae'r Gwasanaeth Tân ac Achub yn ymateb iddynt dros amser, ac mae'n darparu gwybodaeth am berfformiad a gweithgareddau'r Awdurdod Tân ac Achub i bobl a chymunedau Cymru. I gael mwy o wybodaeth, gweler y ddolen we.
Talgrynnu wedi'u ddefnyddio
Mae data tanau cyn 2009-10 yn seiliedig ar set ddata wedi'i samplu, felly maent wedi'u talgrynnu i'r rhif cyfan agosaf. Oherwydd hyn, efallai na fydd symiau'r cydrannau yn cyfateb i'r cyfansymiau a ddangosir.
Gwybodaeth am ddiwygiadau
Mae diwygiadau wedi'u nodi gydag (r). Mae'r flwyddyn ddiweddaraf a ddangosir yn gofnod dros dro, ac efallai y bydd yn newid y tro nesaf y bydd y tabl yn cael ei ddiweddaru.
Teitl
Tanau, digwyddiadau gwasanaeth arbennig a galwadau ffug a ymatebwyd iddynt gan Awdurdodau Tân ac Achub yng Nghymru
Ers 2009-10, mae data wedi'i echdynnu o'r System Cofnodi Digwyddiadau (IRS). System fyw yw hon, felly mae'n bosibl na fydd data a echdynnwyd ar adeg wahanol yn cyfateb i'r ffigurau yn y tabl hwn. Er enghraifft mae’r data cyhoeddedig yn y tablau Dangosydd Perfformiad yn cael eu hechdynnu ar amseroedd gwahanol ac felly efallai ni fydden yn cyd-fynd yn union gyda’r rhai rhoddwyd yma.