Neidio i'r cynnwys
Darparwr data: Llywodraeth Cymru Ystadegau Gwladol Lefelau uchaf o gymhwyster sydd gan oedolion o oedran gweithio yn ôl gwlad yn y DU, rhanbarth a chymhwyster
None
Codau Ardal[Hidlo]
BlwyddynAr gyfer y blynyddoedd wedi\’u labelu 2001 i 2003 yn y set ddata hon, y gwir gyfnodau yr ymdrinnir â hwy yw\’r 12 mis o fis Mawrth yn y flwyddyn a nodir i fis Chwefror yn y flwyddyn ganlynol (e.e. 2001 = 1 Mawrth 2001 i 28 Chwefror 2002). Ers 2004, mae\'r data blynyddol wedi cael eu cynhyrchu fel data blynyddol treigl, sy\'n cael eu diweddaru bob tri mis. Mae\'r cyfartaleddau blynyddol treigl yn dilyn y calendr ac mae\'r cyfartaledd blynyddol treigl cyntaf a ddangosir yma yn ymdrin â\'r cyfnod 1 Ionawr 2004 i 31 Rhagfyr 2004. Nodwch felly bod y cyfnod olaf a ddangosir ar yr hen sail Mawrth i Chwefror, a\’r cyfnod cyntaf ar y sail newydd, yn gorgyffwrdd gan ddau fis.[Hidlwyd]
RhywGwryw neu Fenyw[Hidlo]
Rhyw 1[Hidlo]
Oedran Gweithio[Hidlo]
Measure1
CymhwysterLefel y cymhwyster uchaf a ddelir. O\’r blaen dangoswyd data fel cyfwerthedd NVQ. O fis Medi 2004 ymlaen, ehangwyd y Fframwaith Cymwysterau Cenedlaethol (FfCC) a rhannwyd y lefelau blaenorol 4 a 5 i lefelau manylach (4-8). O 2022 mae\'r cwestiynau, wedi\’u seilio\’n flaenorol ar y Fframwaith Cymwysterau Cenedlaethol (FfCC), wedi\'u diweddaru i adlewyrchu\'r Fframwaith Cymwysterau Rheoleiddiedig (RQF). Mae rhagor o fanylion ynghylch hyn i\’w gweld yn Gwybodaeth am Ansawdd y datganiad ystadegol.[Hidlo]
[Lleihau]Ardal[Hidlo]
-
-
[Lleihau]Ardal 1
-
-
Ardal 2
Cliciwch yma i ddidoliDim cymwysterauCliciwch yma i ddidoliWedi’u cymhwyso i lefel 2 neu uwchCliciwch yma i ddidoliWedi’u cymhwyso i lefel 3 neu uwchCliciwch yma i ddidoliWedi’u cymhwyso i lefel 4 neu uwch
[Lleihau]Y Deyrnas Unedig
Y Deyrnas Unedig[Ehangu]Cymru
[Lleihau]Lloegr
LloegrGogledd-ddwyrain Lloegr
Gogledd-orllewin Lloegr
Swydd Efrog a'r Humber
Dwyrain Canolbarth Lloegr
Gorllewin Canolbarth Lloegr
Dwyrain Lloegr
Llundain
De-ddwyrain Lloegr
De-orllewin Lloegr
[Ehangu]Yr Alban
[Ehangu]Gogledd Iwerddon

Metadata

Teitl

Lefelau'r cymwysterau uchaf sydd gan oedolion o oedran gweithio yn ôl gwlad a rhanbarth yn y DU (lefel cymhwyster, rhanbarth y DU, rhyw)

Diweddariad diwethaf

Ebrill 2023 Ebrill 2023

Diweddariad nesaf

Ebrill 2024 (dros dro)

Sefydliad cyhoeddi

Llywodraeth Cymru

Ffynhonnell 1

Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth, y Swyddfa Ystadegau Gwladol

Cyswllt ebost

ystadegau.addysgol16@llyw.cymru

Dynodiad

Ystadegau Gwladol

Lefel isaf o ddadelfennu daearyddol

Rhanbarthau'r DU

Cwmpas daearyddol

Y Deyrnas Unedig

Cwmpas ieithyddol

Saesneg a Chymraeg

Trwyddedu data

Gallwch ddefnyddio ac ailddefnyddio'r data hwn am ddim mewn unrhyw fformat neu gyfrwng, dan delerau'r Drwydded Llywodraeth Agored - gweler http://www.nationalarchives.gov.uk/doc/open-government-licence-cymraeg

Disgrifiad cyffredinol

Cyflwynir data ar gyfer oedolion o oedran gweithio h.y. ar sail 1. dynion a menywod 18-64 a 2. dynion 18-64 a menywod 18-59, fel y nodwyd mewn datganiadau cynharach (cyn data 2015) - yn ôl eu hoedran ar ddechrau'r flwyddyn academaidd. Dylid nodi bod data ar gyfer oedolion o oedran gweithio, ar sail dynion a menywod 18-64 oed, ond ar gael o 2008 ymlaen.

