Mae gwastraff y cartref yn cynnwys gwastraff y cartref a gesglir yn rheolaidd, gwastraff safleoedd amwynderau dinesig, gwastraff a gesglir ar gyfer ei ailgylchu/compostio a gwastraff a gesglir yn arbennig fel gwastraff swmpus y cartref. Pan fydd awdurdodau lleol yn casglu gwastraff nad yw'n wastraff y cartref (h.y. o fusnes, ysgol ac ati) yn yr un cylch casglu â gwastraff y cartref, mae'n bosibl na fydd rhaniad cywir rhwng y gwastraff a gesglir o'r cartref a'r gwastraff arall. Mae gwastraff nad yw'n wastraff y cartref a baratoir ar gyfer ei ailddefnyddio/ailgylchu/compostio yn cynnwys deunydd a gesglir gan awdurdodau lleol ar gyfer ei ailgylchu o ffynonellau masnachol. Mae'n cynnwys gwastraff a gesglir ar gyfer ei ailddefnyddio/ailgylchu/compostio ynghyd â gwastraff a gesglir gan sefydliadau preifat a gwirfoddol. Mae gwastraff trefol awdurdodau lleol yn cynnwys gwastraff y cartref ynghyd â gwastraff a gesglir o ffynonellau eraill, ac eithrio ceir gadawedig.
Casgliad data a dull cyfrifo
Casglwyd data ar wastraff trefol gan ddefnyddio system adrodd ar-lein ar gyfer data ar wastraff o'r enw 'WasteDataFlow'. Yng Nghymru , mae hyn yn cael ei reoli gan Cyfoeth Naturiol Cymru . O 2009-10 ymlaen, cafwyd dadansoddiad ehangach o ddeunyddiau yn ôl eu math gan WDF a dangosir y dadansoddiad hwn yma. Mae'n bosibl y bydd rhai anghysondebau yn y tablau, lle nad yw cyfanswm y cydrannau yn cyfateb i'r cyfansymiau. Yng Nghymru, caiff y system hon ei rheoli gan Cyfoeth Naturiol Cymru. Y broses dalgrynnu sy'n gyfrifol am hyn.