Mae'r tabl hwn yn cyflwyno nifer y ceisiadau am Gyllid Myfyrwyr, Benthyciadau Ffioedd Dysgu a dyfarniadau Grant Ffioedd Dysgu, hyd yma yn y flwyddyn academaidd bresennol, gan bob myfyriwr sy'n hanu o Gymru a myfyrwyr o'r UE sy'n astudio yng Nghymru.
Casgliad data a dull cyfrifo
Mae'r data'n seiliedig ar geisiadau sydd wedi dod i law erbyn dydd Sul diwethaf pob blwyddyn galendr (oherwydd y ffordd mae cronfa ddata'r Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr yn cael ei diweddaru) ac yn cael ei echdynnu gan y Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr. Mae'n bosibl i nifer y ceisiadau neu ddyfarniadau ostwng o un mis i'r llall gan y bydd rhai o'r ceisiadau'n cael eu canslo neu'r myfyriwr yn tynnu allan o'r cwrs.
Mae gwybodaeth fwy manwl ar gael yng Nghyhoeddiad Ystadegol Cyntaf blynyddol SLC ym mis Tachwedd, y cyhoeddwyd y rhifyn cyntaf ohono ym mis Tachwedd 2005 (data dros dro 2005/06). Noder bod y data hwn yn dod o Adroddiadau Rheoli misol SLC nad ydynt yn seiliedig ar yr un diffiniadau ag a ddefnyddir ar gyfer y Cyhoeddiad Ystadegol Cyntaf, felly mae'r ffigurau a gyhoeddir ym mis Tachwedd ychydig yn wahanol i'r rhai yn y tablau hyn.
Talgrynnu wedi'u ddefnyddio
Mae ffigurau wedi'u talgrynnu i'r 5 agosaf. Oherwydd talgrynnu, efallai na fydd symiau'r rhesi a'r colofnau'n ychwanegu at y cyfanswm a roddir. Mae rhifau llai na 5 (ond nid sero) yn cael eu cynrychioli gan *.
Teitl
Nifer gronnus y ceisiadau am gyllid myfyriwr a Benthyciadau Ffioedd Dysgu a nifer y dyfarniadau Grant Ffioedd Dysgu
Dechreuodd ceisiadau ar gyfer blwyddyn academaidd 2012/13 ar 21 Mawrth 2012, ar gyfer 2013/14 ar 1 Chwefror 2013, ar gyfer 2014/15 ar 9 Mawrth 2014 ac ar gyfer 2015/16 ar 23 Chwefror 2015. Felly, ar gyfer misoedd cynnar, gall y gwahaniaethau a welir wrth gymharu'r blynyddoedd hyn fod o ganlyniad i'r newidiadau hyn yn yr amserlen.
Allweddeiriau
Cymorth i Fyfyrwyr; AU; Addysg Uwch; Benthyciadau i Fyfyrwyr; Ffioedd Dysgu; grantiau