

None
|
Metadata
- Gwybodaeth cryno
- Gwybodaeth lefel uchel
- Dolenni'r we
- Allweddeiriau
- Gwybodaeth ansawdd ystadegol
- Data agored
Disgrifiad cyffredinol
Cyflwynir data ar gyfer oedolion o oedran gweithio h.y. ar sail 1. dynion a menywod 18-64 a 2. dynion 18-64 a menywod 18-59, fel y nodwyd mewn datganiadau cynharach (cyn data 2015) - yn ôl eu hoedran ar ddechrau'r flwyddyn academaidd. Dylid nodi bod data ar gyfer oedolion o oedran gweithio, ar sail dynion a menywod 18-64 oed, ond ar gael o 2008 ymlaen.Casgliad data a dull cyfrifo
Ffynhonnell: Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth, Swyddfa Ystadegau GwladolMae’r data wedi’u seilio ar ganlyniadau’r Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth ar gyfer 2004 ymlaen, sef arolwg o aelwydydd a gyflawnir gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol.
Mae’r arolwg yn gofyn i’r ymatebwyr am y cymhwyster uchaf sydd ganddynt. Wedyn caiff y cymwysterau uchaf eu grwpio i lefelau’r Fframwaith Cymwysterau Cenedlaethol (FfCC). Rhoddir ffigurau ar gyfer y rheiny sydd wedi cael cymwysterau ar lefel benodol o leiaf, a chymwysterau hyd at a chan gynnwys lefel benodol.
O’r blaen dangoswyd data fel cyfwerthedd NVQ. O fis Medi 2004 ymlaen, ehangwyd y Fframwaith Cymwysterau Cenedlaethol (FfCC) a rhannwyd y lefelau blaenorol 4 a 5 i lefelau manylach (4-8). Dangosir data yn awr yn unol â’r dosbarthiad hwn.