Casgliad data a dull cyfrifo

Ffynhonnell: Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth/Arolwg blynyddol Llafurlu Lleol, Swyddfa Ystadegau Gwladol

Mae’r data a ddangosir wedi’u seilio ar ganlyniadau’r Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth ar gyfer 2004 ymlaen, ac o Arolwg blynyddol Llafurlu Lleol Cymru ar gyfer 2001-2003; mae’r ddau’n arolygon o aelwydydd a gyflawnir gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol.

O 2001 ymlaen, roedd data’r Arolwg blynyddol o’r Llafurlu Lleol a gasglwyd yng Nghymru wedi’u seilio ar sampl oedd cryn dipyn yn fwy.

Mae’r arolwg yn gofyn i’r ymatebwyr am y cymwysterau sydd ganddynt, ac o’r wybodaeth hon cyfrifir y cymhwyster uchaf sydd gan yr ymatebydd. Caiff y cymwysterau uchaf eu grwpio i lefelau’r. Rhoddir ffigurau ar gyfer y rheiny sydd wedi cael cymwysterau ar lefel benodol o leiaf, a chymwysterau hyd at a chan gynnwys lefel benodol.

O’r blaen dangoswyd data fel cyfwerthedd NVQ. O fis Medi 2004 ymlaen, ehangwyd y Fframwaith Cymwysterau Cenedlaethol (FfCC) a rhannwyd y lefelau blaenorol 4 a 5 i lefelau manylach (4-8). Dangosir data yn awr yn unol â’r dosbarthiad hwn.

Does dim modd cymharu'r ystadegau a gyflwynir yma ar gyfer 2022 gyda'r blynyddoedd blaenorol oherwydd y newidiadau i’r cwestiynau am gymwysterau yn yr Arolwg Llafurlu/Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth. Mae'r cwestiynau, wedi’u seilio’n flaenorol ar y Fframwaith Cymwysterau Cenedlaethol (FfCC), wedi'u diweddaru i adlewyrchu'r Fframwaith Cymwysterau Rheoleiddiedig (RQF). Mae rhagor o fanylion ynghylch hyn i’w gweld yn Gwybodaeth am Ansawdd y datganiad ystadegol.

Amlder cyhoeddi

Blynyddol

Cyfnodau data dan sylw

Ar gyfer blynyddoedd a labelir 2001 tan 2003 yn y set ddata hon, y cyfnodau gwirioneddol a gwmpesir yw'r 12 mis rhwng mis Mawrth y flwyddyn gyntaf a mis Chwefror y flwyddyn ganlynol (e.e. 2001 = 1 Mawrth 2001 tan 28 Chwefror 2002).

Ers 2004, mae data blynyddol o'r Arolwg o'r Gweithlu wedi'i gynhyrchu ar dreigl blynyddol, a'i ddiweddaru bob tri mis. Mae'r cyfartaleddau blynyddol treigl ar sail galendr, gyda'r cyfartaledd blynyddol treigl cyntaf a gyflwynir yma yn cwmpasu'r cyfnod rhwng 1 Ionawr 2004 a 31 Rhagfyr 2004.

Felly, noder bod yna orgyffwrdd o ddau fis rhwng y cyfnod diwethaf a gyflwynwyd ar yr hen sail Mawrth tan Chwefror, a'r cyfnod cyntaf ar y sail newydd.

Defnyddwyr, defnydd a chyd-destun

Mae’r ystadegau’n cael eu defnyddio o fewn Llywodraeth Cymru i fonitro tueddiadau mewn lefelau cymwysterau. Mae’r datganiad yma yn cynnwys data ar gyfer un o’r dangosyddion cenedlaethol (8 - Y ganran o’r oedolion â chymwysterau ar y gwahanol lefelau yn y Fframwaith Cymwysterau Cenedlaethol) a dwy garreg filltir genedlaethol gysylltiedig.
Mae’r ystadegau hyn, ynghyd â’r dangosydd cenedlaethol a’r cerrig milltir cenedlaethol wedi’u cynnwys yn benodol yn Cymru gryfach, decach a gwyrddach: cynllun cyflogadwyedd a sgiliau.


Talgrynnu wedi'u ddefnyddio

Mae canrannau wedi'u talgrynnu i un lle degol.

Gwybodaeth am ddiwygiadau

Ers y cyhoeddiad blaenorol, mae data’r Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth hyd at 2020 wedi’u hailbwysoli, ac mae’r ciwb StatsCymru hwn wedi’i ddiweddaru gyda’r data newydd hyn. Mae’r data wedi’i ailbwysoli wedi gwneud newid bach i ddata 2020 a 2021.

Allweddeiriau

Cymwysterau

Ansawdd ystadegol

Gan fod y data'n dod o arolwg, mae'r canlyniadau'n seiliedig ar amcangyfrifon sampl ac felly'n amodol ar wahanol raddau o amrywioldeb h.y. mae gwerth go iawn unrhyw fesuriad yn deillio o amrywiaeth y gwerth a amcangyfrifir. Mae'r ystod neu'r amrywioldeb hwn yn cynyddu wrth i'r manylion yn y data gynyddu; er enghraifft, mae data awdurdod lleol yn amodol ar fwy o amrywioldeb na data rhanbarthol.

Enw

EDUC0014