Rheolaeth o wastraff blynyddol gan ddull rheoli (tunnell fetrig)
None
|
Metadata
Disgrifiad cyffredinol
Casglwyd data ar wastraff trefol gan ddefnyddio system adrodd ar-lein ar gyfer data ar wastraff o'r enw 'WasteDataFlow'. Yng Nghymru, mae hyn yn cael ei reoli gan Cyfoeth Naturiol Cymru.Ymddengys fod anghysondeb rhwng cyfanswm y ffigurau gwastraff a roddwyd ar gyfer y tabl 'Gwastraff a reolwyd (tunelli)' a'r tablau eraill. Y rheswm am hyn yw bod camgymhariad bach rhwng y swm a gasglwyd a'r swm a driniwyd. Gall hyn fod yn fater o amseru os yw awdurdodau, er enghraifft, yn stoc-bentyrru gwastraff i'w drin yn ddiweddarach. Gall fod rhai anghysondebau hefyd o ran y mesur gan fod y gwastraff yn cael ei bwyso pan gaiff ei gasglu a'i bwyso eto pan gaiff ei anfon i'w drin.