

None
|
Metadata
- Gwybodaeth lefel uchel
- Gwybodaeth cryno
- Gwybodaeth ansawdd ystadegol
- Allweddeiriau
- Dolenni'r we
- Data agored
Teitl
Lefelau'r cymwysterau uchaf sydd gan oedolion o oedran gweithio yn ôl gwlad yn y DU (lefel cymhwyster, rhyw)Diweddariad diwethaf
Ebrill 2022Diweddariad nesaf
Ebrill 2023 (dros dro)Sefydliad cyhoeddi
Llywodraeth CymruFfynhonnell 1
Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth, y Swyddfa Ystadegau GwladolCyswllt ebost
ystadegau.addysgol16@llyw.cymruDynodiad
Ystadegau GwladolLefel isaf o ddadelfennu daearyddol
Rhanbarthau'r DUCwmpas daearyddol
Y Deyrnas UnedigCwmpas ieithyddol
Saesneg yn unigTrwyddedu data
Gallwch ddefnyddio ac ailddefnyddio'r data hwn am ddim mewn unrhyw fformat neu gyfrwng, dan delerau'r Drwydded Llywodraeth Agored - gweler http://www.nationalarchives.gov.uk/doc/open-government-licence-cymraegDisgrifiad cyffredinol
Cyflwynir data ar gyfer oedolion o oedran gweithio h.y. ar sail 1. dynion a menywod 18-64 a 2. dynion 18-64 a menywod 18-59, fel y nodwyd mewn datganiadau cynharach (cyn data 2015) - yn ôl eu hoedran ar ddechrau'r flwyddyn academaidd. Dylid nodi bod data ar gyfer oedolion o oedran gweithio, ar sail dynion a menywod 18-64 oed, ond ar gael o 2008 ymlaen.Cyswllt: Post16ed.stats@gov.wales
Casgliad data a dull cyfrifo
Ffynhonnell: Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth/Arolwg blynyddol Llafurlu Lleol, Swyddfa Ystadegau GwladolMae’r data a ddangosir wedi’u seilio ar ganlyniadau’r Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth ar gyfer 2004 ymlaen, ac o Arolwg blynyddol Llafurlu Lleol Cymru ar gyfer 2001-2003; mae’r ddau’n arolygon o aelwydydd a gyflawnir gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol.
O 2001 ymlaen, roedd data’r Arolwg blynyddol o’r Llafurlu Lleol a gasglwyd yng Nghymru wedi’u seilio ar sampl oedd cryn dipyn yn fwy.
Mae’r arolwg yn gofyn i’r ymatebwyr am y cymwysterau sydd ganddynt, ac o’r wybodaeth hon cyfrifir y cymhwyster uchaf sydd gan yr ymatebydd. Caiff y cymwysterau uchaf eu grwpio i lefelau’r Fframwaith Cymwysterau Cenedlaethol (FfCC). Rhoddir ffigurau ar gyfer y rheiny sydd wedi cael cymwysterau ar lefel benodol o leiaf, a chymwysterau hyd at a chan gynnwys lefel benodol.
O’r blaen dangoswyd data fel cyfwerthedd NVQ. O fis Medi 2004 ymlaen, ehangwyd y Fframwaith Cymwysterau Cenedlaethol (FfCC) a rhannwyd y lefelau blaenorol 4 a 5 i lefelau manylach (4-8). Dangosir data yn awr yn unol â’r dosbarthiad hwn.
Amlder cyhoeddi
BlynyddolCyfnodau data dan sylw
Ar gyfer blynyddoedd a labelir 2001 tan 2003 yn y set ddata hon, y cyfnodau gwirioneddol a gwmpesir yw'r 12 mis rhwng mis Mawrth y flwyddyn gyntaf a mis Chwefror y flwyddyn ganlynol (e.e. 2001 = 1 Mawrth 2001 tan 28 Chwefror 2002).Ers 2004, mae data blynyddol o'r Arolwg o'r Gweithlu wedi'i gynhyrchu ar dreigl blynyddol, a'i ddiweddaru bob tri mis. Mae'r cyfartaleddau blynyddol treigl ar sail galendr, gyda'r cyfartaledd blynyddol treigl cyntaf a gyflwynir yma yn cwmpasu'r cyfnod rhwng 1 Ionawr 2004 a 31 Rhagfyr 2004.
Felly, noder bod yna orgyffwrdd o ddau fis rhwng y cyfnod diwethaf a gyflwynwyd ar yr hen sail Mawrth tan Chwefror, a'r cyfnod cyntaf ar y sail newydd.