
None
|
Metadata
- Gwybodaeth lefel uchel
- Gwybodaeth cryno
- Dolenni'r we
- Gwybodaeth ansawdd ystadegol
- Allweddeiriau
- Data agored
Teitl
Amcangyfrif o nifer y bobl 16-24 oed nad ydynt mewn addysg, hyfforddiant neu gyflogaeth yng Nghymru, yn ôl rhyw, gweithgaredd economaidd a grwpiau oedran detholDiweddariad diwethaf
March 2025Diweddariad nesaf
Tachwedd 2025 (dros dro)Sefydliad cyhoeddi
Llywodraeth CymruFfynhonnell 1
Cyfrifiad Ysgolion Blynyddol ar Lefel Disgyblion (PLASC), Llywodraeth CymruFfynhonnell 2
Cofnod Dysgu Gydol Oes Cymru, Llywodraeth CymruCyswllt ebost
Ystadegau.MarchnadLafur@llyw.cymruDynodiad
Ystadegau GwladolLefel isaf o ddadelfennu daearyddol
CymruCwmpas daearyddol
CymruCwmpas ieithyddol
Saesneg yn unigTrwyddedu data
Gallwch ddefnyddio ac ailddefnyddio'r data hwn am ddim mewn unrhyw fformat neu gyfrwng, dan delerau'r Drwydded Llywodraeth Agored - gweler http://www.nationalarchives.gov.uk/doc/open-government-licence-cymraegDisgrifiad cyffredinol
Mae'r data hwn yn darparu gwybodaeth am gyfranogiad pobl 16-24 oed nad ydynt mewn addysg, hyfforddiant na chyflogaeth yn ôl grwpiau oedran dethol a gweithgaredd economaidd.Casgliad data a dull cyfrifo
Ffynhonnell: ONS (Amcangyfrifon Canol Blwyddyn ac Arolwg Poblogaeth Blynyddol), HESA, Cofnod Dysgu Gydol Oes Cymru (LLWR) Llywodraeth Cymru, Cyfrifiad Ysgolion Blynyddol ar Lefel Disgyblion (CYBLD)Mae'r Arolwg Poblogaeth Blynyddol yn cael ei ddefnyddio i amcangyfrif y cyfrannau canlynol:
• Statws marchnad lafur y rhai mewn addysg llawn amser;
• Statws marchnad lafur y rhai mewn addysg ran-amser;
• Cyflogaeth llawn amser a rhan-amser y rhai mewn Dysgu Seiliedig ar Waith sydd mewn cyflogaeth;
• Hyfforddiant 'i ffwrdd o'r gwaith' a noddir gan gyflogwr ar gyfer y rhai mewn cyflogaeth.
Defnyddir LLWR i amcangyfrif y gyfran ganlynol:
• Statws marchnad lafur y rhai sy'n cymryd rhan mewn Dysgu Seiliedig ar Waith.
Yna, mae'r cyfrannau hyn yn cael eu defnyddio mewn perthynas â'r niferoedd rydym yn gwybod eu bod mewn addysg, dysgu seiliedig ar waith a chyfanswm y boblogaeth i greu amcangyfrifon o gyfranogiad yn ôl addysg a chyflogaeth. Ar gyfer Dysgwyr Seiliedig ar Waith, mae'r statws marchnad lafur ar ddechrau'r rhaglen ddysgu a gesglir trwy LLWR yn cael ei ddefnyddio gyda rhywfaint o ddata APS i amcangyfrif y cyfrannau mewn cyflogaeth llawn amser a rhan-amser.
Amlder cyhoeddi
BlynyddolCyfnodau data dan sylw
Mae data'n cael ei gyhoeddi'n flynyddol. Mae data 2023 yn ddata dros dro.Defnyddwyr, defnydd a chyd-destun
Yn darparu data i lunwyr polisi a'r rhai sy'n gweithio gyda phobl ifanc fel y gallant fonitro tueddiadau cyfranogiad ac asesu effaith ymyriadau addysg a'r farchnad lafur ar bobl ifanc.Talgrynnu wedi'u ddefnyddio
Mae data wedi'i dalgrynnu i'r cant agosaf. Oherwydd talgrynnu, efallai na fydd symiau'r rhesi a'r colofnau'n ychwanegu at y cyfanswm a roddir.Gwybodaeth am ddiwygiadau
Mae ffigurau 2023 yn ffigurau dros dro a byddant yn cael eu cyflwyno fel ffigurau terfynol yng nghyhoeddiad y flwyddyn nesaf, a gyhoeddir ym mis Tachwedd 2025.Mae amcangyfrifon a gyhoeddwyd yn flaenorol rhwng 2012 a 2021 wedi’u diwygio yn y datganiad hwn er mwyn cynnwys amcangyfrifon poblogaeth wedi'u hailseilio gan ddefnyddio data Cyfrifiad 2021, a gyhoeddwyd ym mis Tachwedd 2023 gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol (ONS).
Dolenni'r we
http://gov.wales/statistics-and-research/participation-young-people-education-labour-marketAnsawdd ystadegol
Diweddarwyd y fethodoleg a ddefnyddir i gynhyrchu data'r Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch (HESA) ym mlwyddyn academaidd 2022/23, gan effeithio ar amcangyfrifon NEET o 2022 ymlaen. Bach iawn yw effaith y newid hwn yn y fethodoleg ar yr amcangyfrifon, gyda'r gwahaniaeth yn y boblogaeth myfyrwyr addysg uwch rhwng yr hen fethodoleg a'r fethodoleg newydd yn llai nag 1 pwynt canran. O ystyried hyn, nid oes angen torri’r gyfres amser, a gellir gwneud cymariaethau cyn ac ar ôl 2022 o hyd. Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn y nodyn methodoleg (https://www.llyw.cymru/cyfranogiad-pobl-ifanc-mewn-addysg-ar-farchnad-lafur-nodyn-methodoleg).Gwnaed newidiadau i'r fethodoleg a ddefnyddir i ddeillio'r amcangyfrifon cyfranogiad a gyflwynwyd ar gyfer diwedd blwyddyn 2004. Dylid bod yn ofalus wrth gymharu'r amcangyfrifon hyn ag amcangyfrifon o ddiwedd blwyddyn 2004 ymlaen.
Mae'r cyfrannau statws economaidd yn cael eu hamcangyfrif o'r Arolwg Poblogaeth Blynyddol. Felly, bydd yr amcangyfrifon hyn yn amodol ar amrywiad oherwydd gwall samplu a gwall arall, a dylid eu trin yn ofalus.