Lefel uchaf o gymhwyster sydd gan oedolion o oedran gweithio yn ôl rhyw, oedran a chymhwyster
None
|
Metadata
- Gwybodaeth lefel uchel
- Gwybodaeth cryno
- Dolenni'r we
- Allweddeiriau
- Gwybodaeth ansawdd ystadegol
- Data agored
Teitl
Lefelau'r cymwysterau uchaf sydd gan oedolion o oedran gweithio yn ôl grwp oedran a rhywDiweddariad diwethaf
Ebrill 2024Diweddariad nesaf
Ebrill 2025 (dros dro)Sefydliad cyhoeddi
Llywodraeth CymruFfynhonnell 1
Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth, y Swyddfa Ystadegau GwladolCyswllt ebost
ystadegau.addysgol16@llyw.cymruDynodiad
Ystadegau GwladolLefel isaf o ddadelfennu daearyddol
CymruCwmpas daearyddol
CymruCwmpas ieithyddol
Saesneg a ChymraegTrwyddedu data
Gallwch ddefnyddio ac ailddefnyddio'r data hwn am ddim mewn unrhyw fformat neu gyfrwng, dan delerau'r Drwydded Llywodraeth Agored - gweler http://www.nationalarchives.gov.uk/doc/open-government-licence-cymraegDisgrifiad cyffredinol
Cyflwynir data ar gyfer oedolion o oedran gweithio h.y. ar sail 1. dynion a menywod 18-64 a 2. dynion 18-64 a menywod 18-59, fel y nodwyd mewn datganiadau cynharach (cyn data 2015) - yn ôl eu hoedran ar ddechrau'r flwyddyn academaidd. Dylid nodi bod data ar gyfer oedolion o oedran gweithio, ar sail dynion a menywod 18-64 oed, ond ar gael o 2008 ymlaen.Cyswllt: ystadegau.addysgol16@llyw.cymru
Casgliad data a dull cyfrifo
Ffynhonnell: Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth/Arolwg blynyddol Llafurlu Lleol, Swyddfa Ystadegau GwladolMae’r data a ddangosir wedi’u seilio ar ganlyniadau’r Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth ar gyfer 2004 ymlaen, ac o Arolwg blynyddol Llafurlu Lleol Cymru ar gyfer 2001-2003; mae’r ddau’n arolygon o aelwydydd a gyflawnir gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol.
O 2001 ymlaen, roedd data’r Arolwg blynyddol o’r Llafurlu Lleol a gasglwyd yng Nghymru wedi’u seilio ar sampl oedd cryn dipyn yn fwy.
Mae’r arolwg yn gofyn i’r ymatebwyr am y cymwysterau sydd ganddynt, ac o’r wybodaeth hon cyfrifir y cymhwyster uchaf sydd gan yr ymatebydd. Caiff y cymwysterau uchaf eu grwpio i lefelau’r. Rhoddir ffigurau ar gyfer y rheiny sydd wedi cael cymwysterau ar lefel benodol o leiaf, a chymwysterau hyd at a chan gynnwys lefel benodol.
O’r blaen dangoswyd data fel cyfwerthedd NVQ. O fis Medi 2004 ymlaen, ehangwyd y Fframwaith Cymwysterau Cenedlaethol (FfCC) a rhannwyd y lefelau blaenorol 4 a 5 i lefelau manylach (4-8). Dangosir data yn awr yn unol â’r dosbarthiad hwn.
Does dim modd cymharu'r ystadegau a gyflwynir yma ar gyfer 2022 gyda'r blynyddoedd blaenorol oherwydd y newidiadau i’r cwestiynau am gymwysterau yn yr Arolwg Llafurlu/Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth. Mae'r cwestiynau, wedi’u seilio’n flaenorol ar y Fframwaith Cymwysterau Cenedlaethol (FfCC), wedi'u diweddaru i adlewyrchu'r Fframwaith Cymwysterau Rheoleiddiedig (RQF). Mae rhagor o fanylion ynghylch hyn i’w gweld yn Gwybodaeth am Ansawdd y datganiad ystadegol.
Amlder cyhoeddi
BlynyddolCyfnodau data dan sylw
Ar gyfer blynyddoedd a labelir 2001 tan 2003 yn y set ddata hon, y cyfnodau gwirioneddol a gwmpesir yw'r 12 mis rhwng mis Mawrth y flwyddyn gyntaf a mis Chwefror y flwyddyn ganlynol (e.e. 2001 = 1 Mawrth 2001 tan 28 Chwefror 2002).Ers 2004, mae data blynyddol o'r Arolwg o'r Gweithlu wedi'i gynhyrchu ar dreigl blynyddol, a'i ddiweddaru bob tri mis. Mae'r cyfartaleddau blynyddol treigl ar sail galendr, gyda'r cyfartaledd blynyddol treigl cyntaf a gyflwynir yma yn cwmpasu'r cyfnod rhwng 1 Ionawr 2004 a 31 Rhagfyr 2004.
Felly, noder bod yna orgyffwrdd o ddau fis rhwng y cyfnod diwethaf a gyflwynwyd ar yr hen sail Mawrth tan Chwefror, a'r cyfnod cyntaf ar y sail newydd.
Defnyddwyr, defnydd a chyd-destun
Mae’r ystadegau’n cael eu defnyddio o fewn Llywodraeth Cymru i fonitro tueddiadau mewn lefelau cymwysterau. Mae’r datganiad yma yn cynnwys data ar gyfer un o’r dangosyddion cenedlaethol (8 - Y ganran o’r oedolion â chymwysterau ar y gwahanol lefelau yn y Fframwaith Cymwysterau Cenedlaethol) a dwy garreg filltir genedlaethol gysylltiedig.Mae’r ystadegau hyn, ynghyd â’r dangosydd cenedlaethol a’r cerrig milltir cenedlaethol wedi’u cynnwys yn benodol yn Cymru gryfach, decach a gwyrddach: cynllun cyflogadwyedd a sgiliau.