Neidio i'r cynnwys
Darparwr data: Llywodraeth Cymru Ystadegau Gwladol Cyfranogiad unigolion 16-30 oed mewn addysg yn ôl dull, oedran a blwyddyn
None

Metadata

Teitl

Cyfranogiad pobl 16-30 oed mewn addysg yn ôl oedran

Diweddariad diwethaf

Hydref 2023 Hydref 2023

Diweddariad nesaf

Gorffennaf 2024 (dros dro)

Sefydliad cyhoeddi

Llywodraeth Cymru

Ffynhonnell 1

Cyfrifiad Ysgolion Blynyddol ar Lefel Disgyblion (PLASC), Llywodraeth Cymru

Ffynhonnell 2

Cofnod Dysgu Gydol Oes Cymru, Llywodraeth Cymru

Ffynhonnell 1

Eraill: Ôl - 16 Cyfrifiad Ysgolion Blynyddol ar Lefel Disgyblion (PLASC), Llywodraeth Cymru; Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch; Amcanestyniadau Poblogaeth Canol y flwyddyn, y Swyddfa Ystadegau Gwladol

Cyswllt ebost

Ystadegau.MarchnadLafur@llyw.cymru

Dynodiad

Ystadegau Gwladol

Lefel isaf o ddadelfennu daearyddol

Cymru

Cwmpas daearyddol

Cymru

Cwmpas ieithyddol

Saesneg yn unig

Trwyddedu data

Gallwch ddefnyddio ac ailddefnyddio'r data hwn am ddim mewn unrhyw fformat neu gyfrwng, dan delerau'r Drwydded Llywodraeth Agored - gweler http://www.nationalarchives.gov.uk/doc/open-government-licence-cymraeg

Disgrifiad cyffredinol

Mae'r data hwn yn darparu gwybodaeth am gyfranogiad pobl 16-30 oed mewn addysg a hyfforddiant yn ôl grwpiau oedran dethol. Cyflwynir data oedran blwyddyn unigol hefyd. Gellir darparu data ar grwpiau oedran eraill yn yr ystod 16-30 oed ar gais.

Casgliad data a dull cyfrifo

Ffynhonnell ddata: ONS (amcangyfrifon poblogaeth canol blwyddyn), HESA, Cofnod Dysgu Gydol Oes Cymru (LLWR) Llywodraeth Cymru, Cyfrifiad Ysgolion Blynyddol ar Lefel Disgyblion (CYBLD)

Amlder cyhoeddi

Blynyddol

Cyfnodau data dan sylw

Mae data'n cael ei gyhoeddi'n flynyddol. Mae data 2022 yn ddata dros dro.

Defnyddwyr, defnydd a chyd-destun

Yn darparu data i lunwyr polisi a'r rhai sy'n gweithio gyda phobl ifanc fel y gallant fonitro tueddiadau cyfranogiad ac asesu effaith ymyriadau addysg a'r farchnad lafur ar bobl ifanc.

Talgrynnu wedi'u ddefnyddio

Mae'r rhan fwyaf o'r data'n cael ei dalgrynnu i'r deg agosaf, ac eithrio o amcangyfrifon poblogaeth sy'n cael eu talgrynnu i'r cant agosaf. Oherwydd talgrynnu, efallai na fydd symiau'r rhesi a'r colofnau'n ychwanegu at y cyfanswm a roddir.

Gwybodaeth am ddiwygiadau

Mae ffigurau 2022 yn ffigurau dros dro a byddant yn cael eu cyflwyno fel ffigurau terfynol yng nghyhoeddiad y flwyddyn nesaf, a gyhoeddir ym mis Gorffennaf 2024.

Allweddeiriau

Cyfranogiad

Ansawdd ystadegol

Ers 2004, mae'r poblogaethau diwedd blwyddyn wedi deillio o'r amcangyfrifon canol blwyddyn a'r rhagamcaniadau poblogaeth a ddarperir gan ONS, a'u haddasu i'r oedran ar 31 Awst. Er enghraifft, defnyddir oedran ar 31 Awst 2018 yn y ffigurau dros dro ar gyfer diwedd blwyddyn 2018.

Mae'r cyfrannau statws economaidd yn cael eu hamcangyfrif o'r Arolwg Poblogaeth Blynyddol. Felly, bydd yr amcangyfrifon hyn yn amodol ar amrywiad oherwydd gwall samplu a gwall arall, a dylid eu trin yn ofalus.