

None
|
Metadata
- Gwybodaeth lefel uchel
- Gwybodaeth cryno
- Gwybodaeth ansawdd ystadegol
- Dolenni'r we
- Allweddeiriau
- Data agored
Teitl
Cyfansymiau cronnus ceisiadau am EMAs, yn ôl blwyddyn academaidd a chyfnod gwaithDiweddariad diwethaf
20 Gorffennaf 2022Diweddariad nesaf
24 Awst 2022Sefydliad cyhoeddi
Llywodraeth CymruCyswllt ebost
addysguwchachyllidmyfyrwyr.Yst@llyw.cymruDynodiad
Ystadegau GwladolLefel isaf o ddadelfennu daearyddol
CymruCwmpas daearyddol
CymruCwmpas ieithyddol
Saesneg yn unigTrwyddedu data
Gallwch ddefnyddio ac ailddefnyddio'r data hwn am ddim mewn unrhyw fformat neu gyfrwng, dan delerau'r Drwydded Llywodraeth Agored - gweler http://www.nationalarchives.gov.uk/doc/open-government-licence-cymraegDisgrifiad cyffredinol
Mae'r tabl hwn yn cyflwyno gwybodaeth am nifer y ceisiadau cymeradwy am Lwfansau Cynhaliaeth Addysg (EMAs), hyd yma yn y flwyddyn academaidd bresennol, gan fyfyrwyr mewn ysgolion neu sefydliadau addysg bellach yng Nghymru.Casgliad data a dull cyfrifo
Mae'r data a welir yma yn dod o gronfa ddata swyddogol SLC ac yn seiliedig ar yr un diffiniadau a ddefnyddir ar gyfer y Cyhoeddiad Ystadegol Cyntaf.Amlder cyhoeddi
MisolCyfnodau data dan sylw
Y data'n gywir ar 31 Mehefin 2022Mae'r data'n seiliedig ar geisiadau sydd wedi dod i law erbyn diwedd pob mis calendr.
Defnyddwyr, defnydd a chyd-destun
Cafodd EMAs eu cyflwyno ar gyfer pobl ifanc 16 oed yn 2004/05, a chafodd y cynllun ei ymestyn i gynnwys pobl ifanc 17 oed yn 2005/06 a phobl ifanc 18 oed yn 2006/07 (mae pobl ifanc 19 oed yn gymwys hefyd o dan rai amgylchiadau, felly byddent yn cael eu cynnwys mewn ffigurau o 2007/08 ymlaen). Mae'r cynllun wedi'i gynllunio fel cymhelliant i fyfyrwyr o deuluoedd incwm isel aros mewn addysg lawn amser ar ôl iddynt gyrraedd diwedd yr oedran ysgol gorfodol. Lwfans wythnosol yw'r EMA a delir bob pythefnos i fyfyrwyr mewn sefydliadau yng Nghymru.Ers blwyddyn academaidd 2011/12, mae myfyrwyr sy'n newydd i EMA ond yn gymwys i gael dyfarniad o £30 yr wythnos, yn dibynnu ar incwm yr aelwyd ac amgylchiadau'r teulu. Gwnaeth myfyrwyr a dderbyniodd EMA yn 2010/11 ac a wnaeth ddychwelyd i addysg ac a oedd yn bodloni'r un meini prawf cymhwyster ag ar gyfer 2010/11 barhau i gael eu EMA, boed hynny'n £10, £20 neu £30 yr wythnos. Mae'r myfyrwyr hyn wedi gadael y system ers hynny.
Talgrynnu wedi'u ddefnyddio
Mae ffigurau wedi'u talgrynnu i'r 5 agosaf. Oherwydd talgrynnu, efallai na fydd symiau'r rhesi a'r colofnau'n ychwanegu at y cyfanswm a roddir. Mae rhifau llai na 5 (ond nid sero) yn cael eu cynrychioli gan *Ansawdd ystadegol
Mae ffigurau StatsCymru yn cael eu diweddaru'n fisol ac yn gywir adeg y cyhoeddi hwn. Maent yn amodol ar ddiwygiadau yn dilyn gwaith prosesu SLC pellach, er enghraifft, gan fod ceisiadau'n cael eu hailddosbarthu o EMA i Lwybrau i Brentisiaethau neu i'r gwrthwyneb. Am y rheswm hwn, dylai'r holl ffigurau gael eu trin fel ffigurau dros dro tan 30 Medi yn y flwyddyn academaidd dan sylw, gan eu bod yn dal yn gallu newid (e.e. mae ffigurau ar gyfer 2021/22 yn ffigurau dros dro tan 30 Medi 2022).Mae data blynyddoedd blaenorol wedi'u cadarnhau fel ffigurau terfynol. Mae data ar gyfer 2004/05 tan 2008/09 yn gywir ar 8 Mawrth 2010.