

None
|
Metadata
- Gwybodaeth lefel uchel
- Gwybodaeth cryno
- Gwybodaeth ansawdd ystadegol
- Dolenni'r we
- Allweddeiriau
- Data agored
Teitl
Lwfans Cynhaliaeth Addysg (LCA)Diweddariad diwethaf
30 Medi 2020Diweddariad nesaf
Medi 2021Sefydliad cyhoeddi
Llywodraeth CymruCyswllt ebost
ystadegau.addysgol16@llyw.cymruDynodiad
Ystadegau GwladolLefel isaf o ddadelfennu daearyddol
Awdurdodau lleolCwmpas daearyddol
CymruCwmpas ieithyddol
Saesneg yn unigDisgrifiad cyffredinol
Ffynhonnell: Cwmni Benthyciadau MyfyrwyrCyswllt: Post16ed.stats@gov.wales
Mae'r tabl hwn yn cyflwyno gwybodaeth am nifer y ceisiadau cymeradwy am Lwfansau Cynhaliaeth Addysg (EMAs) gan fyfyrwyr yn ysgolion Cymru ar sefydliadau addysg bellach.
Casgliad data a dull cyfrifo
Mae’r data yn seiliedig ar y ceisiadau a dderbyniwyd erbyn 31 Awst 2020, a fe’u hechdynnwyd ar 1 Medi 2020.Amlder cyhoeddi
BlynyddolCyfnodau data dan sylw
Mae ffigurau StatsCymru ar gyfer y flwyddyn academaidd gyfredol yn cael eu diweddaru’n fisol ac yn gywir ar yr amser cyhoeddi.Defnyddwyr, defnydd a chyd-destun
Mae'r tabl hwn yn cyflwyno gwybodaeth am nifer y ceisiadau cymeradwy ar gyfer Lwfansau Cynhaliaeth Addysg (EMAs) gan fyfyrwyr yn ysgolion Cymru ar sefydliadau addysg bellach. Cafodd cynllun EMA Cymru ei gyflwyno ar gyfer pobl ifanc 16 oed yn 2004/05, ei ymestyn i gynnwys pobl ifanc 17 oed yn 2005/06 ac yn olaf pobl ifanc 18 oed yn 2006/07.Mae data o 2007/08 ymlaen yn cynnwys rhai pobl ifanc 19 oed a oedd yn gymwys i gael cymorth.
Mae’r data yn seiliedig ar y ceisiadau a dderbyniwyd erbyn 31 Awst 2020 yn eu trefn, a fe’u hechdynnwyd o'r Cwmni Benthyciadau i Fyfyrwyr ar 1 Medi 2020.
Mae data o 2013 ymlaen yn ystyried y rhai a fynychodd gydag o leiaf un taliad wythnosol yn unig.
Mae'r cynllun wedi'i gynllunio fel cymhelliant i fyfyrwyr o deuluoedd incwm isel aros mewn addysg lawn amser ar ôl iddynt gyrraedd diwedd yr oedran ysgol gorfodol. Lwfans wythnosol yw'r EMA a delir bob pythefnos i fyfyrwyr mewn sefydliadau yng Nghymru.
Ers blwyddyn academaidd 2011/12, mae'r meini prawf ar gyfer myfyrwyr EMA newydd sy'n derbyn y dyfarniad o £30 wedi newid, ac nid yw'r dyfarniadau o £10 ac £20 ar gael mwyach. Efallai y bydd myfyrwyr sy'n newydd i EMA yn gymwys i gael dyfarniad o £30 yr wythnos, yn dibynnu ar incwm yr aelwyd ac amgylchiadau'r teulu. Roedd myfyrwyr a dderbyniodd EMA yn 2010/11 a ddychwelodd i addysg ac a oedd yn parhau i fodloni'r un meini prawf cymhwyster yn parhau i gael eu EMA, boed hynny'n £10, £20 neu £30 yr wythnos. 2012/13 oedd y flwyddyn olaf y rhoddwyd y dyfarniadau o £10 ac £20 i fyfyrwyr sy'n dychwelyd, ar ôl tair blynedd o dderbyn EMA. Nid yw unrhyw daliadau bonws (a oedd yn arfer cael eu talu ym mis Medi, Ionawr a Gorffennaf) wedi'u gwneud i unrhyw fyfyrwyr.
Nodwch fod bwletin blynyddol y Lwfans Cynhaliaeth Addysg yn cynnwys disgyblion yng Nghymru yn unig. Felly, gallai’r tablau hyn ddangos niferoedd sydd ychydig yn uwch, gan eu bod yn cynnwys nifer fach o ddisgyblion o’r tu allan i Gymru. Rydym yn ceisio gwella’r cysondeb rhwng y cyhoeddiadau hyn.
Mae ffigurau StatsCymru ar gyfer y flwyddyn academaidd bresennol yn cael eu diweddaru'n fisol ac yn gywir adeg cyhoeddi hwn. Maent yn amodol ar ddiwygiadau yn dilyn gwaith prosesu SLC pellach.